Sut, pryd a ble

Gwylio dolffiniaid a llamhidyddion yn Sir Benfro

Gwireddu breuddwyd

Gwylio dolffiniaid yn Sir Benfro

Yn aml, yr anifeiliaid prydferth hyn yw uchafbwynt unrhyw ymweliad â Sir Benfro, ac mae teuluoedd yn dychwelyd dro ar ôl tro ers cenedlaethau i weld ein trigolion morol.

Ac i goroni’r cyfan, mae digonedd o fannau i wylio am gynffon neu gorff llwyd yn llithro’n osgeiddig drwy’r tonnau, a hynny gyda’ch traed ar dir sych.

Beth i chwilio amdano:

  • Mae dau brif fath yn Sir Benfro a’r ardal, sef y dolffin trwyn potel a’r llamhidydd harbwr.
  • Mewn grwpiau bychain y gwelir llamhidyddion, sy’n gymharol swil – dim ond asgell ddorsal a chwythiad o aer a welir wrth iddynt ddod i’r wyneb. Mae’r rhain yn greaduriaid eithaf tywyll gydag ochrau a stumog mwy golau.
  • Fel arfer mae dolffiniaid trwyn potel mewn grwpiau teuluol mwy o faint ac yn barod i neidio a chwarae a chymdeithasu! Mae ganddynt stumog golau ac mae gweddill eu cyrff yn llwyd tywyll.
  • Gall fod yn fwy anodd gweld y creaduriaid hyn na’r disgwyl! Gyda milltiroedd o fôr i’w chwilio, mae’n anodd sylwi ar asgell neu gynffon yn torri drwy’r dŵr.
  • Ond, os ddilynwch chi’r pysgod, yn aml fe welwch chi haid o ddolffiniaid – os oes llawer o adar môr yn gwneud ffws a ffwdan mewn rhyw ardal benodol, gall fod yn syniad da edrych yn ofalus: os yw’r adar yn bwydo, felly hefyd y dolffiniaid!
©Janet Baxter ar gyfer Voyages of Discovery

Ble i chwilio:

  • Yn aml gwelir Llamhidyddion a Dolffiniaid oddi ar y rhan o lwybr yr arfordir rhwng Traeth Poppit a Phen-caer – ger y troad ym Mae Ceredigion.
  • Rhowch gynnig ar y llwybr o gwmpas Pen Dinas am brynhawn difyr, neu glogwyni Ceibwr ger Trewyddel yn nes ymlaen yn y dydd. Yn ôl y sôn, mae’n haid ni’n hoff o chwarae ar fachlud haul!
  • Mae’r ardal o gwmpas Ynys Dewi yn llecyn poblogaidd hefyd, ac os nad oes arnoch awydd teithio mewn cwch i’r ynys ei hun, ar ddiwrnod clir mae’n werth cerdded ar hyd llwybr yr arfordir o Fae Caerfai.
  • Gallwch fynd ar un o’r tripiau cwch niferus sy’n monitro ein haid leol a’r grwpiau mudol wrth iddynt fynd yn ôl a mlaen o Ogledd i Dde Sir Benfro.
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol yn Abergwaun yw’r Sea Trust, sy’n cynnal teithiau achlysurol yn ystod yr haf i fonitro llamhidyddion a morfiligion. Yn gadael o Farina Neyland, mae’r tripiau naill ai’n ddiwrnod llawn neu’n drip gyda’r nos ac mae’r pwyslais ar arsylwi proffesiynol gan fwyaf. Mae’r tripiau yma’n gweld dolffiniaid a llamidyddion 95% o’r amser, felly trefnwch le’n gynnar i osgoi cael eich siomi!

Croeswch eich bysedd am brofiad bendigedig a bythgofiadwy.                  

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi