Llwybrau gwych i gŵn

Yn ôl y cŵn eu hunain

Ar bedair troed

Hoff lwybrau cŵn Sir Benfro

Mae Sir Benfro’n lle gwych i fynd ar wyliau gyda’ch ci, ac mae’n gartref i lawer o gŵn-garwyr.

Pwy well i’w holi am eu hoff fannau cerdded na’r cŵn eu hunain? Dyma Mollie’r ci defaid yn holi 6 o’i ffrindiau lleol am eu hoff leoedd i fynd am dro yn Sir Benfro.

Mynd â’ch Ci am Dro – lleoedd i fynd gyda’ch cyfaill pedair coes

  • Enw: Molly
  • Brîd: Ci defaid

Hoff le i fynd am dro: Os fydd hi’n braf, fy hoff le i fynd am dro yw traeth Freshwater West. Yn gynnar y bore, cyn 9, neu ar ôl 6 yw’r adegau gorau yn yr haf. Mae gwiberod yn bolaheulo yn y twyni tywod, felly dwi’n ceisio’u hosgoi nhw, ac mae gormod o bobl ar y traeth yn ystod y dydd i mi gael rhedeg yn rhydd. A beth bynnag, ben bore neu gyda’r nos fydd fy ffrindiau i gyd yn mynd.

Mae Molly’n byw yn Bowett Farm gyda’i ffrindiau dwygoes Bill ac Ann Morris. Pan na fydd hi allan am dro bydd Mollie’n palutyllau yn yr ardd neu’n hel y gwartheg i’w godro.

  • Enw: Daphne
  • Brîd: Sbaniel/Ci defaid

Hoff le i fynd am dro: Dwi wrth fy modd yn cerdded ar Draeth Poppit. Yn yr haf, byddwn yn tueddu i fynd ben bore neu ar fachlud haul, er mwyn osgoi gwres y dydd. Yn y gaeaf, gallwn fynd i unrhyw le ar y traeth, unrhyw bryd, ond yr haf, rhaid i ni gadw at yr ochr dde. Mae’r warden cŵn yn hapusach pan wnawn ni hynny. Mae Traeth Poppit yn draeth bas hyfryd, yn wych i badlo a chwarae fy hoff gêm – rhedeg ar ôl ffyn!

Mae Daphne’n byw yn y tŷ byrnau gwair, enillydd gwobr eco-gartref Grand Designs 2008, gyda’i ffrind dwygoes, Rachel Shiamh. Pan na fydd hi allan am dro bydd Daphne’n bolaheulo yn yr ardd.

  • Enw: Bob
  • Brîd: Cymysg

Hoff le i fynd am dro: Fydda i ddim yn cerdded yn bell y dyddiau yma, ond pan fyddai’n mentro allan, fe fyddai’n hoff o gerdded drwy goedwig Cwm Gwaun, o Bontfaen sydd ochr draw i’r afon o’n tŷ ni. Mae’n llwybr prydferth, hawdd drwy hen goedwig ffawydd ac os fydda i’n teimlo’n egnïol mi fyddai’n rhedeg ar ôl gwiwer neu ddwy. Pan oeddwn i’n iau, fyddwn i’n mwynhau cerdded lan y bryn mewn cylch, ond erbyn hyn rwy’n eitha bodlon ar fynd am dro bach ar hyd llawr y dyffryn.

Mae Bob yn byw gyda Bessie yn y Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun. Pan na fydd allan am dro, mae Bob i’w weld yn gorwedd yn yr haul y tu fas i’r dafarn neu’n mwynhau mwythad wrth y bar.

Manylion llawn llwybr Pontfaen.

  • Enw: Lola
  • Brîd: Ci defaid/Hysgi

Hoff le i fynd am dro: Fy nhraeth lleol, Abermawr, yw fy hoff le i fynd am dro ac rwy’n cael mynd yno bob dydd. Allan o’r drws, i lawr y lôn a thrwy goedwig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dyna fi ar y traeth. Rwy’n siŵr mai fi yw’r ci mwya lwcus yn Sir Benfro! Un o’m prif swyddi i yn Preseli Venture yw dangos y lle i westeion newydd, felly mae rhywun bob amser ar gael i gerdded gyda fi i Abermawr a rhannu’r lle hudolus hwn.

Mae Lola’n byw yn eco-lety Preseli Venture gyda’i ffrindiau dwygoes, Sophie a Nick Hurst. Pan na fydd hi allan am dro, bydd Lola’n helpu’r staff i baratoi ar gyfer tripiau caiacio ac arfordiro.

Manylion llawn llwybr Coedwig Abermawr.

  • Enw: Bertie
  • Brîd: Cockerpoo

Hoff le i fynd am dro: Fy hoff le i fynd am dro yw’r 5 milltir o lwybr yr arfordir o Sain Ffraid i Aber Bach. Dwi’n dal bws arfordirol y Pâl Gwibio y tu fas i’r dafarn, yn dod oddi arno ym Mae Sain Ffraid ac yn cerdded yn ôl ar hyd llwybr yr arfordir. Mae’n wych. Ym mis Mai, mae’r ehedyddion yn canu a’r blodau gwylltion ar eu gorau. Fe fyddai bob tro’n cyrraedd adref yn arogli’n hyfryd, a gydag ychydig o flodau clustog Fair pinc yn fy mlew.

Mae Bertie’n byw yn y Castle Inn yn Aber Bach gyda’i deulu dwygoes, Chris a Nadine Vane. Pan na fydd allan am dro, bydd yn chwarae gyda’r merched.

Manylion amserlen y Pâl Gwibio

  • Enw: Lily
  • Brîd: Sheltie

Hoff le i fynd am dro: Dwi mor, mor lwcus. Dwi’n byw ym mhentref Ystangbwll gyda thros 20 milltir o lwybrau troed ar garreg y drws, diolch i Ystâd Ystangbwll a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dwi’n rhedeg allan o’r drws, i lawr drwy’r goedwig at y bont un bwa ac yna ar hyd y Pyllau Lili i draeth Aberllydan. Yn yr haf, dwi’n mynd ben bore neu pan fydd hi’n nosi er mwyn osgoi’r torfeydd. Ar ein ffordd yn ôl, byddwn fel arfer yn galw yn nhraeth Barafundle ac fe fydda i bob amser ar fy nhennyn o gwmpas y defaid a’r merlod sy’n pori, er mwyn peidio â tharfu arnyn nhw.

Mae Lily’n byw yn y Stackpole Inn gyda’i ffrind gorau Lea a’i ffrindiau dwygoes Becky a Gary. Pan na fydd hi allan am dro, mae Lily’n gystadleuydd ystwythder proffesiynol ac yn cystadlu mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad.

Manylion llawn llwybr Ystangbwll.

  • Enw: Katie, Oscar a Shyann
  • Brîd: Dalmatian

Hoff le i fynd am dro: Mae manteision mawr i fyw’n agos at Lwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth Saundersfoot. Dyma’n hoff lwybr ac rydym yn ei gerdded bob dydd. Allan o’r drws, i lawr drwy goedwig Swallow Tree, ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro ac i lawr i’r traeth rhwng Saundersfoot a Thrwyn Monkstone.

Mae Katie, Oscar a Shyann yn byw gyda’u ffrindiau dwygoes, Vicki a Roy, yn Nhŷ Gwledig Cwmwennol yn Saundersfoot. Pan na fyddan nhw’n mynd am dro, fe fyddan nhw’n brysur yn cyfarch cŵn o bob lliw a llun sy’n cael eu croesawu i aros yn y tŷ gwledig hwn.

Manylion llawn llwybr Saundersfoot

Fyddwch chi’n dod â’ch cyfaill cu i Sir Benfro? Darllenwch ein canllaw i wyliau yn Sir Benfro sy’n croesawu cŵn: lleoedd i aros, traethau addas i gŵn ac arfer da.

Mae Sir Benfro’n croesawu eich ci, ond cofiwch ystyried eraill sy’n defnyddio’r traethau, cadwch eich ci ar dennyn o gwmpas anifeiliaid fferm a chodwch faw eich ci bob amser.       

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi