Boed yn farbeciw neu’n fwgan brain, yn gerflun neu’n gawl
Mae’n amser dathlu bob amser yn Sir Benfro!
Boed yn farbeciw neu’n fwgan brain, yn gerflun neu’n gawl, fe gewch chi’r cyfan yma yn Sir Benfro yn ystod blwyddyn gron o wyliau a digwyddiadau hynod.
Mae rhai digwyddiadau sydd wedi hen ennill eu plwyf, ond bob blwyddyn bydd rhyw ffordd newydd o gyflwyno ymwelwyr i ddiwylliant ac arferion lleol yn siŵr o ddod i’r amlwg.
Yn anffodus, allwn ni ddim rhestru pob un ohonynt, ond dyma ragflas o’r hyn y gallwch ei fwynhau yn ystod Blwyddyn Darganfod Cymru.
Gŵyl y Môr
Ers ei lansio ym 2018, mae’r ŵyl benwythnos yma a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ystod Mis Mai yn ddathliad o bopeth sy’n ymwneud â’r arfordir.
Wedi’i lleoli yn fferm Gupton a’r cyffiniau, mae’n gyfle i ymgolli yn harddwch arfordir a chefn gwlad y Parc Cenedlaethol, a chael blas o’r hyn sy’n gwneud yr ardal mor arbennig.
Ceir stondinau, cerddoriaeth fyw, gweithdai crefft, a bwyd a diod wrth gwrs, ond yr hyn sy’n gwneud y digwyddiad hwn yn unigryw yw ei agosrwydd at draeth Freshwater West.
Ar lan y môr mae cylchedau traeth, gwersi ioga a syrffio, ynghyd â sgyrsiau, gweithgareddau ac arddangosiadau gan sefydliadau arfordir a chadwraeth, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parcmyn y Parc Cenedlaethol a’r RNLI.
Ewch â photel y gallwch ei hailddefnyddio, bydd tapiau dŵr yfed yno, gan ei fod yn digwyddiad rhydd o blastigion untro. Ewch ag arian parod gyda chi hefyd, does dim peiriannau twll-yn-y-wal gerllaw.
Skatepark Jam HSA, Hwlffordd
Mae hi’n Flwyddyn Darganfod, felly os yw parciau sglefrio’n lefydd diarth i chi ar hyn o bryd, dyma gyfle perffaith i chi weld beth sy’n eu gwneud yn fannau mor wych!
Dyma un o’r digwyddiadau rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd o’i fath yn y wlad, ac mae’r Skatepark Jam y gallu denu timau sgwter, BMX a sglefrio proffesiynol o bob cwr i arddangos eu sgiliau.
Mae’r jam, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Parc Sgrialu Hwlffordd, bellach yn ei 5ed blwyddyn. Eleni mae’n cael ei gynnal ym mis Gorffennaf (mae’r dyddiadau’n newid bob blwyddyn).
Yn ogystal â chystadlaethau proffesiynol, mae yna hefyd gystadlaethau i unrhyw un o unrhyw oed, yn ogystal â chyfleodd i roi cynnig arni.
Mae gwobrau, nwyddau am ddim, stondinau, bwyd, a cherddoriaeth yno. Defnyddir yr elw i gyd ar gyfer goleuo a chynnal a chadw Parc sglefrio Hwlffordd ar gyfer y miloedd sy’n ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn.
Gŵyl Lenyddol Llangwm
Cynhelir Gŵyl Lenyddol Llangwm, a alwyd yn ‘hyfrydwch o’r mwyaf’ gan Griff Rhys Jones yn ddiweddar, mewn hen bentref pysgota ger aber y Cleddau Ddu.
Mae’n rhoi llwyfan i’r goreuon ym maes ysgrifennu, ac yn ôl eu gwefan: ‘o Rajahs i Roald Dahl, mae rhywbeth at ddant pawb’.
Mae gwesteion yr ŵyl yn cynnwys awduron, beirdd, cyflwynwyr a cherddorion a chynhelir gweithdai ysgrifennu creadigol a chelf i oedolion a phlant.
Mae Llangwm yn bentref glan môr hyfryd sydd â chymuned weithgar, ac mae’r rhai sy’n gyfrifol am yr ŵyl hon yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i rannu ei gyfrinachau.
Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad tridiau ond bydd angen tocyn arnoch.
Gŵyl Wythnos Bysgod Sir Benfro
Gall fod yn anodd dod o hyd i rasys rafftiau, cogyddion enwog, tripiau cychod, barbeciws a cherddoriaeth fyw i gyd yr un penwythnos, ond yma yn Sir Benfro – does dim byd yn amhosib!
Yn ystod Wythnos Bysgod Sir Benfro ym mis Mehefin, gallwch ymuno a phobl o bob cwr sy’n caru pysgod a bwyd môr er mwyn dathlu bod ar lan y môr.
Trwy gydol yr wythnos cynhelir dros 200 o ddigwyddiadau pysgodlyd ar hyd a lled y sir. Bydd tripiau fforio o gwmpas yr arfordir, gweithdai paratoi pysgod a sesiynau blasu bwyd môr, yn ogystal â saffaris traeth teuluol, gweithgareddau hel crancod, a theithiau tywys ar hyd yr arfordir.
Mae’r ŵyl yn cychwyn gyda Gŵyl Bysgod Aberdaugleddau, diwrnod hwyliog, rhad ac am ddim i deuluoedd ar Gei Mecryll Aberdaugleddau. Mae yno fwyd stryd, cerddoriaeth fyw a llwythi o weithgareddau.
Caiff wythnos bysgod Sir Benfro ei chydlynu gan Gyngor Sir Penfro a’i hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Art Out West
Mae’r ŵyl dawel hon yn hyfrydwch pur i unrhyw un sy’n gwerthfawrogi celf ac yn mwynhau’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Bydd gwneuthurwyr ac artistiaid yn cynnal Stiwdios Agored am yr wythnos yn eu cartrefi a’u gweithdai ar hyd lonydd troellog de Sir Benfro– mae yna fap o’r Ŵyl i chi ei ddilyn er mwyn dod o hyd iddynt.
Ond y rhan orau yw’r gweithdai celf rhad ac am ddim a gynigir yng ngerddi llawn ysbrydoliaeth Ystangbwll. Mae Art in the Garden yn gyfle i chi weld cerfluniau, paentiadau a gosodiadau, ac yn gyfle i chi roi cynnig ar bob math o dechnegau creadigol, dan arweiniad artistiaid lleol medrus.
Mae rhaglenni blaenorol wedi cynnwys amrywiaeth eclectig o weithdai, gan gynnwys cerfio pren, crochenwaith, gwneud gitarau un tant a thynnu lluniau o fyd natur.
Cynhelir yr ŵyl ym mis Awst fel arfer ac mae’n ddibynnol ar gyllid.
Cawl by the Sea, Saundersfoot
Yng ngŵyl flynyddol Cawl by the Sea, Saundersfoot cewch grwydro ar lan y môr, bwyta cawl, gwrando ar gôr meibion, a chwrdd â sêr rygbi Cymru. Bellach mae hon yn un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr Sir Benfro, ac mae’n berffaith i bawb sy’n caru bwyd (ac i gefnogwyr rygbi Cymru!).
Yn draddodiadol caiff cawl ei wneud â chig oen a llysiau gwraidd, a bob gwanwyn, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae bwytai a sefydliadau harbwr Saundersfoot yn gweini cawl i bawb ac yna bydd y gwesteion yn pleidleisio dros eu ffefryn.
Mae gweithgareddau ar gyfer y teulu, ynghyd â chyngherddau min nos, a bron yn ddi-ffael bydd cyfle i weld rhai o aelodau tîm rygbi Cymru sy’n cefnogi’r digwyddiad bob blwyddyn.
Gŵyl Werin Abergwaun
Bydd Gŵyl Werin Abergwaun yn dathlu ei 20fed blwyddyn yn 2019.
Fe’i cynhelir bob mis Mai, ac mae’r digwyddiad yn trawsnewid y dref yng ngogledd Sir Benfro yn Fecca fechan i gefnogwyr cerddoriaeth werin o bob math.
Cynhelir dwsinau o gyngherddau rhad ac am ddim mewn lleoliadau ledled y dref, yn ogystal â’r prif ddigwyddiadau gan fawrion y sîn werin Brydeinig a thu hwnt.
Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau canu, dawnsio ceilidh, a digwyddiadau i deuluoedd hefyd drwy’r penwythnos.
Ac os nad ydych chi’n siŵr am ganu gwerin, ond eich bod yn hoff o gerddoriaeth, rhowch gynnig arni eleni yn ystod y Flwyddyn Darganfod – mae’n ŵyl mor amrywiol, efallai y dewch chi o hyd i’ch hoff fand newydd!
Felly, dyna i chi gipolwg cyflym ar yr amrywiaeth liwgar o wyliau a digwyddiadau a gynhelir yn Sir Benfro drwy gydol y flwyddyn. Mae llawer mwy hefyd, gan gynnwys gwyliau bwyd, gwyliau cerddoriaeth a chelfyddydol, gwyliau llesiant megis The Big Retreat, a phob math o baredau, ffeiriau, llwybrau bwgan brain a mwy.