Mae’n Noson Calan Gaeaf
P-p-p-p-p-pigwch eich pwmpen!
Fyddai Noson Calan Gaeaf ddim yr un fath heb bwmpen. Felly, pwy well i’w holi am ffrwyth hyfryd yr hydref na’r tyfwr Gary Rees o Brooksgrove Farm yn Sir Benfro.
’Dyn ni yn mynd i hela pwmpen…
’Dyn ni’n mynd i gael un fawr…
Roedd y chwiorydd Ellie a Matilda Green wrth eu boddau’n rhedeg i’r cae pwmpenni yn Brooksgrove Farm ar gyrion Hwlffordd. Ar fore niwlog a chymylog (addas iawn ar gyfer yr achlysur) bu’r merched yn chwilio’r llond cae o ffrwythau oren, sgleiniog er mwyn dod o hyd i’r un bwmpen berffaith ar gyfer eu jac lantarn.
Eleni mae Gary Rees wedi tyfu hanner erw o bwmpenni ar fferm Brooksgrove. Bu llawer mwy o alw amdanynt nag oedd ganddo o bwmpenni, ac mae eisoes yn bwriadu tyfu mwy byth y flwyddyn nesaf. Bedair blynedd yn ôl, dywedodd Gary iddo wneud ‘penderfyniad call’ a rhoi’r gorau i’w waith pob dydd yn y maes technoleg gwybodaeth. Mae’n awr yn rhedeg fferm ei rieni ac wedi gwneud cwrs garddwriaeth. Yn y gwanwyn, mae’n cyflenwi cennin Pedr i archfarchnadoedd Cymru, yn yr haf mae ganddo gaeau o fefus i’w casglu eich hunain, ac yn yr hydref, pwmpenni. Mae ganddo rai cwsmeriaid cyfanwerthu, siopau bwyd lleol gan mwyaf, ond mae hefyd yn agor ei gae pwmpenni i’r cyhoedd er mwyn i blant, o bob oed, ddod yno i bigo’u pwmpenni eu hunain.
Mae pwmpenni o bob lliw a llun i’w cael, ac maen nhw’n cynnig gwerth da am arian.
Caiff y plant oriau o hwyl ar Noson Calan Gaeaf; yn crafu’r ffrwyth allan, eu cerfio, ac yn gwylio golau’r gannwyll drwy’r cegau cam. Gallwch hefyd eu coginio a’u storio am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd dan yr amodau iawn.
Gallech hefyd bobi’r ffefryn Americanaidd, pastai pwmpen, neu beth am gyri, picl neu rostio’r bwmpen gyda gweddill y llysiau. Mae rhai mathau’n well ar gyfer eu coginio nac eraill, a phwmpenni siwgr a phwmpenni caws yn ddau ddewis da gan fod ganddynt gnawd dwys a melys.
Gall dewis y bwmpen iawn fod fel dewis y goeden Nadolig iawn, a rhai’n cymryd hirach nag eraill i ddod o hyd i’r ‘un’.
Mae cae Gary’n llawn o bwmpenni Calan Gaeaf traddodiadol ond mae’n gobeithio tyfu mathau eraill hefyd.
Caiff y pwmpenni eu tyfu o had a’u hegino mewn ffrâm gynnes ar y fferm. Pan gaiff y planhigion bychain yn eu plannu allan rhaid cadw llygad barcud arnyn nhw am bythefnos tra’u bod yn feddal meddai Gary.
Ond wedi hynny, cyhyd â’u bod yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw, maen nhw’n gofalu amdanyn nhw’u hunain.
A mantais cae pigo’ch pwmpen eich hun? Mae’r chwilio’n blino coesau bach, yn llenwi’r ysgyfaint ag awyr iach ac yn rhoi profiad newydd, unigryw fydd yn aros yng nghof y plant yn hir iawn. Mae Gary wrth ei fodd yn gweld ymateb y plant wrth iddynt gyrraedd, ac mae’r mwynhad amlwg a’r wên ar eu hwynebau’n heintus.
Ar ôl chwilio’n ofalus, daeth Ellie, sy’n chwech oed, o hyd i’w phwmpen berffaith. Er ei bod braidd yn drwm i’w chario’n ôl i fyny’r cae, roedd yn benderfynol o beidio â’i gadael ar ôl.
Cafodd y pwmpenni eu plannu allan ddechrau mis Mehefin. Mae’r mathau’n amrywio, ond fel rheol mae’n cymryd tua 120 diwrnod iddynt ffrwytho.
Dewisodd Matilda, y chwaer iau, bwmpen wahanol iawn i Ellie. “Dwi’n hoffi hon am ei bod hi’n fach a dwi’n hoffi’r patrymau arni,” meddai.
Ar ôl eu dewis, caiff y pwmpenni eu golchi’n lân gyda bwced o ddŵr a sbwng. Os ydych chi, fel Matilda, ‘wrth eich bodd yn golchi pethau’, gallwch wneud hyn eich hun.
Mae Gary’n defnyddio dull gwyddonol iawn o raddio’r pwmpenni – darn o gortyn a thamaid o bren. Roedd y dulliau syml hyn yn ddifyr iawn i’r ymwelwyr ifanc ac wrth iddyn nhw straffaglu, dan chwerthin, yn ôl i’r car i fynd â’u trysorau adref, medden nhw: “Roedd hynna’n hwyl fawr.”
Rhannodd Gary rai awgrymiadau ynglŷn â sut i gadw’ch pwmpenni mewn cyflwr perffaith ar gyfer Noson Calan Gaeaf:
- Eu cadw nhw’n oer ac yn sych;
- Digon o aer o’u cwmpas – mae’r sied yn lle perffaith i’w storio;
- Eu storio nhw ar wellt, papur newydd neu gardbord yn ddelfrydol;
- Ceisio peidio â gwneud niwed i’r croen rhag ofn iddyn nhw ddechrau meddalu.
Sut fyddwch chi’n cerfio’ch pwmpen chi?