Dydd San Ffolant Cymru
Dydd Santes Dwynwen
Dydd Santes Dwynwen yw’r hyn sy’n cyfateb yng Nghymru i stori San Ffolant.
Mae’r union fanylion yn gwahaniaethu o ardal i ardal, ac mae’r stori wedi newid dros y canrifoedd, ond dywed y stori fod Dwynwen, merch harddaf brenin Cymru, sef Brychan Brycheiniog, wedi syrthio mewn cariad â Maelon Dafodrill. Fodd bynnag, nid oedd ei thad yn gadael iddi ei briodi, felly rhedodd i ffwrdd i’r goedwig a gweddïo ar i Dduw achosi iddi beidio â charu Maelon mwyach.
Atebodd Duw ei gweddïau, troi Maelon yn rhew, a rhoi tri dymuniad i Dwynwen: yn gyntaf gofynnodd am i Maelon gael ei ddadmer, yn ail dymunodd am hapusrwydd i gariadon ymhob man, ac yn drydydd dymunodd na fyddai’n priodi ond yn hytrach yn ei chysegru ei hun i Dduw.
Gellir ymweld â gweddillion yr eglwys a sefydlodd ar Landdwyn, sef ynys oddi ar Ynys Môn. Mae Llanddwyn hefyd yn gartref i’w ffynnon, ac mae yna chwedl yn dweud os yw cwpl yn ymweld â’r ffynnon, a’r dŵr yn y ffynnon yn berwi, eu bod yn wir eneidiau hoff cytûn. Mae yna hefyd ddywediad y gall carp sy’n byw yn y ffynnon fendithio eich uniad os byddwch yn gofyn amdano (a phrofi ffyddlondeb eich partner, ond stori arall yw honno!).
Felly, i broffesu eich cariad bythol at rywun yng Nghymru, mae 25 Ionawr yn ddiwrnod perffaith. Mae yna lawer o ffyrdd i ddathlu, ond mae’r traddodiad Cymreig o gyflwyno llwy garu wedi’i gorchuddio â cherfiadau o galonnau, cloeon a chroesau Celtaidd yn dal i fod yn boblogaidd iawn.
Neu, yn syml, casglwch dusw o gennin Pedr cynnar (rydym wedi clywed bod yna rai yn blodeuo eisoes i lawr ger Dale a Maenorbŷr), ac ewch allan am dro ar hyd un o’n traethau hyfryd cyn cael cwtsh o flaen y tân – does dim yn fwy rhamantus yn ein barn ni!
A, rhag ofn, dyma ychydig o eiriau a allai fod o ddefnydd!
Cariad
Cwtsh
Yn fy nghalon
Rwy’n dy garu di
A wnei di fy mhriodi i?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio i ymweld â’r gweithdy llwyau caru, The Lovespoon Workshop. Mae’n hawdd mynd yno os byddwch yn treulio rhyw 48 awr yn Ninbych-y-pysgod.