Coetiroedd hynafol, fflatiau llaid a golygfeydd rhyfeddol
Cerdded yn Sir Benfro – Lawrenni
Gyda dau o blant, y cŵn a’r gobaith o gael cinio yn y Quayside Tearooms, aeth y teulu Rees i Lawrenni i daclo’r llwybr cylchol.
Coetiroedd hynafol, fflatiau llaid a golygfeydd ardderchog o ddolydd afonydd Caeriw a Cresswell a moryd y Ddau Gleddau, mae’r llwybr 3 milltir hwn yn berffaith ar gyfer y teulu cyfan.
Hyd: 1 awr 30 munud – 1 awr 45 munud
Pellter: 2.8 milltir (4.5 km)
Tir: Amrywiol. Mae’r daith gerdded hon yn berffaith i deuluoedd, ond gyda phlant ychydig yn hŷn efallai. Ar y rhan olaf, o Garron Pill ar hyd moryd y Ddau Gleddau (y llwybr llanw uchel), mae cryn dipyn o waith cerdded i fyny ac i lawr graddol yn hytrach na serth. Mae gwreiddiau coed yn croesi’r llwybr a gallai plant ifanc iawn faglu.
Awgrym: Gallai fod yn syniad da gwisgo trowsus hir, oherwydd er bod y llwybr yn un amlwg mae’r mieri’n gallu bod yn bigog.
Am eich traed: Roedd gennym ni gymysgedd o esgidiau, o esgidiau cerdded go iawn i esgidiau rhedeg a trainers. Byddai wellingtons yn iawn ond, mewn tywydd gwlyb, ar hyd y llwybr llanw uchel, gallai’r llwybr fod yn llithrig.
Lawrlwythwch gopi o fap y llwybr gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Y llwybr
Gan ddechrau ar draws y ffordd i’r dafarn, mae’r llwybr yn dechrau drwy ddringo’n raddol drwy goetir llydanddail, cymysg lle gewch chi’r cyfle cyntaf, o lawer, i aros er mwyn swingio a dringo.
Wrth ddod allan o’r coed, yn sydyn daw golygfa i’r golwg a fydd yn gwneud i chi sefyll yn stond. Dydych chi ddim yn disgwyl hyn.
Ewch ymlaen drwy’r ffermdir, gan osgoi’r dom gwartheg, ac i’r pentref. SYLWER: gallai fod gwartheg yn y cae, gyda’u lloi. Cadwch gŵn dan reolaeth glòs.
Daw’r llwybr allan ger clwyd Eglwys Sant Caradog o’r 12fed ganrif. Os yw’n well gennych lwybr byrrach, gallwch droi i’r dde yn fan hyn a dilyn y ffordd yn ôl i Lawrenni, neu gallwch fynd ymlaen i’r chwith drwy’r pentref i Garron Pill.
Wedi’r cloddiau uchel daw Garron Pill i’r golwg yn sydyn lle mae’r llwybr yn troi i’r chwith ar hyd y nant, ac ar lanw isel, y fflatiau llaid gludiog iawn. Roedd y gwynt yn llawn o glebran piod môr a gylfinirod wrth iddyn nhw chwilio’r fflatiau am damaid i’w fwyta.
Gyda choed wedi cwympo ac wedi’u golchi i’r lan ym mhobman, mae hwn yn lle perffaith am seibiant – canghennau cryfion i swingio a dringo arnyn nhw a cherrig i’w taflu i’r llaid gludiog – cyn i’r llwybr anelu’n ôl am y coetir hynafol.
Yna mae’r llwybr yn mynd drwy goetir o goed derw digoes hynafol gyda’u canghennau troellog. Wrth i’r llwybr droelli ar hyd y draethlin fe gewch gipolwg ar yr aber islaw ac ar draws y dŵr i Gastell Benton.
Wedi i Gastell Benton ddod i’r golwg, rydych bron â chyrraedd pen eich taith, drwy’r glwyd olaf ac mae cinio yn y Quayside Tearooms yn eich disgwyl chi.
Y farn.
Iolo, 12 “Roedd y siglen ar y goeden yn annisgwyl ac roedd rhedeg drwy’r ddôl gyda’r cŵn yn hwyl. O ie, a chodi ofn ar Ella yn y goedwig“
Ella, 15 “ddim yn rhy hir!”
Fyddai’n well gennych chi dir mwy gwastad? Rhowch gynnig ar rai o’n hawgrymiadau am deithiau cerdded hygyrch, sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd gyda phlant iau a chadeiriau gwthio.