I gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
Llwybrau cerdded hygyrch yn Sir Benfro
Mae cerdded, gan gynnwys ar hyd llwybrau sy’n addas i gadeiriau olwyn, yn ffordd hyfryd o grwydro Sir Benfro.
Ledled Sir Benfro, mae digon o leoedd i fynd am dro ar lwybrau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, sy’n berffaith i deuluoedd gyda chadeiriau gwthio hefyd.
Dyma rai o’r llwybrau hygyrch gorau yn Sir Benfro.
- Parcio: Lleoedd parcio i’r anabl y tu allan i adeilad y Ganolfan Bywyd Gwyllt
- Cerdded: 3km o daith cadair olwyn i Hen Bont Aberteifi
- Toiled: Toiledau hygyrch ar lawr gwaelod y ganolfan
- Caffi: Mae lifft i fyny i gaffi’r Tŷ Gwydr (tymhorol)
Mae gan bob tymor ei le yn y ganolfan bywyd gwyllt hyfryd hon, ac mae rhywbeth yn digwydd yma drwy’r flwyddyn, naill ai yn y ganolfan ei hun neu allan yng ngwlyptir y warchodfa. Dewch i weld heidiau enfawr o adar sy’n gaeafu, edmygu’r cerfluniau helyg diweddaraf, gadael y plant yn rhydd i redeg yn yr awyr agored neu fwynhau paned yng nghaffi’r Tŷ Gwydr. Mae rhywbeth at ddant pawb yma.
Mae dau lwybr hygyrch drwy’r ardal bywyd gwyllt, ac un o’r rhain yw’r llwybr 3km hyfryd drwy Gorsydd Teifi at Hen Bont Aberteifi. Cofiwch ddod â’ch binocwlars a’ch llyfr adar.
- Parcio: Maes parcio yng Ngerddi Muriog Mencap Ystangbwll
- Cerdded: 3.8km o lwybr dwyffordd addas i gadeiriau olwyn. Dilynwch arwyddion ‘Grassy Bridge’
- Toiled: Toiled hygyrch yng Ngerddi Muriog Mencap Ystangbwll
- Caffi: Caffi hygyrch yng Ngerddi Muriog Mencap Ystangbwll (tymhorol)
Mae coetiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ystâd Ystangbwll wedi’u datblygu er mwyn darparu llu o lwybrau hygyrch yn y gornel brydferth hon o Sir Benfro.
Parciwch yng ngerddi muriog Mencap cyn dilyn y ffordd i lawr i’r bont wyth bwa a llwybr Pyllau Lili Bosherston. Wrth gerdded ar lan y pyllau, fe welwch bob math o fywyd gwyllt, gan gynnwys robinod cyfeillgar a dyfrgwn. Y Bont Welltog (Grassy Bridge) yw pen eich taith, neu gallwch ddal i fynd, er ei bod yn dywodlyd, i fainc uwchben traeth Aberllydan. Cysgodol boed haf neu aeaf.
- Parcio: Maes parcio Llys y Frân.
- Cerdded: 2.4km o lwybr cadair olwyn ar lan ddwyreiniol y gronfa ddŵr
- Toiled: Toiledau hygyrch wrth ymyl y maes parcio
- Caffi: Caffi hygyrch yng nghanolfan Llys y Frân (tymhorol)
Parc gwledig 350 erw ym mherfeddion cefn gwlad Sir Benfro yw Llys y Frân. Canolbwynt y parc yw’r gronfa ddŵr gyda’i argae dramatig 100 troedfedd sy’n tasgu dŵr i lawr i Afon Syfynwy. Mae’r parc yn hafan heddychlon, gydag amrywiaeth fawr o goed a bywyd gwyllt ar y dŵr ac ar y tir.
O’r maes parcio mae llwybr 2.4km o gwmpas ochr ddwyreiniol y gronfa ddŵr, sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda lle chwarae i blant a digon o lecynnau picnic i aros a mwynhau’r olygfa. Trowch am yn ôl pan fydd y llwybr yn culhau. Ymlaen â’r llwybr wedyn o gwmpas y gronfa ddŵr a thros bont, gan fynd yn gulach ac yn fwy mwdlyd a gyda rhai mannau serth.
