Traethau cudd

yn aros i amdanoch chi

Ein cyfrinach fach ni

Shhhh! Traethau cudd Sir Benfro

Os ydych wedi cerdded pob cam o Lwybr Arfordir Sir Benfro, byddwch wedi gweld y rhan fwyaf o’n traethau cudd, ond nid pob un!

Dyma’n hawgrymiadau ar gyfer y traethau gorau i dorheulo, heb weld yr un creadur byw arall…

  • Presipe ger traeth Maenorbŷr

Yn aml, bydd y traeth hyfryd hwn yn cael ei ddiystyru am ei fod drws nesaf i faes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Ngwersyll Maenorbŷr. Parciwch ger Hostel Ieuenctid Maenorbŷr a cherdded yn ôl o gwmpas perimedr y gwersyll. Ewch ar draws y cae ac i lawr y grisiau i’r traeth ac fe gewch godi cestyll tywod mewn heddwch llwyr. Chwiliwch hefyd am Curch Doors i’r cyfeiriad arall, ond dim ond pan fydd y llanw allan y gallwch gyrraedd yno.

  • Bae Lindsway, Llanisan-yn-Rhos

Mae Bae Lindsway, ger y fynedfa i ddyfrffordd y Ddau Gleddau, yn draeth enfawr pan fydd y llanw allan. Parciwch ger y clwb chwaraeon wrth ymyl ddwyreiniol Llanisan-yn-Rhos cyn dilyn y llwybr troed o gwmpas y meysydd chwarae. Daw hwn â chi i Lwybr Arfordir Sir Benfro. Trowch i’r chwith ac ewch lawr y grisiau serth i’r traeth. Chi fydd yr unig rai yno fwy na thebyg.

  • Porthselau neu Borthsele, Tyddewi 

Hanner milltir i’r de o draeth poblogaidd iawn Porth Mawr mae traeth bach tywodlyd Porthselau. Mae hwn bron â bod yn draeth preifat i wersyll Pencarnan gan mai dim ond o Lwybr yr Arfordir y gallwch ei gyrraedd. Ond mae’n werth y daith am ei fod llawer iawn yn dawelach ac yn fwy hamddenol na thraeth gwylltach Porth Mawr.

Porthlysgi
  • Bae Porthlysgi, Tyddewi 

Mwy na thraeth – bae cyfan! Mae Porthlysgi’n draeth tywodlyd sy’n disgyn yn raddol am y môr, gyda llethr o gerrig mân uwchben y blaendraeth (mae gan y rhan fwyaf o draethau Sir Benfro lethrau o gerrig mân). Bydd angen i chi barcio ym Mhorthclais a cherdded i’r gorllewin am ryw filltir, ond fe fydd werth pob cam.

  • Bae Bullslaughter, Castell Martin

Rwy’n torri addewid wrth ddatgelu hwn, ond alla i ddim peidio! Allwch chi ddim gweld hwn o Lwybr yr Arfordir felly mae angen i chi chwilio amdano’n benodol. Parciwch ar bwys Staciau’r Heligog ger Castell Martin a cherdded i’r dwyrain. Byddwch yn mynd heibio Bae Flimston, sy’n anodd (ond ddim yn amhosibl) ei gyrraedd. Ymhen hanner milltir, byddwch yn cyrraedd Bullslaughter. Mae tonnau gwych yma a digon o froc môr i wneud coelcerth i’ch cynhesu, felly cofiwch ddod â hen badell ffrio a selsig.

Efallai mai dim ond pan fydd y llanw allan y bydd modd cyrraedd rhai o’r traethau, felly cofiwch edrych ar amseroedd y llanw cyn i chi adael.

Dewch i ddarganfod eich cuddfan gyfrinachol chi.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi