Mae’r hydref yn amser hyfryd o’r flwyddyn
Llwybrau’r hydref yn Sir Benfro
Mae ein coetiroedd yn felyn a choch tanbaid a’n hafonydd mewndirol yn gysgod hyfryd rhag gwyntoedd y gorllewin.
Ac o Fryniau’r Preseli, ar y diwrnodau clir, llonydd hynny, gallwch fwynhau golygfeydd godidog cyn belled ag Iwerddon a Gogledd Cymru.
Dyma rai o’r llwybrau lliwgar y gallwch chi eu mwynhau yn Sir Benfro yr hydref hwn:
- Coed Canaston
Mae’r goedwig hyfryd hon o dderw a ffawydd ger Arberth yn rhan o hen Ystâd Slebech ar ben uchaf moryd y Ddau Gleddau. Mae’r llwybr, yn y coetir ac yn yr afon, yn ferw o fywyd gwyllt, ac os fyddwch chi’n ffodus efallai y gwelwch chi neu y clywch chi ddyfrgi, glas y dorlan, crëyr glas, llwynog, tylluan neu gnocell y coed.
- Llynnoedd Bosherston
Mae Llynnoedd Bosherston, ger Penfro, yn llecyn hardd, cysgodol unrhyw ddydd o’r wythnos. Yn yr hydref, mae digonedd o adar yno ac mae’n hawdd eu gweld o gwmpas y llynnoedd – mae’r robinod coch yn arbennig o gyfeillgar. Os ewch chi am dro yn y bore bach, mae’n bosib iawn y gwelwch chi’r dyfrgwn sy’n byw yno.
- Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Corsydd Teifi
Mae un rheswm da iawn dros ymweld â Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Corsydd Teifi yn yr hydref, a’r adar yw hwnnw – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! Ar lannau afon Teifi, rhwng Aberteifi a Chilgerran, mae’r corstir hwn yn gartref i filoedd o adar mudol yn yr hydref. Cadwch olwg am walch y pysgod, gwrandewch am dylluan a gwyliwch heidiau o wyddau Canada wrth iddyn nhw godi i’r awyr neu fwydo ar y fflatiau llaid.
- Coedwig Tŷ Canol
Mae coetir derw hynafol rhyfeddol, 170 erw, Tŷ Canol, ger Trefdraeth o bwysigrwydd rhyngwladol gan ei fod yn gartref i dros 400 o rywogaethau o gen sy’n ffynnu yn yr awyr iach, y lleithder a’r golau. Mae artistiaid a gwyddonwyr wedi gwirioni ar yr ardal hon hefyd am ei choed derw ceinciog sy’n diferu o fwsogl, ei fflora a’i ffawna toreithiog a’i hamrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Lle gwych i weld madarch!
- Gardd Goedwig Colby
Os mai lliwiau tanbaid yr hydref sy’n mynd â’ch bryd, ewch i Ardd Goedwig Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ger Amroth, i fwynhau coch llachar y coed masarn a melyn a gwyrdd y cwyros a gymwydd pêr y coetir hudolus hwn.
- Cwm Gwaun
Ar draws y dyffryn o Dŷ Canol mae coetir cudd arall yn disgwyl amdanoch yng Nghwm Gwaun. Mae rhodfeydd ffawydd y cwm serth hwn yn danbaid yn yr hydref ac wedi’r glaw mae’r rhaeadrau’n werth eu gweld.
- Parc Gwledig Llys y Frân
Cronfa ddŵr ger Clarbeston Road yw Llys y Frân. Mae llwybr 6.5 milltir o gwmpas ei glannau ac argae drawiadol 100 troedfedd sy’n tasgu dŵr yn wyllt i lawr i Afon Syfynwy yn yr hydref. Prynhawn gwych o gerdded unrhyw adeg o’r flwyddyn.
- Bryniau’r Preseli
Ar y dyddiau perffaith glir hynny pan fydd haul yr hydref yn tywynnu a’r gwynt wedi gostegu, does unman gwell na Bryniau’r Preseli. I’r gorllewin mae Foel Eryr, sy’n hawdd ei gyrraedd o’r B4329 ger Rosebush. Cofiwch edrych i fyny i’r awyr wrth gerdded gan mai dyma un o hoff lecynnau’r boncathod a’r barcutiaid. Ar y copa, fe welwch chi garnedd gladdu o’r Oes Efydd a ‘thoposgop’ y Parc Cenedlaethol i’ch helpu i ddehongli’r olygfa ar draws y sir.
I’r dwyrain, ger Crymych, mae copa dramatig Foel Drygarn lle mae olion caer o’r Oes Efydd, yn ffosydd, cloddiau a rhagfuriau cerrig, yn amgylchynu’r copa. Tair carnedd enfawr o’r Oes Efydd yw prif nodwedd yr ardal ac wedi i chi wneud yr ymdrech, mae’r golygfeydd yn anhygoel.
- Nanhyfer
Mae pentref bach tlws Nanhyfer yn swatio mewn cwm coediog, serth ar lan afon Nyfer. Mae llwybrau cerdded ar hyd ei glannau i’r ddau gyfeiriad, sydd ar eu gorau yn yr hydref wrth i’r coed newid lliw a’r sgrechod y coed a’r gwiwerod sgrialu o gwmpas y lle’n paratoi ar gyfer y gaeaf. Os ydych chi’n hoffi hanes canoloesol, chwiliwch am y castell mwnt a beili, yr eglwys Normanaidd, y groes Geltaidd 13 troedfedd a rhodfa o goed yw’n gwaedu.