Traddodiad Hen Galan

Yng Nghwm Gwaun

Dathliad Cymreig go iawn

Hen Galan

Mewn cwm coediog bychan ger Abergwaun mae trigolion Cwm Gwaun yn paratoi ar gyfer eu dathliadau Blwyddyn Newydd blynyddol, ar Ionawr 13eg.

Na, dydyn nhw ddim bythefnos yn hwyr – maen nhw’n dal i ddilyn yr hen Galendr Iwlaidd.

Ym 1752,cafodd y calendr Iwlaidd ei ddiddymu a chymerwyd ei le gan y calendr Gregoraidd, a oedd wedi’i gymeradwyo gan Bab Gregori XIII bron i 200 mlynedd ynghynt. Roedd hwn yn benderfyniad dadleuol a gwrthwynebodd pobl Cwm Gwaun y newid.

Bydd y plant yn mynd o ddrws i ddrws yn canu am eu calennig, melysion neu arian fel arfer. Y gân a glywir amlaf yn yr ardal hon yw:

Blwyddyn Newydd dda i chi

Ac i bawb sydd yn y tŷ

Dyma fy nymuniad i

Blwyddyn Newydd dda i chi

Hen Galan. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Bydd y dathlwyr yn ymgasglu yn ystafell ffrynt nid anenwog Bessie, sef tafarn y Dyffryn Arms sydd yn yr un teulu ers 1840, i fwynhau diod, ac yn coginio pryd mawr o fwyd i’r teulu. Yn draddodiadol, byddai’r Hen Galan yn fwy o ddathliad na’r Nadolig, felly byddai twrci neu ŵydd yn gyffredin.

Gallwch hefyd barhau â thraddodiad y Fari Lwyd, pan gaiff pen caseg lwyd ei gludo o le i le ar bolyn wedi’i addurno â rhubanau a gwyrddni. Yn y blynyddoedd a fu, byddai hwn yn benglog ceffyl go iawn, ond yn fwy diweddar, bu’n well gan bobl ddefnyddio un pren! Pan fydd y Fari Lwyd gyda’r cantorion, fe ddaw â lwc dda i’r tai yn ôl y sôn.

Felly, os ydych chi, fel ni’n teimlo bod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi gwibio heibio eleni, neu os ydych yma ar wyliau yn ystod y gaeaf, ewch am dro i Gwm Gwaun i barhau â’r dathlu; mae fel mynd yn ôl i’r oes a fu ac yn werth ei weld. Mae’n ardal hyfryd o Sir Benfro, ac yn berffaith os ydych yn treulio 48 awr yn Abergwaun.

Fe ddywedwn ni wrth Bessie eich bod ar eich ffordd …

Blwyddyn Newydd Dda