Coed Canaston, Arberth
- Parcio: Melin Blackpool
- Cerdded: 300m o lwybr cadair olwyn. Dilynwch arwyddion ‘Leat Walk’
- Toiled: Mae’r toiledau hygyrch agosaf yn Arberth
- Lluniaeth: Caffis yn Arberth neu’r dafarn yn Robeston Wathen
Mae Coed Canaston yn hardd drwy gydol y flwyddyn. Mae hanes diddorol i’r coetir hynafol hwn sydd wedi bod yma ers o leiaf 300 mlynedd ac a oedd yn rhan o Ystâd Slebech yn wreiddiol. Byddai ceirw a baeddod gwyllt yn cael eu hela yma yn y dyddiau a fu. Llwynogod a gwiwerod yw’r anifeiliaid gwyllt mwyaf a welwch chi bellach yn y lle yma sy’n ferw o adar, pryfed a blodau gwyllt ger traciau a llwybrau’r goedwig.
Mae llwybr 300m hygyrch drwy’r goedwig o Felin Blackpool i olygfan uwchben afon Cleddau Ddu. Llwybr byr yw hwn, ond mae’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt yn gwneud yn iawn am hynny. Lle da i eistedd a mwynhau’r tawelwch.
Llwybr Brunel, Neyland
- Parcio: Maes parcio yn Westfield Pill, o dan y bont
- Cerdded: llwybr cadair olwyn 6km. Dilynwch arwyddion ‘Lôn Geltaidd 4’ (Celtic Trail Route 4)
- Toiled: Toiledau hygyrch ym Marina Neyland
- Caffi: Caffi ym Marina Neyland
Mae hon yn daith gerdded hyfryd o farina Neyland i Johnston. Rheilffordd oedd yma’n wreiddiol, a phen draw’r daith yn y gorllewin i reilffordd Great Western Railway Isambard Kingdom Brunel. Bellach, ar ei newydd wedd, mae’n llwybr beicio ac yn rhan o Lwybr 4 y Lôn Geltaidd.
Bydd angen i chi fynd trwy ddwy glwyd ‘ffrâm A’ ar ddechrau’r daith ac yna fe gewch ddarn hir clir o lwybr tarmac, llethrau bychain a choetiroedd i Johnston. Mae’n llwybr bendigedig i bawb.
Saundersfoot i Stepaside
- Parcio: Harbwr Saundersfoot
- Cerdded: 3km o lwybr cadair olwyn i Wiseman’s Bridge (4km i Stepaside ac yn ôl)
- Toiled: Toiledau hygyrch ym meysydd parcio’r Harbwr a Regency
- Caffi: Mae llawer o gaffis yn nhref Saundersfoot a’r cylch, ac mae gan lawer ohonynt seddi tu allan.
Mae’r llwybr arfordirol hyfryd hwn yn dilyn yr hen reilffordd a arferai gludo glo o’r pyllau lleol i harbwr Saundersfoot. Gallwch barcio yn Saundersfoot a mynd am dro ar hyd y Strand a thrwy’r twnnel i faes parcio Coppet Hall. Mae’r llwybr yn mynd drwy ddau dwnnel, y naill yn fyr a’r llall yn hir, cyn cyrraedd Wiseman’s Bridge, felly cofiwch ddod â thortsh i oleuo’r ffordd. Mae’r llwybr yn boblogaidd gyda beicwyr hefyd.
Yn Wiseman’s Bridge gallwch ychwanegu at eich taith drwy groesi’r ffordd ger y toiledau er mwyn ymuno â llwybr newydd i fyny Pleasant Valley i waith haearn Stepaside. Mae’n daith hyfryd drwy goetir os ydych am estyn eich taith i 4km o daith yno ac yn ôl.
O’r Parrog, Trefdraeth i’r Bont Haearn
- Parcio: Y Parrog, Trefdraeth neu wrth ymyl y ffordd ger y bont haearn
- Cerdded: 0.6 milltir neu 1km
- Toiled: Toiled hygyrch ym maes parcio’r Parrog
- Caffi: Caffi Morawelon ar y Parrog ei hun
Mae’r daith braf hon yn Nhrefdraeth yn dilyn Afon Nyfer ar hyd llwybr wedi’i adeiladu’n arbennig allan o gerrig wedi’u rholio, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer sgwteri, cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Defnyddir y llwybr gan feicwyr hefyd ac mae’n ddigon gwastad i feiciau llai o faint gyda stabillisers.
Dyma gyfle perffaith hefyd i wylio adar yn y gwelyau cyrs a’r fflatiau llaid sy’n gynefin i bob math o adar hirgoes a gwyachod, gwyddau a glas y dorlan. Peidiwch ag anghofio’ch binocwlars!