Gadewch y plant yn rhydd
Llwybrau beicio i’r teulu yn Sir Benfro
Pan fydd y plant yn llawn bywyd, mae mynd am dro ar gefn beic yn ffordd wych o weld cefn gwlad a llosgi tipyn o egni’r un pryd.
Mae gan Sir Benfro lefydd ardderchog sy’n addas i deuluoedd feicio. Mae’n llwybrau beicio di-draffig yn mynd â chi ar hyd rheilffyrdd segur, gwastad, llyfn a phrydferth. A bydd y mwy anturus yn eich plith wrth eich bodd yn gwibio ar hyd ein llwybrau beicio mynydd.
Felly ar eich beiciau, barod, ewch.
Beicio ffordd a thrac
Cardi Bach, Aberteifi
- Reid: 2 filltir o daith dwyffordd
- Caffi: Caffi’r Tŷ Gwydr, Canolfan Natur Cymru
- Llogi Beiciau: New Image Bicycles, Aberteifi (01239 621 275)
Llwybr sy’n ymlwybro drwy’r corsydd hardd ar lan Afon Teifi yw’r ‘Cardi Bach’, rhwng Hen Bont Aberteifi a Chanolfan Natur Cymru yng Nghilgerran.
Mae gan bob tymor ei le, ac mae rhywbeth yn digwydd bob adeg o’r flwyddyn. Dewch i fwynhau heidiau enfawr o adar sy’n gaeafu, cerfluniau helyg anferth, lle chwarae tu allan i’r plant a chaffi hyfryd y Tŷ Gwydr.
Lawrlwythwch daflen am lwybr beicio’r Cardi Bach.
Y Dramffordd, Saundersfoot
- Reid: 4 milltir o daith ddwyffordd
- Caffis: yn Saundersfoot a Wiseman’s Bridge
- Llogi Beiciau: Mikes Bikes, Hwlffordd
Rheilffordd segur arall sydd wedi cael adfywiad rhwng Saundersfoot, Wiseman’s Bridge a Stepaside.
Mae’r llwybr cerdded a beicio poblogaidd hwn, yn rhedeg ar hyd y clogwyni o Saundersfoot, yn diflannu i dwnnel cyn dychwelyd i olau dydd yn Wiseman’s Bridge, ac yna’n eich tywys i fyny Pleasant Valley i Stepaside.
Byddwch yn dilyn yr hen reilffordd a fyddai’n arfer rhedeg o’r hen Waith Haearn, felly mae llawer o nodweddion diddorol i’w gweld. Ac mae’r môr yn werth ei weld o’r fan hyn hefyd. Dewch â thortsh!
Lawrlwythwch Fap Beicio’r Dramffordd.
Llwybr Brunel, Neyland – Johnston – Hwlffordd
Am daith bellach, dewiswch Lwybr di-draffig Brunel, rhwng trefi Neyland, Johnston a Hwlffordd.
Mwynhewch filltiroedd o gefn gwlad tawel, golygfeydd gwych, a chymysgedd hyfryd o gaeau agored, coetiroedd a moryd.
- Reid: 18 milltir o daith ddwyffordd
- Caffi: Brunel Cafe, Marina Neyland
- Llogi Beiciau: Mikes Bikes, Hwlffordd
Beicio mynydd i’r teulu
Ddim yn rhy bell, nac yn rhy fwdlyd, na gormod o fryniau. Mae gennym dri llwybr ardderchog i brofi’ch sgiliau oddi ar y ffordd – a phob un o fewn cyrraedd caffi i dorri syched ar ddiwedd y daith.
Coedwig Pantmaenog, Rosebush
- Reid: 8 milltir
- Lluniaeth: Tafarn Sinc
- Llogi Beiciau: New Image Bicycles, Aberteifi (01239 621 275)
Mae Coedwig Pantmaenog yn lle chwarae bendigedig i feicwyr o bob oed, ac yn lle perffaith i deuluoedd roi tro ar feicio mynydd. Mae’r llwybrau’n llydan, yn agored ac yn hawdd eu dilyn, felly’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyrraedd a chwarae!
Lawrlwythwch Fap Hamdden Pantmaenog.
Parc Gwledig Llys y Frân, ger Hwlffordd
- Reid: 8 milltir (un ffordd)
- Caffi: Llys y Frân
- Llogi Beiciau: Mikes Bikes, Hwlffordd
Cronfa ddŵr dwy ran, wedi’i hadeiladu gan ddyn, yw Llys y Frân. I’r dwyrain, mae’r llwybr beicio’n wastad, yn llyfn ac yn brofiad hyfryd i’r teulu cyfan. I’r gorllewin, mae’n wylltach, gyda’i byllau mwdlyd a’i lwybrau oddi ar y ffordd. Beicio un ochr neu daclo’r cyfan? Chi biau’r dewis.
Pentir Sant Gofan – Staciau’r Heligog, ger Penfro
- Reid: 8 milltir o daith ddwyffordd
- Caffi: Bosherston Tearooms, Bosherston
- Llogi Beiciau: Mikes Bikes, Hwlffordd
Dyma le bendigedig i feicio, a’r unig ran o Lwybr Arfordir Sir Benfro y gellir mynd arni ar gefn beic. Ond mae’n faes milwrol, felly cadwch draw pan fyddan nhw’n tanio. Byddwch chi’n reidio ar hyd y clogwyni, felly mae’n ddigon gwastad, ac mae’r golygfeydd yn fendigedig – mae’n ‘rhaid’ i chi weld Pont Werdd Cymru a Chapel Sant Gofan. Mae’r llwybr yn llydan braf ond gall fod yn arw mewn mannau, felly defnyddiwch feiciau mynydd.
Lawrlwythwch Fap Castell Martin.
Ewch i Beicio Sir Benfro am ragor o wybodaeth am lwybrau ledled Sir Benfro. Bant â chi!