Sir Benfro

Yn llawn chwedlau a hanesion

Gwlad o hud a lledrith

Chwedlau a hanesion Sir Benfro

Fil o flynyddoedd yn ôl, disgrifiwyd Sir Benfro fel gwlad o hud a lledrith gan awdur anhysbys chwedlau’r Mabinogi.

Ac mae’r disgrifiad hwnnw’n dal i daro deuddeg heddiw, wrth i bellafoedd Sir Benfro ymwthio i’r Môr Celtaidd.   

Efallai mai’r chwedl mwyaf hir ei pharhad yw hanes Dewi Sant, nawddsant Cymru. Yn ôl y stori, cafodd ei eni i Non, nith y Brenin Arthur, yn ystod storm ffyrnig ar arfordir deheuol y penrhyn, sef Penmaen Dewi erbyn hyn.

Wrth iddi eni’r plentyn, daeth golau rhyfedd dros y tir, aeth popeth yn dawel a llonydd ac ymddangosodd ffynnon o ddŵr crisial yn yr union fan.

Gallwch weld bwa carreg syml yn gorchuddio Ffynnon Santes Non ffynnon hyd heddiw, i fyny fry ar y clogwyn uwchlaw Bae Santes Non i’r de o Dyddewi. Mae’n denu pererinion o hyd, a chyn y Diwygiad, byddai pobl yn mynd â dŵr o’r ffynnon i’w ddefnyddio fel dŵr sanctaidd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi gerllaw.

Bu Dewi Sant, yr honnwyd iddo fyw hyd nes ei fod yn 147 mlwydd oed, farw ym 588 a’i gladdu yn ei eglwys gadeiriol, lle gellir gweld ei fedd yn wal orllewinol capel y Drindod Sanctaidd hyd heddiw.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae cysylltiad mam Dewi, y Santes Non, â’r Brenin Arthur yn ein hatgoffa o thema gyffredin arall yn llên gwerin Sir Benfro. Yn uchel ar grib y Preseli mae Bedd Arthur, un o nifer o safleoedd honedig bedd y Brenin Arthur, a dywedir bod creigiau Cerrig Marchogion yn nodi’r man ble lladdodd y Twrch Trwyth nifer o farchogion Arthur a’u troi’n dalpiau o garreg.

Ac wrth gwrs, yn ôl y chwedl, aethpwyd â cherrig gleision cylch mewnol Côr y Cewri o fynyddoedd y Preseli drwy hud a lledrith Myrddin, cyfaill ac athro’r Brenin Arthur. Dywed eraill mai gweithred rewlifol a gludodd y cerrig ar eu taith o 200 milltir, ond mae archeolegwyr modern yn argyhoeddedig eu bod wedi’u cludo i Wiltshire ar afonydd a’r môr.

Mae gan ffigwr dirgel Sant Gofan, sydd â’i gapel bychan o’r 13eg ganrif yn swatio o dan y clogwyni i’r gorllewin o Bentir Sant Gofan, gysylltiadau Arthuraidd hefyd. Yn ôl rhai ysgolheigion, ef yw’r bonheddwr Syr Gwalchmai, arwr y gerdd o ddechrau’r 15fed ganrif, Gwalchmai a’r Marchog Gwyrdd, a’r capel yw’r Capel Gwyrdd yn niweddglo’r stori.

Yn amlwg yng ngogledd mynyddoedd y Preseli mae mynydd hudolus Carningli, ac er nad yw ond 347m (1,138 troedfedd) o uchder, hwn yw prif nodwedd tirwedd ardal Trefdraeth. Mewn hen ddogfennau, enw’r mynydd yw Carn Yengly neu Carnengli, sef ‘craig yr angylion’.

Yn ôl y chwedl, arferai Sant Brynach, un o gyfeillion Dewi Sant, ddringo i’r copa yn y 6ed ganrif i gael tawelwch, i weddïo ac i “gymuno â’r angylion”. Cred rhai y byddwch yn breuddwydio am angylion, fel Brynach, os byddwch chi’n treulio noson ar y copa.

Carningli fry uwchben Trefdaeth

Mae llinell anweledig sy’n ymestyn o Brandy Brook ger Niwgwl yn y gorllewin i Amroth yn y dwyrain yn nodi rhaniad cymdeithasol hynafol yn nhirwedd Sir Benfro. Ar un adeg, roedd mwy na 50 o gadarnleoedd Normanaidd yn nodi’r llinell a gaiff ei hadnabod bellach fel y ‘Landsker’, sef y gair Sacsonaidd am ffin. Ar un adeg, byddai’n warth priodi ar draws y ffin gymdeithasol hon ac anaml iawn y digwyddai hynny.

Os fyddwch chi yn Sir Benfro ar Ddydd Gŵyl Dewi, Mawrth 1af, efallai y gwelwch chi blant yr ardal yn eu gwisgoedd Cymreig a’r trigolion yn ymfalchïo yn ein nawddsant lleol drwy wisgo cenhinen. Efallai y bydd rhai’n gwisgo cenhinen Bedr arbennig Dinbych-y-pysgod.