Hufen iâ Sir Benfro

Dim ond o’r llaeth lleol gorau

Atgofion melys

Hufen iâ Sir Benfro

Mae gan Sir Benfro lond caeau o wartheg yn cynhyrchu llaeth a hufen blasus, a gwneuthurwyr arbenigol ledled y sir sy’n gwneud yr hufen iâ a’r sorbedau gorau yng Nghymru.

Mae faniau hufen iâ ar hyd ac ar led yr arfordir hefyd, felly ble bynnag y byddwch chi, byddwch yn siŵr o greu atgofion melys yr haf hwn.

Eidalwr yw Gianni sy’n gwneud hufen iâ ym mherfeddion cefn gwlad Sir Benfro. Gan ddefnyddio llaeth organig lleol o Fferm Caerfai, gallwch brynu’ch hufen iâ a cherdded i lawr y ffordd i gwrdd â’r gwartheg cyn i chi ei orffen ei fwyta – dyna beth yw lleol go iawn.

Gŵr a gwraig yw Jo a Gianni sy’n cynnig cannoedd o flasau, a phob un yn tynnu dŵr o’ch dannedd! Mae Gianni’n arbrofi byth a beunydd, sy’n golygu bod y blasau sydd ar gael yn newid bob dydd. Os oes gennych ffefryn, peidiwch â phoeni; os gysylltwch chi â Gianni ymlaen llaw, gall gynhyrchu eich hoff hufen iâ o fewn 48 awr.

Y blas sy’n gwerthu orau ar hyn o bryd yw’r caramel hallt, ac mae hyd yn oed rywbeth i’ch ci, gyda’u dewis o hufen iâ sy’n addas i gŵn!

  • Fire and Ice, Arberth

Dechreuodd Fire and Ice yn Arberth yn 2012 drwy ennill gwobrau am eu sorbed mango! Gan ddefnyddio llaeth a hufen organig lleol Calon Wen a Daioni, maent wedi ychwanegu hufen iâ at eu creadigaethau moethus, yn ogystal â sorbed a gelato.

Galwch yn y siop yn Arberth am sesiwn flasu cyn penderfynu pa un sydd orau gennych.

  • Cowpots, Hendy-gwyn ar Daf

Mae hufen iâ Cowpots yn cael ei wneud ar y fferm o laeth buches leol o wartheg Jersey pedigri. Mae’r fuches yn pori tir llawn meillion yng nghefn gwlad Sir Gâr ac yn cynhyrchu llaeth hufennog iawn sy’n berffaith ar gyfer gwneud hufen iâ moethus.

Galwch ym mharlwr hufen iâ Cowpots ar y fferm ger Hendy-gwyn ar Daf. Y blas sy’n achosi cyffro ar hyn o bryd yw’r caramel mêl.

  • Hufen iâ Lochmeyler Farm, Solfach

Fferm laeth 300 erw sy’n cael ei rhedeg gan Matthew a Margo yw Fferm Lochmeyler ger Solfach. Maen nhw’n cynhyrchu hufen iâ blasus gan ddefnyddio’r llaeth o’u buches o 350 o wartheg. Mae’r hufen iâ blasus ar gael ledled y sir neu galwch yn eu parlwr hufen iâ yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd am bleser pur drwy gydol y flwyddyn!

Hufen iâ lleol arall i chi chwilio amdano yw ‘Pembrokeshire Promise’ Upton Farm a hufen iâ Mary’s Farmhouse, sy’n cael eu gwerthu drwy gaffis lleol a faniau hufen iâ ledled y sir.

Hoffech chi ddweud wrthym am eich hoff flas chi? Rhowch neges ar Facebook neu Twitter neu’n well byth, rhannwch eich trît blasus gyda ni ar @igerspembrokeshire

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi