Mae Sir Benfro’n llawn pethau gwlanog
Llwybr gwlanog Sir Benfro
Mae gan Sir Benfro gymuned gynyddol o grefftwyr sy’n barod i’ch gwisgo o’ch corun i’ch sawdl yn y gwlân mwyaf moethus sydd ar gael.
Y rhan fwyaf ohono o Gymru, rhywfaint ohono’n lleol a’r cwbl wedi’i greu yma yn Sir Benfro.
Os ydych am gadw’n gynnes braf, crwydrwch lwybr gwlanog Sir Benfro. Bydd yn eich cadw’n gynnes am flynyddoedd.
Sir Benfro o’r dechrau i’r diwedd
- Monkstone Knitwear
Ar y clogwyni rhwng Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod mae ffermwr a dylunydd sydd â’u bryd ar gynaliadwyedd.
Ar fferm Richard Reed mae praidd o ddefaid sy’n rhoi cyflenwad cyson o wlân i’r dylunydd lleol, Anna Felton, ar gyfer ei menter Monkstone Knitwear.
Gall Anna eich gwisgo o’ch corun i’ch sawdl mewn casgliad unigryw o hetiau, menig a sanau, heb sôn am y siwmperi cynhesaf yng Nghymru. Gwneir pob eitem, yn unigol felly anfonwch e-bost at Anna a threfnwch i alw draw ar y fferm i greu eich atgof gwlanog eich hun o Sir Benfro.
Wedi’u gwneud â llaw yn Sir Benfro
- Susie’s Sheepskin Boots
Mae Susie Lincoln yn gwneud esgidiau croen dafad yn nhref farchnad fach hardd Arberth ers 1979. Ers dros ddeg mlynedd ar hugain bu llif cyson o esgidiau gwlanog, cynnes yn cerdded allan o’i drws ac ar draws y wlad i gynhesu traed oer o Fôn i Fynwy a thu hwnt.
Bydd eich esgidiau’n cael eu gwneud yn arbennig i chi. Eich dewis chi o liw, hyd a steil. Galwch yn y siop neu ffoniwch Susie – bydd eich traed yn diolch i chi am flynyddoedd lawer.
- Wench.
Fuoch chi awydd gwneud eich dillad eich hun erioed?
Dechreuodd Carys-Hedd y label gweddnewid dillad Wench. rai blynyddoedd yn ôl, gyda’r bwriad o gadw hen ddillad gwlân allan o safleoedd tirlenwi a rhoi bywyd newydd iddyn nhw.
Buan iawn y trodd y label dillad yn fenter hyfforddi, ac mae Carys bellach yn cynnig gweithdai gweddnewid dillad i’ch helpu chi greu eich gwisgoedd unigryw eich hun allan o’ch hen ddillad gwlân hoff.
Gwaith Llaw Medrus Gorllewin Cymru
Mae gennym ddwy felin wlân yn Sir Benfro a dau ddylunydd eithriadol.
- Melin Wlân Melin Tregwynt
Mae melin yn Nhregwynt ers y 18fed ganrif pan ddeuai ffermwyr lleol â’u cnuoedd i’w nyddu’n edafedd a blancedi gwlân. Prynodd Henry Griffiths y felin ym 1912 ac mae yn yr un teulu hyd heddiw.
Erbyn hyn, mae lliwiau hardd a dyluniadau arloesol Melin Tregwynt i’w gweld mewn gwestai ffasiynol a siopau moethus ledled y byd. Gewch chi mohonyn nhw ar y stryd fawr, felly rhaid i chi fynd i’w siop ar arfordir Sir Benfro os ydych am dretio’ch hun.
- Melin Wlân Solfach
Anna a Tom yw ceidwaid diweddaraf melin wlân weithredol hynaf Sir Benfro, Melin Wlân Solfach, sy’n gweithio ers 1907.
Hon yw’r unig felin yng Nghymru sy’n arbenigo mewn carpedi gwehyddiad gwastad, ac mae’n lle diddorol iawn. Mae rygiau’r felin yn addurno cartref Cymreig Tywysog Siarl yn Llwynywormwood, plastai yn yr Unol Daleithiau ac adeiladau’r Landmark Trust ledled y wlad. Dyma’r lle i addurno’ch lloriau.
Os yw ein casgliad o ddylunwyr gwlân wedi’ch ysbrydoli i greu, mae dau le arall y gallwch chi fynd cyn gadael Sir Benfro:
- Janes of Fishguard
Janes of Fishguard yw prif siop wlân Sir Benfro ac fe gewch chi hynny o edafedd sydd ei angen arnoch yma. Paradwys i’r rhai sy’n gwau.
- Penbanc Fabrics, Trefdraeth
Roedd hen safle Penbanc Fabrics yn llawn dop, felly symudodd y busnes i le newydd yn Nhrefdraeth. Mae pob math o ddefnydd yno a bydd y dewis anhygoel yn siwr o’ch ysbrydoli am fisoedd lawer.
Gobeithio ein bod wedi codi awydd arnoch am bob math o bethau gwlanog wedi’u gwneud yn Sir Benfro!