Atgof o’r gorffennol
Cwm Gwaun
Mae Cwm Gwaun, sy’n dipyn o ryfeddod cudd, yn dechrau yn Abergwaun, lle mae’r afon yn cwrdd â’r lli.
Yn ôl y Rough Guide, Cwm Gwaun yw un o ryfeddodau annisgwyl Sir Benfro. Ac er ei fod yn ddiarffordd, mae’n hawdd cyrraedd y cwm yn y car ac ar droed.
Dirgryniad daearegol anferth ffurfiodd y cwm serth hwn, a naddwyd y siâp V gan ruthr dŵr tawdd y rhewlifoedd. Yn ôl daearegwyr, mae ymhlith y sianeli dŵr tawdd pwysicaf ym Mhrydain o’r Oes Iâ ddiwethaf.
Mae’n rhedeg o Gwm Abergwaun tuag at Fynyddoedd y Preseli, lle mae afon Gwaun yn tarddu i’r dwyrain o Bontfaen. Am y rhan fwyaf o’i ddeg milltir, mae’r cwm o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn baradwys cefn gwlad llawn ffawydd a chyll, onn a derw.
Yn ddiweddar, gwelodd adaregwyr y gwybedog brith, telor y coed, y tingoch, titw’r wern, cnocell y cnau a’r dringwr bach yma.
Mae’r ardal yn ferw o hanes, chwedlau a thraddodiad. Yng nghwm Gwaun, mae pentrefwyr Pontfaen a Llanychaer yn dilyn traddodiad arbennig sy’n unigryw iddyn nhw.
Unwaith y flwyddyn, ar Ionawr 13eg, bydd y trigolion yn dathlu’r Hen Galan, yn ôl yr hen galendr Iwlaidd a ddisodlwyd yn1752. Bydd llawer o blant yn aros adref o’r ysgol ac yn teithio o gwmpas y pentrefi’n canu caneuon calennig a bydd y trigolion yn rhoi calennig, neu rodd bach, iddynt am eu trafferth.
Cyswllt real iawn arall â’r gorffennol yw’r hen dafarn ym Mhontfaen, y Dyffryn Arms. Mae yn yr un teulu ers 1840, ac yn atgof o dafarnau gwledig yn yr oes a fu.
“Tafarn Bessie” yw hon ac efallai y bydd y dafarnwraig ei hun, Bessie Davies, yn tywallt peint i chi o jwg, yn ei estyn i chi drwy dwll yn y wal, ac yn rhoi syniadau i chi am bethau i’w gweld yn yr ardal.