Yr awdur awyr agored Fiona Barltrop

Yn crwydro Ynys Bŷr

Cyfaredd Ynys Bŷr

Ynys Bŷr

Nid taith gyffredin mo’r daith cwch i ynys Bŷr yn ôl Fiona Barltrop.

“Y cwch i Ynys Bŷr – o ble mae’n gadael, plîs?” Pwyntiodd y fenyw yn y ciosg tuag at Draeth y Castell: “I lawr fan’na, chwiliwch am y tractor ar y traeth. Gallwch chi brynu tocyn yno.”

Ychydig funudau’n ddiweddarach roeddwn i’n sefyll ar lan y dŵr wrth ymyl y tractor, gyda glanfa bren hir yn arwain at y cwch yn sownd iddo. Cefais wybod mai oddi yma mae’r cychod yn gadael ar lanw isel, ac o’r harbwr ar benllanw. Cyn pen dim o dro, i ffwrdd â ni ar ein taith ugain munud o Ddinbych-y-pysgod: taith fach hyfryd, yn enwedig ar ddiwrnod mor braf. Er ei bod hi’n ganol mis Hydref, roedd fel diwrnod o haf, yn ddigon cynnes i wisgo siorts a chrys T. Efallai y buasai’n llawer prysurach yn yr haf, ond heddiw, dim ond hanner dwsin ohonom oedd ar y cwch bach. Roedd y glanio’n syrpreis annisgwyl, wrth i ni gael ein trosglwyddo i fad amffibiaidd, milwrol gynt – a ddefnyddir pan fydd y llanw’n isel iawn – i’n cludo’r ychydig lathenni olaf i lanfa’r ynys.

©Fiona Baltrop
Bad glanio llanw isel ar Ynys Bŷr

Roedd hi’n 1 o’r gloch erbyn hyn, a’r cwch olaf yn gadael am 4.30yp: digon o amser, feddyliais, i grwydro’r ynys fechan. O’r cwch, a thraeth tywodlyd hyfryd Bae’r Priordy, mae llwybr byr, cysgodol yn ein harwain i mewn i’r tir, i’r grin, a gerllaw, yr abaty Eidalaidd yr olwg sy’n gartref i fynachod yr urdd Sistersaidd.

O gwmpas y grin, lle mae peunod yn crwydro’n rhydd, mae siop anrhegion, siop bersawr, siop de a swyddfa bost ac amgueddfa, dwy eglwys ac adeilad bychan sy’n dangos fideo byr am fynachod Ynys Bŷr.

©Fiona Baltrop
Mae peunod yn crwydro Ynys Bŷr

Ond gallai hyn i gyd aros; nawr, roeddwn yn awchu am grwydro’r ynys. Er bod mapiau ar fyrddau arddangos o gwmpas yr ynys, a digonedd o arwyddion, mae’n syniad da mynd ag un o’r taflenni o’r siop anrhegion sydd â map yn dangos llwybrau’r ynys.

Ac i ffwrdd â mi ar hyd y llwybr tuag at y goleudy, man uchaf yr ynys. Ar ddiwrnod clir fel hyn, roedd y golygfeydd yn ardderchog, gyda Phen Pyrod ar Benrhyn Gŵyr i’w weld i’r dwyrain a Phentir Sant Gofan ar arfordir Sir Benfro i’r gorllewin. Ac ar y creigiau islaw’r clogwyni, roedd ugain neu fwy o forloi’n bolaheulo.

©Fiona Baltrop
Goleudy Ynys Bŷr

Dilynais y llwybr gogoneddus ar hyd y clogwyn tua’r gorllewin, drwy Red Berry Bay i Sandtop Bay, yna i mewn i’r tir a galw yn y Ffatri Siocled, drws nesaf i’r Hen Briordy. Gadewais gyda’m bag ychydig bach yn drymach… mae siocled a chyffug yn cael eu gwneud a’u gwerthu yma, ac yn werth eu blasu!

©Fiona Baltrop
Sandtop Bay, Ynys Bŷr

I ble’r aeth yr amser, wn i ddim, ond yn y diwedd cyrhaeddais yn ôl i’r lanfa o fewn trwch blewyn i fethu’r cwch olaf, ac yn awchu am ragor o amser i ymdroi ar yr ynys heddychlon, hardd hon. Rywbryd eto…

Sut i gyrraedd yno.

Mae cychod yn mynd o Ddinbych-y-pysgod i Ynys Bŷr o’r Pasg hyd fis Hydref. Mae’r ynys ar gau bob dydd Sul. Dysgwch ragor am Ynys Bŷr.

Beth am gerdded rhagor o’r llwybrau yn ein cyfres o deithiau cerdded Sir Benfro, fel Lawrenni ar foryd y Ddau Gleddau neu Garn Meini ar Fryniau’r Preseli?

Gair am yr awdur:

Mae Fiona Barltrop yn ffotograffydd ac awdur awyr agored llawrydd sydd wrth ei bodd yn cerdded yr arfordir. Cerddod Llwybr Arfordir Sir Benfro ugain mlynedd yn ôl, a gwirionodd yn lân. Er iddi ddychwelyd nifer o weithiau er mwyn dod i’w adnabod yn well, dyma’i thaith gyntaf i Ynys Bŷr.