Wardeniaid Ynys Dewi

Yn trafod byw ar yr ynys a phrinder ffrwythau ffres

Dyma Lisa a Greg

Wardeniaid Ynys Dewi

Mae’n bosib i chi glywed am Ynys Dewi ar y newyddion pan ddechreuon nhw ddenu palod yn ôl i nythu ar yr ynys drwy ddefnyddio palod plastig lliwgar a recordiadau o balod.

Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r syniad o gael palod ar yr ynys unwaith eto, felly dyma ni’n cael sgwrs gyda Greg a Lisa, y wardeniaid, am eu bywyd yno gyda’r adar!

 Croeso Sir Benfro (CSB): Beth yw’r pethau gorau a’r peth gwaethaf am fyw ar Ynys Dewi?

Y Gorau – Dydy bywyd byth yn ddiflas! Mae ein gwaith mor amrywiol, yn dibynnu ar y tywydd a’r adeg o’r flwyddyn. Un funud gallwn ni fod yn helpu dafad i eni oen, y funud nesaf yn cyfri adar môr, a’r funud nesaf yn cwrdd ag ymwelwyr neu’n tywys taith gerdded.

Y gwaethaf – pan fyddwn ni wedi bwyta’n ffrwythau ffres i gyd!

CSB: Beth yw’r profiad bywyd gwyllt mwyaf cyffrous i chi ei gael hyd yma? Ydych chi’n dal i aros i weld rhywbeth?

Y mwyaf cyffrous – Darganfod pedrynnod drycin yn nythu ar arfordir gorllewinol Ynys Dewi am y tro cyntaf ers i gofnodion gael eu cadw. Mae’r adar môr bychain hyn (tebyg i wenoliaid) yn nythu mewn hafnau yn y creigiau, tyllau yn y ddaear ac mewn waliau cerrig. Doedden nhw erioed wedi’u cofnodi ar Ynys Dewi tan i ni ddarganfod pum pâr yn bridio yma yn 2008. Roedd difa’r llygod ffyrnig yn ôl ym 1999/2000 wedi paratoi’r ffordd ar gyfer yr adar.

Yn aros i weld – Palod yn dychwelyd i Ynys Dewi ar ôl diflannu o’r ynys ers dros 100 mlynedd.

Tua’r gogledd o Garnllundain ar Ynys Dewi

CSB: Dywedodd Michael Palin un tro, ‘Un aflonydd ydw i. Does dim ots gen i adael y bywyd cyffyrddus, sefydlog yma. Gallwn i fyw ar fy mhen fy hun mewn man anghysbell.’ Ydych chi’n cytuno? Neu ydych chi’n gweld eisiau’r tir mawr?  

Cytuno’n llwyr. Dwi ddim yn credu y gallai neb fyw ar Ynys Dewi drwy gydol y flwyddyn heb gytuno â hynny. Ond mae bywyd ar Ynys Dewi yn fywyd llawn cyferbyniadau. Yn ystod yr haf rydym yn croesawu ymwelwyr, gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr. Mae rhywun yn mynd neu’n dod drwy’ramser, a rhaid i chi fod yn siaradus ac yn frwdfrydig, ond yn y gaeaf, prin iawn yw’r bobl welwn ni a rhaid i chi fod yn fodlon gyda’ch lle a’ch amser chi eich hun.  

Dydw i ddim yn gweld eisiau bywyd ar y tir mawr ond mi fyddai’n gweld eisiau’r teulu weithiau, wrth gwrs.  

CSB: Ar ôl 9 mlynedd, ydych chi’n teimlo mai Ynys Dewi yw eich cartref? Os felly, oes ots gennych chi fod ymwelwyr fwy neu lai’n crwydro drwy eich gardd gefn? Neu ydych chi’n hoff o’r cwmni?  

Mae’n anrhydedd mawr cael byw a gweithio mewn lle mor anhygoel ac mae’n fraint cael y lle i ni’n hunain ar ddiwedd tymor agored hir a phrysur. Ond pan ddaw Ebrill 1af, fe fyddwn ni bob amser yn falch o weld y Gower Ranger unwaith eto. Bydd hi’n dod â’n staff haf a’n gwirfoddolwyr, llawer ohonyn nhw’n ffrindiau agos i ni, ac mae bois y cychod hefyd yn ffrindiau i ni ac mae’n dda cael clywed eu hanesion. Mae cyffro ein hymwelwyr dydd yn ein hatgoffa bob dydd o ba mor arbennig yw’r ynys.         

CSB: Petaech chi’n gallu gweld un peth yn digwydd er lles Ynys Dewi yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, beth fyddai hwnnw?

Er lles ein hadar môr yn y dyfodol, mae angen i weinyddiaethau’r DU (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaethon nhw o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir a sefydlu ardaloedd gwarchodedig yn y môr. Er bod ein hadar wedi’u gwarchod tra fyddan nhw ar yr ynys, ar ôl iddyn nhw fynd allan i’r môr i fwydo neu fudo, does ganddyn nhw ddim gwarchodaeth o’r fath.

Gyda phwysau cynyddol ar ein hamgylchedd morol gan bysgodfeydd, technoleg ynni adnewyddadwy a chwilio am fwynau, mae gwarchod ardaloedd pwysig i fywyd gwyllt allan yn y môr yn bwysicach nac erioed.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i greu tystiolaeth wyddonol gadarn a all gyfrannu at drafodaethau gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, a’r gobaith yw y bydd yn dylanwadu ar bolisi ar gyfer y dyfodol. Mae parhad yr astudiaethau tymor hir sy’n cael eu cynnal yma ar Ynys Dewi gydag adar drycin Manaw a chyda huganod ar Ynys Gwales yn holl bwysig.

CSB: Sut mae Dewi wedi addasu i’w fywyd yr ynys?

Mae Dewi’n byw ar yr ynys ers iddo fod yn 10 wythnos oed. Yma gafodd ei hyfforddiant ci defaid ac yma ddysgodd e bopeth, felly mae e’n ran mwy o’r lle nac unrhyw un ohonon ni. Ei hoff aderyn yw aderyn drycin Manaw, yn bendant; a dweud y gwir, mae’n gallu dilyn ei drwyn i dwll lle mae’r adar yn byw, a’i ddangos i ni.

CSB: Sut ydych chi’n cysylltu â’r byd y tu allan – oes gennych chi’r we? Naw mlynedd yn ôl, prin iawn oedd y dechnoleg gyfathrebu yma. Doedd ganddon ni fawr o bŵer ac roedd ein hunig gyfrifiadur yn rhedeg oddi ar fatri car! Rydyn ni’n dal i ddibynnu ar gyswllt radio VHF gyda chriw’r cychod a Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau mewn argyfwng, ond erbyn hyn mae ganddon ni hefyd wasanaeth ffôn symudol da, a’r we.

Ydych chi wedi breuddwydio am fyw ar ynys? Neu wedi ymweld â Greg a Lisa ar eu hynys nhw? Rhannwch eich profiad gyda ni ar Twitter a Facebook.