Popeth, o gestyll tomen a beili i balasau crand
Cestyll gorau Sir Benfro
Mae hanes hir o godi gestyll yn Sir Benfro, o gestyll tomen a beili cynnar i balasau esgobion crand.
Mae cestyll yn leoedd gwych i grwydro, a dyma chwech o’r goreuon, pob un â’i orffennol arbennig ei hun.
- Castell Caeriw
Castell Normanaidd cadarn a esblygodd dros y canrifoedd yn dŷ gwledig Elisabethaidd urddasol – mae’r gwaith carreg yn adrodd hanes y newidiadau, o’r garw i’r cain. Ac nid dyna’r cwbl. O’i safle godidog ar lan afon lanwol, mae’r castell yn edrych dros 23 erw o bwll melin a melin lanwol, wedi’i hadfer, sydd ar agor i ymwelwyr. Mae pont ganoloesol a chroes Geltaidd o’r 11eg ganrif, wedi’i cherfio’n gain, yn y lle hanesyddol yma hefyd.
- Castell Cilgerran
Castell rhamantaidd, hardd o’r 13eg ganrif sy’n sefyll ar graig goediog fry uwchben Afon Teifi. Mae ei ddau dŵr crwn enfawr yno o hyd er gwaethaf ei orffennol cythryblus.
- Castell Llanhuadain
Safle hudolus i gastell sy’n debycach i Balas Esgob amddiffynedig na chastell go iawn. Ar linell rithiol y Landsger rhwng gogledd a de Sir Benfro, mae golygfeydd panoramig o’r bylchfuriau.
- Castell Penfro
Caer enfawr a man geni Harri VII. Gallwch grwydro’r tyrrau, y bylchfuriau, y tyredau a’r ceudwll tanddaearol. Mae arddangosefydd dramatig yn ailgreu golygfeydd pwysig yn hanes terfysglyd y castell a rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd.
- Castell Maenorbŷr
Cartref barwnol Normanaidd uwchlaw’r traeth hyfryd. Mae waliau, sydd mewn cyflwr da, o gwmpas clos glaswelltog, a llawer o olion capel ac ystafelloedd swyddogol. Yn ôl Gerallt Gymro, a fu yma yn y canol oesoedd, hwn yw’r ‘lle mwyaf dymunol yng Nghymru’.
- Castell Pictwn
Adeiladwyd Pictwn, sy’n groes rhwng castell canoloesol a maenordy amddiffynedig, gan Syr John Wogan y 13eg ganrif ac mae ei ddisgynyddion yn byw yno hyd heddiw. Mae’r 40 erw o erddi coediog ysblennydd yr un mor drawiadol â’r tŷ.