Rydyn ni’n dwlu ar barti

Cerddoriaeth fyw Sir Benfro

Dewch i ddawnsio

Cerddoriaeth fyw yn Sir Benfro

Mae trigolion Sir Benfro yn dwlu ar barti.

Gwerin neu jazz, clasurol neu’r blŵs, mae cerddoriaeth i bawb yn Sir Benfro. A lle bydd canu, bydd dawnsio!

Dyma restr o’r lleoliadau cerddoriaeth a dawnsio gorau yn Sir Benfro – gwledd i’ch clustiau a’ch traed fel ei gilydd felly!

  • Neuadd Goffa Trefdraeth

Mae trigolion Trefdraeth wrth eu bodd yn cael parti, felly byddai’n syniad da holi i weld beth sy’n digwydd yn y Neuadd Goffa. Mae cerddoriaeth fyw, dawnsfeydd, adrodd straeon a dosbarthiadau dawns yma drwy gydol y flwyddyn. Noson gofiadwy heb os!

  • Capel Burnett’s Hill

Mae Capel Burnett’s Hill yng nghanol y wlad yn Martletwy, ger Arberth. Yn ystod y dydd, capel tawel sydd yma, ond gyda’r nos mae’n ferw o ganu gwerin, canu’r Tir Glas a chanu Appalachaidd Americanaidd – mae gig yma’n brofiad bythgofiadwy.

  • The Tiddly

Ym mhentref bach Freystrop y tu allan i Hwlffordd, mae’r Tiddly’n lle bywiog sy’n cynnal pob math o gerddoriaeth yn ogystal â digwyddiadau rheolaidd fel nosweithiau meic agored a gwyliau haf. Cymerwch olwg ar eu tudalen Facebook am fanylion y perfformiad nesaf.

  • Ffwrn

Yn Abergwaun, bu croeso mawr yn lleol i’r Ffwrn, y lleoliad diweddaraf i gynnal digwyddiadau cerddorol. Cynhelir digwyddiadau Cymraeg, gwerin, Celtaidd, a jazz – cymerwch olwg ar eu tudalen Facebook i gael gwybodaeth am y gig nesaf. Neu galwch draw – mae’r caffi sydd yma yn ystod y dydd yn gwneud bara a chrempog blasus iawn!

  • Rhosygilwen

Ar gyrion Aberteifi, mae Rhosygilwen yn hyrwyddo cerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Mae’r trefnwyr yn frwd dros gerddoriaeth fyw gan artistiaid o Gymru a phedwar ban byd ym meysydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, cerddoriaeth glasurol, corawl, gwerin a jazz. Lleoliad prydferth a rhaglen arbennig bob tro.

  • Tipi Pitsa Fforest

Yn ystod yr haf, bydd Fforest yn agor eu tipi pitsa ar lannau afon Teifi yn Aberteifi. Mae cerddoriaeth fyw yno bob nos Sadwrn o fis Gorffennaf i fis Medi.

  • The Royal Oak, Abergwaun

Ar sgwâr y farchnad yng nghanol y dref, mae’r Royal Oak yn cynnal sesiynau anffurfiol sy’n cynnwys perfformwyr gwerin a thraddodiadol, siantis, caneuon Cymraeg, jigiau a riliau Gwyddelig, cantorion sy’n ysgrifennu eu caneuon eu hunain, a rhagor. Mae’r dafarn hefyd yn  rhan bwysig o Ŵyl Werin Abergwaun bob mis Mai.

  • Pembrokeshire Intimate Gigs

Llafur cariad y cerddor lleol Guy Johnston yw Pembrokeshire Intimate Gigs. Mae Guy’n chwilio am fandiau Celtaidd, Americanaidd a bandiau sy’n ysgrifennu’u caneuon eu hunain, ac yn dod â nhw i leoliadau cartrefol yn Sir Benfro, a rheini’n aml yn rhai sydd â bwyd a diod da. Ymhlith y mannau rheolaidd mae gwestai’r Druidstone, y Cross Inn a’r Welshman.

  • Llys Meddyg

Bwyty hyfryd gydag ystafelloedd yn Nhrefdraeth yw Llys Meddyg. Bu’r perchennog, Ed, yn cydweithio â hyrwyddwr lleol, Jake Hollyfield, i gynnal y Garden Gigs, gan ddod â cherddorion talentog o bob cwr o’r DU i’r gornel fechan hon o Orllewin Cymru. Cynhelir Gigs Gardd unwaith y mis yng Ngardd y Gegin – lleoliad clyd, tebyg i glwb, sy’n creu naws arbennig.

  • Theatr Gwaun

Hefyd yn Abergwaun mae Theatr Gwaun, y sinema leol a brynwyd gan y gymuned ac sy’n cynnal ffilmiau, digwyddiadau theatr a cherddoriaeth, gyda chymorth criw gwirioneddol gyfeillgar o wirfoddolwyr.

  • Neuadd y Frenhines

Neuadd y Frenhines yn Arberth yw un o leoliadau cerddoriaeth gorau’r wlad sy’n aml yn croesawu artistiaid newydd sydd ar fin cael llwyddiant mawr. Rhennir y lleoliad gyda Span Arts – hoff elusen celfyddyd fyw Sir Benfro – felly cofiwch gadw golwg ar y ddwy wefan. Cynhelir digwyddiadau drwy’r wythnos, felly mae’n werth edrych ar wefan Span Arts am ddyddiadau a thocynnau.

  • Theatr y Torch

Ac yn olaf, mae Theatr y Torch yn cynnig cerddoriaeth fyw o dro i dro, yn ogystal â sioeau cerdd, sinema a theatr fyw. Mae cerddoriaeth glasurol a darlleniadau theatr byw yn boblogaidd, felly mae’n werth cymryd golwg ar y calendr i weld os oes rhywbeth at eich dant chi.

Hefyd, mae Sir Benfro’n cynnal nifer dda o Wyliau cerddorol drwy gydol y flwyddyn.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi