Profiadau i'ch ysbrydoli

Sydd ddim yn costio'r ddaear

Saith profiad rhyfeddol

Profiadau sy’n rhad ac am ddim

Mae rhai o brofiadau gorau bywyd yn rhad ac am ddim, ac yn Sir Benfro mae digonedd o’r rhain.

Dyma saith peth rhyfeddol i’w wneud, yn rhad ac am ddim, yn Sir Benfro:

  • Crwydro drwy goetir hynafol       

Mae gan Sir Benfro fwy na’i siar o ardaloedd mewndirol hygyrch, coetiroedd a llwybrau.

Coetir cymysg eang ar lannau moryd afon Cleddau yw Coed Canaston ac mae’n ferw o fywyd gwyllt; gwiwerod, boncathod a hyd yn oed glas y dorlan os fyddwch chi’n lwcus!

Mae Cwm Gwaun a choed Tŷ Canol, ger Trefdraeth yn lleoedd gwych i grwydro. Cwm coediog llethrog gyda choed ffawydd enfawr a rhaeadrau mwsoglyd yw Cwm Gwaun, ac mae coed derw ceinciog a glynnoedd tylwyth teg Tŷ Canol yn siwr o danio’r dychymyg.

Cofiwch lawrlwytho ein taflen dail yr hydref.

  • Darganfod traeth

Os mai dim ond un peth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod eich gwyliau, gwnewch yn siwr mai mynd i’r traeth yw hwnnw.

Gallwch ddewis o fwy na 50 o draethau, ac mae digonedd o gildraethau a chorneli cudd i’w darganfod ledled y sir.

Ewch i badlo yn y dŵr a chwilota yn y pyllau glan môr er mwyn canfod llond gwlad o greaduriaid newydd. Ewch i folaheulo a rhedeg yn droednoeth. Ewch i greu atgofion a champweithiau celf  yn y tywod – hyd nes daw’r llanw i’w olchi i ffwrdd.

Cofiwch lawrlwytho ein taflen pyllau glan môr.

  • Cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro

Enwyd Llwybr Arfordir Sir Benfro fel yr ail fan arfordirol gorau yn y byd gan National Geographic. Ac o gofio bod 186 o filltiroedd o lwybr, mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.

Cerdded yw un o’r profiadau gorau gewch chi yn Sir Benfro, ac mae’n rhad ac am ddim. Felly gwnewch addewid i’ch hunan eleni i fynd naill ai am dro bach neu am antur diwrnod cyfan i weld ein harfordir godidog a’i fywyd gwyllt.

Cofiwch lawrlwytho ein taflen gwylio morloi.

  • Ymweld â gorsaf bad achub RNLI Dinbych-y-pysgod

Ewch i orsaf bad achub drawiadol yr RNLI ar Riw’r Castell yn Ninbych-y-pysgod. Mae gan yr RNLI fwy na 200 o orsafoedd bad achub yn y DU ac mae gorsaf Dinbych-y-pysgod ymhith y prysuraf. Gwirfoddolwyr yw’r criw ymroddedig o bobl lleol sy’n achub bywydau ar y môr.

O’r ardal ymwelwyr a’r llwyfan gwylio cewch gyfle i astudio bad achub modern Hayden Miller a, bob yn ail ddydd Mawrth, os bydd y tywydd yn ffafriol, bydd y clorwth hwn o gwch yn cael ei lansio i ddyfroedd Dinbych-y-pysgod, a hynny fel arfer o flaen cannoedd o wylwyr.

Ewch i wefan RNLI Dinbych-y-pysgod i weld dyddiadau’r lansio, diwrnodau agored a’r digwyddiadau diweddaraf.

  • Gwylio lleuad lawn yn codi

Dair gwaith ar ddeg y flwyddyn bydd y lleuad lawn yn codi yn y dwyrain wrth iddi hi fachlud.

Gallwch weld hyn unrhyw le yn y sir, ond un o’r lleoedd gorau i’w wylio yw Foel Eryr ar Fryniau’r Preseli. Yma byddwch yn ddigon uchel i gael golygfa 360 gradd o Sir Benfro wrth i’r lleuad godi yn y Dwyrain a’r haul fachlud yn y Gorllewin … os yw’r tywydd yn caniatáu.

Parciwch ym Mwlch Gwynt, ar y B4329 rhwng Hwlffordd ac Eglwyswrw, a cherdded y llwybr byr i fyny i Foel Eryr. Cofiwch wisgo’n gynnes a dewch â thortsh i gerdded yn ôl i lawr.

Cofiwch lawrlwytho map Foel Eryr

  • Cefnogi cystadleuydd Ironman

Ewch i Ddinbych-y-pysgod ym mis Medi i ymuno â miloedd o wylwyr sy’n gwerthfawrogi’r corff dynol ar ei orau. Hwn yw’r unig ddiwrnod yn y flwyddyn pan fydd y ffyrdd ar gau i feicwyr, wrth i gannoedd o athletwyr proffesiynol ac amatur gystadlu yng nghystadleuaeth Ironman Cymru.

Daw cystadleuwyr i rasio o bedwar ban y byd, felly os na fyddwch yn adnabod unrhyw un sy’n cymryd rhan, dewiswch wlad a chefnogwch ymwelydd tramor. Mi fydd yn falch o bob cymeradwyaeth!

  • Syllu ar y sêr

Ar noson glir, Sir Benfro yw un o’r lleoedd gorau yn y wlad i weld y sêr a’r Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant. Po dywyllaf y noson, po fwyaf y sêr.

Dynodwyd (De) Aberllydan yn ‘Safle Darganfod Awyr Dywyll’, gyda’i leoliad ysblennydd ar ben clogwyn’n rhoi panorama 360 gradd o awyr y nos.

Y tebyg yw y gwelwch chi sêr ble bynnag y byddwch chi’n aros yn Sir Benfro, felly gwisgwch yn gynnes, gafaelwch yn eich tortsh, ewch allan ac edrychwch i fyny. A chofiwch wneud dymuniad os welwch chi seren wib!

Cofiwch lawrlwytho ein taflen syllu ar y sêr.

Gwnewch eich taith yn fwy cofiadwy byth drwy ddewis rhywle hudolus i aros: beth am olygfeydd trawiadol o’r môr neu danllwyth mawr o dân?

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi