Ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa
Gwersylloedd gwych â golygfeydd godidog o’r môr
Awydd gwersylla mewn paradwys ger y lli?
Mae Sir Benfro’n enwog am ei dewis da o wersylloedd, a dyma ambell un o’n rhai gwych ger yr arfordir…
- Celtic Camping & Bunkhouses, Berea, Tyddewi
Dafliad carreg o Lwybr yr Arfordir, Abereiddi a’r hudol Shinc, a dim ond 4 milltir o Dyddewi, byddai’n anodd cael lle gwell i wersylla. Gyda golygfeydd ar draws y môr mawr, mae’n lecyn perffaith i eistedd, ymlacio a mwynhau’r olygfa. Mae lle i nifer fawr o ymwelwyr, gyda llety hyfryd i grwpiau mawr o 200 – 300 o bobl, neu dai bync llai o faint sy’n berffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau neu deuluoedd mawr. Ac os ydych am ddod â’ch pabell eich hun, byddwch yn siwr o ddod o hyd i lecyn gyda’r un golygfeydd godidog.
- Meadow Farm yn Ninbych-y-pysgod
Ym mhen draw’r Crofft yn Ninbych-y-pysgod mae gwersyll bach hyfryd i bebyll, carafanau a faniau campio. Mae’n siŵr mai yma mae’r golygfeydd gorau o holl wersylloedd yr ardal, draw dros y bae i Ynys Bŷr. Prin yw’r cyfleusterau ond, gyda golygfeydd fel hyn, pwy sydd angen bar neu glwb? Mae’n hawdd cerdded oddi yma i Lwybr Arfordir Sir Benfro, Traeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod, yr harbwr a’r dref. Dewis arall gerllaw yw gwersyll Windmills, drwy New Hedges. Mae nifer o wersylloedd mwy o faint gyda digon o gyfleusterau o gwmpas Dinbych-y-pysgod, os mai dyna sydd well gennych chi.
- Hillfort, Pen-caer
Ar safle tawel 30 erw sy’n addas i deuluoedd, mae’r lleiniau wedi’u gosod o’r golwg islaw craig ryfeddol Garn Fawr, ac mae golygfeydd panoramig o Ben-caer a Môr Iwerddon. Dyma le delfrydol i wylio’r machlud dros y môr o flaen tanllwyth o dân. Mae gan y safle ei fryngaer Oes Haearn ei hun hyd yn oed!
- Tŷ Canol, Trefdraeth
Ar Lwybr Arfordir Sir Benfro ac uwchlaw Bae Trefdraeth, mae hwn yn safle gwych ar gyfer pebyll, carafanau a faniau campio. Wedi’i wasgaru dros dri chae, mae digonedd o le hyd yn oed yng nghanol haf. Mae ystafell fyncïau fach, fach ar y fferm i gerddwyr sy’n aros dros nos wrth gerdded Llwybr yr Arfordir hefyd. Prin yw’r cyfleusterau ond mae ardal dan do i goginio os fydd hi’n bwrw glaw. I lawr Llwybr yr Arfordir ryw ychydig, fe ddewch chi i’r Parrog yn Nhrefdraeth, un o’r mannau mwyaf paradwysaidd ar y ddaear! Dau ddewis arall yw gwersyll Conifers ar y fferm drws nesa neu Morawelon ar y Parrog.
- Fishguard Bay Caravan and Camping Park
Ar ben y clogwyn i’r dwyrain i Abergwaun, mae gan y safle cymysg hwn garafanau statig i’w llogi a gwersyll ar gyfer pebyll, carafanau teithiol a faniau campio. Mae braidd yn agored os fydd y tywydd yn stormus, ond mae’r golygfeydd yn anhygoel pan fydd hi’n braf! Mae rhai cyfleusterau dan do ac ystafell gemau a lolfa deledu ar y safle hwn. Gallwch gerdded i draeth bach cudd Aberbach mewn hanner awr ar hyd Llwybr yr Arfordir.
- Upper Portclew Farm yn Freshwater East
Cae ar lethr bychan uwchlaw traeth godidog Freshwater East. Mae golygfeydd o gwmpas y bae i Ynys Bŷr. Prin eto yw’r cyfleusterau, ond mae bar/bwyty yn Trewent Park ar waelod y bryn a thafarn ddigon da yn y pentref ar ben y bryn. Mae safle’r Clwb Carafanio gerllaw, sydd â gwell cyfleusterau, ond heb y golygfeydd.
- Gwersyll Fferm Caerfai yn Nhyddewi
Ar gyrion Tyddewi mae un o’r ffermydd mwyaf eco-gyfeillgar y gallech obeithio dod o hyd iddi: organig, ffynonellau ynni adnewyddadwy yn ei phweru, ac yn gwneud cawsiau hyfryd o’u buches eu hunain. Ond y peth gorau amdani yw’r lleoliad. Mae uwchlaw traeth bendigedig Bae Caerfai. Mae cyfleusterau da yn y gwersyll, a’r caeau’n weddol wastad, a gallwch gerdded yn syth oddi yno i Lwybr Arfordir Sir Benfro.