Does dim gwell i’w gael

O’r môr i’r plât

Y bwyd môr mwyaf ffres y gallech obeithio amdano

O’r môr i’r plât

I gael gwir flas Sir Benfro, mwynhewch blatiaid o’r bwyd môr mwyaf ffres y gallech freuddwydio amdano. Efallai y cewch hyd yn oed gwrdd â’r pysgotwyr a fachodd eich cinio!

Mae llawer o dafarndai a bwytai’r sir yn cynnig bwyd môr a physgod ffres, o gimwch i ddraenog y môr a macrell, felly os ydych chi’n dwlu ar fwyd môr byddwch chi’n siwr o ddwlu ar y dewis sydd ar gael yn Sir Benfro.

A feddylioch chi erioed sut y cyrhaeddodd y pysgod ffres eich plât? Mae’r pysgotwr Mark Gainfort a’r Griffin Girl, yn pysgota o amgylch dyfrffordd y Ddau Gleddau. Ar ddiwrnod braf, llonydd o Fehefin, mae’n swydd ddelfrydol. Yn un o dri chwch masnachol sy’n gweithio o harbwr Dale, mae Mark yn mynd allan ar y môr ar ei ben ei hun.  

Mark ar fwrdd y Griffin Girl

Mae Mark yn defnyddio rhwydi tagell i ddal y pysgod yn y dyfroedd glân hyfryd o gwmpas arfordir Sir Benfro. Mae’n un o lond dyrnaid yn unig o bysgotwyr sy’n defnyddio rhwydi tagell. Ar rai adegau o’r flwyddyn, pan fydd gwymon yn gallu tagu’r rhwydi, bydd yn dychwelyd i ddulliau arafach y wialen a’r rîl.

Yr olygfa ar fwrdd y Griffin Girl wrth i Mark ddychwelyd gyda’i ddalfa i Dale a’r pontŵn. Mae Dale yn hynod o boblogaidd ymhlith ymwelwyr â Sir Benfro oherwydd ei draeth Baner Las o gerrig mân, mewn bae cysgodol. Mae’n baradwys ar gyfer chwaraeon dŵr, ac mae ymwelwyr yn tueddu i ddychwelyd dro ar ôl tro.

Gall Mark rwydo bob math o bysgod gan gynnwys draenogod y môr, mecryll, morleisiaid, morgathod, hyrddiaid, lledod, a lledod chwithig. Mae Mark yn pysgota ers 10 mlynedd ac yn gwerthu ei ddalfa i’r Griffin Inn, sydd dafliad carreg o’r traeth.

Oes unrhyw un awydd cimwch? Cychod dal cimychiaid a chrancod yw’r ddau gwch pysgota masnachol arall yn Dale. Cimwch yw un o’r dewisiadau mwyaf poblogaidd ar fwydlen y Griffin Inn. Prydau bwyd môr yw dros 90% o’r archebion oddi ar fwydlen y dafarn. Ar ôl eu cludo’n gyflym i fyny’r pontŵn, yn syth i’r gegin â’r pysgod, lle bydd y cogyddion yn mynd ati i’w ffiledu a pharatoi’r prydau pysgod. Weithiau, dim ond munudau sydd cyn gweini’r ddalfa i’r cwsmeriaid. Gewch chi ddim byd mwy ffres na hynny!

Mae Wes Markham wedi dychwelyd i’r Griffin Inn am ei ail dymor fel cogydd.

Myfyriwr yw Wes ac mae’n gweithio yn y gegin brysur ochr yn ochr â Lorna Howells a Hannah Jones, ynghyd â pherchennog y dafarn, Simon Vickers. Simon sy’n rheoli’r dafarn gyda’i bartner Sian, ac mae’r ddau’n frwd iawn dros goginio bwyd cartref o safon, wedi’i weini gyda chwrw Cymreig go iawn a’r gwinoedd gorau.

A phan fyddwch yn barod i fwyta ar lan y dŵr, mae’r golygfeydd gwych dros y Dale yn ychwanegu at yr awyrgylch, a’ch mwynhad o’r prydau pysgod, ac sicrhau profiad cofiadwy. Mae’r fwydlen bysgod yn newid o’r naill ddiwrnod i’r llall, yn dibynnu ar y ddalfa, felly mae Sian a’r staff blaen tŷ yn ysgrifennu’r bwydlenni pysgod gyda llaw bob dydd. Y gwaith caletaf fydd penderfynu pa bryd i’w archebu!

Mae prydau pysgod ffres ar gael ar fwydlenni ledled y sir, yn enwedig yn y trefi a’r pentrefi arfordirol. Beth am ddechrau gyda Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod, Solfach, Porthgain, Aber Bach, Tyddewi a Threfdraeth?

 Beth yw eich hoff fwyty neu dafarn sy’n gweini bwyd môr lleol? Cysylltwch â ni ar Twitter neu Facebook, er mwyn i ni gael lledu’r gair.  

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi