Diwrnod ym mywyd
Marchnad ffermwyr
Cynnyrch Sir Benfro ar ei orau.
Beth am ymweld â marchnad ffermwyr i gael gwir flas o Sir Benfro a holl gynnyrch ei ffermwyr a’i chynhyrchwyr lleol ardderchog?
Prynwch wledd ar gyfer eich swper, neu ddanteithion i fynd adref i’ch atgoffa o’ch amser yn Sir Benfro.
Yn nhref sirol Hwlffordd, cynhelir Marchnad Ffermwyr wobredig bob dydd Gwener yn yr ardal siopa brydferth ar lannau’r afon.
Aethom y tu ôl i’r llenni yn y farchnad i gael hanes ei llwyddiant, syniad o’r cynnyrch sydd ar gael a chwrdd â chynhyrchwyr Sir Benfro.
Mae’r masnachwyr yn dechrau ar eu gwaith gyda’r wawr, er mwyn gosod eu stondinau cyn i’r cwsmeriaid cynnar gyrraedd.
Daw’r holl gynhyrchwyr o ardal leol bendant, sef o fewn 50 milltir yn achos Marchnad Ffermwyr Hwlffordd, ac mae’r holl gynnyrch sydd ar werth wedi’i dyfu, ei fagu, ei bobi, ei fragu, ei ddal, ei biclo, ei fygu neu ei brosesu gan y cynhyrchwyr.
Bydd y cynnyrch yn amrywio gyda’r tymhorau. Cynhelir y marchnadoedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae gwahanol fasnachwyr mewn gwahanol leoliadau. Rydych yn siŵr o gael gwledd liwgar o gynnyrch ffres, sy’n ddigon i dynnu dŵr o’ch dannedd.
Mae Pat Bean o Springfields ym Maenorbŷr, sy’n rhedeg ei busnes gyda’i gŵr Nick, yn gwerthu llysiau, ffrwythau a blodau.
Yn ôl Pat, mae ei stondin yn edrych yn wahanol bob wythnos, yn dibynnu ar y tymor – asbaragws ym mis Ebrill, Mai a Mehefin, ceirios, ac yna mefus a mafon.
Does dim byd gwell nag arogl bara ffres o’r popty. Ar stondin The Welsh Bakery, mae’r byrddau’n gwegian dan dorthau, rholiau, byns a chacennau. Mae digonedd o ddewis, ond peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr – mae hon yn stondin boblogaidd iawn!
Roedd Shannon y ci yn hoff iawn o olwg rhai o’r cawsiau, a chafodd flasu rhai samplau hyd yn oed pan oedd ar ei gwyliau yn Sir Benfro gyda’i pherchenogion Louise Coates a Stuart Hendry.
Mae’r pâr o Swydd Henffordd wrth eu bodd yn ymweld â Sir Benfro ac roeddent yn aros yn eu hoff lecyn, Sain Ffraid.
Cafodd y farchnad dipyn o argraff arnynt, ac roeddent yn canu clodydd cynnyrch lleol blasus am brisiau rhagorol. Roeddent hefyd yn teimlo’i bod yn braf siarad â’r cynhyrchwyr eu hunain.
“Rydym yn dwlu ar y sir,” meddai Louise. “Fel arfer byddwn yn dod yn yr hydref, ar ôl gwyliau’r haf. Rydym yn dod yma er mwyn cael heddwch ac i ymlacio.” A meddai Stuart, “Mae’r bobl yma mor gyfeillgar, ac mae’n amser da iawn i ddod â’r ci. Rydyn ni’n cerdded llawer ac wrth ein boddau’n mynd i’r traethau gyda Shannon.”
Cyfnod picls, cyffaith, jam a siytni yw’r hydref, ac mae lliwiau’r tymor yn tywynnu o’r jariau ar stondin Country Market.
Wrth siarad â’r cynhyrchwyr, clywsom dro ar ôl tro fod eu cwsmeriaid bellach yn gyfeillion.
Ac mae gan yr holl fasnachwyr gwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd drosodd a thro – arwydd clir o’r ansawdd a’r gwerth am arian.
Efallai bod caws, jin a jam tsili fel petai’n gyfuniad anarferol, ond dyna’n union sydd ar gael ar stondin Caws Teifi.
Mae gwneuthurwyr y caws arbennig hwn wedi ennill gwobrau lu ers sefydlu Caws Teifi yn Llandysul ym 1982.
Mae Fferm Glynhynod hefyd yn gartref i’r ddistyllfa organig a adeiladwyd yn ddiweddar – distyllfa Dà Mhìle.
Dechreuodd y ddistyllfa drwy wneud gwirod oren ac mae hefyd yn cynhyrchu jin erbyn hyn. Mae’r jin gwymon yn hynod o boblogaidd.
Mae llysiau ffres ar gael bob amser yn y marchnadoedd. Un o’r hoelion wyth sydd wedi hen hen ennill ei blwyf yw F.J. Hathway & Sons o fferm Broomhill, Angle.
Barry Hathway, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i frawd Brian, sy’n rhedeg y stondin. Eu tad-cu oedd F.J. Hathway a sefydlodd y busnes tyfu llysiau.
Erbyn hyn, mae ganddynt ryw 32 erw o lysiau, o datws cynnar Sir Benfro ar ddechrau’r tymor, i foron, ffa, betys a bresych i frocoli, pannas, winwns a chennin.
Does dim byd tebyg i ŵy maes ffres i ddechrau’r dydd! Mae gan Euros Harvard-Evans a’i wraig Vanessa fferm wyau maes â 8000 o ieir yn Crundale. Meddai Euros, “Mae’r cwsmer modern yn ymboeni go iawn am les yr ieir, ac am wybod bod yr wyau wedi’u dodwy dan amodau llesol”, sy’n esbonio’u harwyddair ‘Ieir Maes, Ieir Hapus – mae’r ansawdd yn y blas’.
Bydd Euros hefyd yn gwerthu wyau hwyaid a gwyddau yn eu tymor.
Mae cigoedd organig yn boblogaidd yn y marchnadoedd ffermwyr. Mae’r arbenigwr cig oen ac eidion, Paul Oeppen, yn rheoli 350 erw o ffermdir, sy’n cynhyrchu cig eidion a chig oen organig o fridiau brodorol.
Yn ôl Paul, mae marchnad ffermwyr yn lle gwych i brynu cig.
“Rydyn ni’n defnyddio’r bridiau brodorol am fod blas da arnyn nhw – dydyn nhw ddim o reidrwydd y trymaf na’r mwyaf, ond y blas sydd fwyaf pwysig,” meddai.
Mae gan Paul wartheg Duon Cymreig, gwartheg Henffordd, Aberdeen Angus a De Dyfnaint, a phraidd o ddefaid Llŷn, defaid Dorset a Hampshire Down. Mae hefyd yn cyflenwi siop fferm y Four Seasons, ger Dinbych-y-pysgod, a deli Ultracomida yn Arberth.
Os oes gennych ddant melys, ewch i stondin Country Market i ddewis cacen. Os nad ydych erioed wedi blasu pice ar y maen wedi’u phobi’n ffres, dyma’ch cyfle.
Busnes teuluol yn cynhyrchu tyrcwn ffres, wedi sefydlu yn Sir Benfro ers amser maith, yw Cuckoo Mill Farm.
Dechreuodd Margaret Davies 55 mlynedd yn ôl ac mae’n dal i fynychu marchnad Hwlffordd yn wythnosol.
Efallai mai’r Nadolig yw eu hadeg prysuraf, ond maent yn gwerthu cig twrci drwy gydol y flwyddyn i’r fasnach arlwyo, i siopau cigyddion ac mewn marchnadoedd ffermwyr yn Sir Benfro ac ymhellach.
Mae ganddynt un cwsmer arbennig sy’n dod i’r farchnad bob wythnos gyda’r un archeb.
“Mae un dyn yn teithio o ar y bws o Ddinbych-y-pysgod bob wythnos. Dod i gadw llygad arnon ni mae e, medde fe, a phob wythnos mae e’n prynu’r un peth” meddai Mrs Davies. “Mae’n prynu adain twrci – sydd bron cymaint ag e, oherwydd dyw e ddim yn ddyn mawr, ac mae e’n 101!”
Yn ogystal â’r farchnad wythnosol a gynhelir yn Hwlffordd (bob dydd Gwener, 9yb-2yp), mae nifer o farchnadoedd eraill ledled y sir:
Marchnadoedd ffermwyr:
- Abergwaun – bob dydd Sadwrn, Neuadd Tref Abergwaun, 9yb-1.30yp.
Marchnadoedd cynnyrch:
- Tyddewi – bob dydd Iau.
- Llandudoch – bob dydd Mawrth, 9yb-1yp.
- Trefdraeth – bob dydd Llun.
Wrth i’r stondinwyr ddechrau hel eu pac am y dydd, roedd siopwyr blinedig yn cael seibiant cyn anelu am adref â llond eu bagiau o ddanteithion.