Cerdded o Dale i Marloes

12 milltir o ysblander arfordirol

12 milltir o draethau perffaith, caerau ac ychydig o hanes Brenhinol

Cerdded yn Sir Benfro - Dale i Marloes

Rachel Broomhead o Country Walking sy’n gwisgo’i hesgidiau cerdded ac yn crwydro arfordir Sir Benfro.

Mae Sir Benfro’n fyd-enwog am ei thraethau perffaith ac mae’r daith gerdded hon yn cynnwys rhai o’r goreuon ym Mhrydain.

Mae rhywbeth arbennig iawn am fod ar lan y môr. Yn enwedig yn Sir Benfro. Mae’r traethau’n gwbl naturiol: yn wyllt, yn wag ac yn hardd. Yn y lle hwnnw rhwng môr a thir, mae lle i anadlu, a lle i roi trefn ar eich meddyliau. Dyma sy’n gwneud cerdded rhwng Dale a Marloes mor gyfareddol.

“Y traethau - Watwick, Westdale, Marloes – sydd mor drawiadol

Theresa Nolan, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro

Does fawr o bobl wedi cerdded cymaint o Lwybr Arfordir Sir Benfro, a hynny mor aml, â Theresa. Hi sy’n gyfrifol am gynnal a goruchwylio pob modfedd ohono, ac o’r 186 o filltiroedd, y rhan o’r llwybr rhwng Dale a Marloes yw ei hoff daith diwrnod.

Mae’r daith yn 12 milltir digon heriol, ond mae dihangfa i goesau blinedig os oes angen. Gan ddechrau yn Dale, mae’r llwybr yn dilyn pentir siâp cyrn Dale tua’r gorllewin i’r enwog Draeth Marloes, ymlaen i bentir dwbl Trwyn Wooltack ac yna i lawr i draeth Musselwick a phentref Marloes.

Traeth Musselwick yn edrych tuag at Ynys Sgomer

O ganolfan hwylio brysur Dale, fe gyrhaeddwch y pentir a chaer ddiddorol Dale ymhen fawr o dro. Y gaer yw un o greiriau diddorol, os salw, paranoia Sir Benfro. Mae ymosodwyr Llychlynnaidd, gorchfygwyr Normanaidd a darpar frenhinoedd fel ei gilydd, wedi dod i’r lan ar draethau Sir Benfro yn ystod y mileniwm diwethaf, gan gynnwys Harri VII a laniodd yn Mill Bay ym 1485 cyn hawlio gorsedd Lloegr ym Mrwydr Bosworth.

Bae Melin

Mae penrhyn Dale, sy’n amddiffynfa naturiol i Aberdaugleddau, yn gwarchod yr aber eang nid yn unig rhag cymdogion Ewropeaidd rhyfelgar ond hefyd rhag y tywydd. Mae’r pentir creigiog fel petai’n newid ei olwg i gyd-fynd â’i rôl amddiffynnol. Ar yr ochr ddwyreiniol, yn wynebu dyfroedd llonydd y Ddau Gleddau, mae tirwedd goediog, wledig, fryniog ac mae cilfach euraid, ddiarffordd Bae Watwick, yn baradwys i nofwyr. Ond ar ochr arall y pentir mae’r creigiau’n codi mur o dywodfaen coch yn amddiffynfa rhag y gwynt, y glaw a thonnau gwyllt o’r gorllewin.

Mae Bae Westdale, sy’n edrych tuag Ynys Sgogwm, yn ferw o geryntau peryglus o dan ei glan dywodlyd, cysgodol, ac mae’n olygfa hudolus er nad yw’n fan diogel i ymdrochi. Mae’r clogwyni coch gerllaw yn denu traed ansicr yn eu blaenau ac yn eu harwain yn syth i slabyn o draeth nefolaidd. Yn ymestyn islaw llwybr yr arfordir, mae Traeth Marloes fel pinsiaid o lwch aur wedi’i daenu ar ymylon y byd. Yn syml, dyma un o’r traethau gorau ym Mhrydain.

Traeth Marloes

Gallwch dorri dwy filltir oddi ar eich taith drwy groesi’n ôl i bentref Marloes o’r fan hyn ond, gyda phenrhyn gwyllt Trwyn Wooltack yn eich denu, byddai hynny’n drueni. Mae’r llwybr swyddogol yn torri ar draws y pentir, ond mae llwybr caniataol yn cadw at yr ymylon, gan ddringo uwchben creigiau cnotiog i Drwyn Wooltack gyda’i olygfeydd dros Ynys Sgomer a Bae Sain Ffraid. Edrychwch am balod, gwylogod a huganod yn plymio am eu cinio oddi ar Ynys Sgomer cyn i chi ddilyn y llwybr i lawr i draeth Musselwick, diweddglo tywodlyd hyfryd i daith gerdded sydd â mwy na’i siar o draethau rhyfeddol.

Y FFEITHIAU

  • Pellter: 12 milltir/19.2km
  • Amser: 6 awr
  • Anhawster: Canolig
  • Dechrau: Dale
  • Diwedd: Marloes
  • Bws: O bentref Marloes, mae bws 315 yn mynd i Dale dair neu bedair gwaith y dydd, heblaw am ddydd Sul.

Os yw’r llwybr hwn rhwng Dale a Marloes wedi codi chwant cerdded Llwybr yr Arfordir arnoch, fe gewch chi fwy o deithiau cerdded ar dudalen Llwybr Arfordir Sir Benfro.