Ciniawa moethus
Blas ar Sir Benfro
Mae Sir Benfro’n adnabyddus am ei thirwedd ryfeddol, ei bryniau geirwon, ei chaeau gwyrddion a dyfroedd grisial ei harfordir. Ac oherwydd ei lleoliad rhyfeddol, yma mae peth o gynnyrch gorau’r DU yn cael ei dyfu, ei fagu a’i ddal.
Felly, dewch gyda ni i wledda’ch ffordd o amgylch Sir Benfro, y cwbl sydd ei angen arnoch yw chwant bwyd!
A beth am ddechrau yn y man mwyaf gorllewinol, allan ar benrhyn Tyddewi ac o fewn muriau hen westy Twr y Felin. Bellach wedi’i adnewyddu i safon aruchel, caiff bwyty dwy rosette AA, Blas, ei redeg dan lygad barcud y prif gogydd Simon Coe. Gyda phwyslais ar fwyd tymhorol, mae’r fwydlen yn cyfuno’r clasurol a’r modern mewn lleoliad moethus. Gyda gwasanaeth rhagorol o’r dechrau i’r diwedd, rydym wrth ein bodd yn dechrau’n hymweliad yn y bar coctel ardderchog!
I mewn i’r wlad nesaf, ac yn Arberth, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud yr amser i gael pryd yng ngwesty’r Grove. Mae’r cogydd gweithredol, Alistair Barsby, wedi bod yn dawel chwyldroi’r ystafell fwyta hon ers iddo adael gwesty 2 seren Michelin y Gidleigh Park Hotel a chyrraedd Sir Benfro. Ynghyd â’r digonedd o gynnyrch ffres o’r ardd, mae manylder, medrusrwydd ac ymroddiad Alistair i gael y gorau allan o bob cynhwysyn yn sicrhau profiad bwyta cyffrous. Gyda 3 rosette AA, mae bwyty’r Grove yn adnabyddus ac yn cael ei ganmol yn eang, ochr yn ochr â’i chwaer sefydliad yn ne’r Sir, Coast. Er bod awyrgylch Coast, sydd ar draeth Coppet Hall, yn edrych draw dros y bae, yn fwy hamddenol o bosibl, mae’r sylw i fanylion a’r awydd i ddefnyddio bwydydd tymhorol a lleol yn gwbl amlwg. Dau le sy’n rhaid i’r gourmet teithiol ymweld â nhw!
Gan aros ger yr arfordir, mae gennym ddau fwyty bendigedig yn ne’r sir. Beth am ddechrau yn The Salt Cellar yn Ninbych y pysgod. Yma ceir bwydlen arloesol a modern gan Duncan Barham a Matthew Flowers, dau gogydd adnabyddus ac uchel eu parch. Mae hwn yn dipyn o drysor – profiad bwyta hamdenol, di-ffws, ond bendigedig, gan dîm brwdfrydig a sylwgar sy’n amlwg yn gweithio’n galed. Gyda’i ddau rosette AA, mae’n werth cadw llygad ar y Salt Cellar ar gyfer digwyddiadau arbennig a chydweithrediadau gyda’n lleoliad nesaf – y Penally Abbey Hotel.
Mae bwyty 2 rosette AA y Penally Abbey yn gartref i’r prif gogydd Richard Browning sy’n serennu yn y gwesty newydd ei adnewyddu hwn. Gyda bwydlen glasurol yn llawn dylanwadau Prydeinig modern, mae’r tîm yn amlwg yn gwbl angerddol am fyw a gweithio yn Sir Benfro a’r digonedd o gynnyrch lleol a ddaw yn sgil hynny. Beth am gael seibiant bach a the prynhawn yma, cyn pryd min nos wrth gwrs, gyda golygfeydd hyfryd dros y gerddi.
Ac yn olaf, neidiwch i’r car ac anelwch am wlad wylltach gogledd y sir. Ewch am dro ar Garningli i fagu dipyn o archwaeth cyn picio i Drefdraeth am swper yng ngwesty Llys Meddyg. Yn fwyty 2 rosette AA sydd wedi hen ennill ei blwyf, mae Ed, Lou a’r prif gogydd Jake Smith yn cynllunio profiad bwyta sydd ar y naill llaw’n hamddenol a hwyliog ond yn arloesol yr un pryd. Ewch i lawr y grisiau llechi i far y seler am aperitif cyn mwynhau pryd o gynnyrch lleol wedi’i weini gyda medrusrwydd a gofal yn yr ystafell fwyta. Byddai’n werth mynd yno am yr eog wedi’i fygu gartref yn unig. Bon appetit!
Ydych chi wedi bwyta yn unrhyw un o’r bwytai hyn yn ystod eich gwyliau? Neu a ydym wedi gadael ei ffefryn chi allan? Ymunwch â’r sgwrs ar Facebook neu Twitter – byddem wrth ein boddau’n clywed am eich profiadau!