Llwybrau ardderchog
5 dringfa orau Sir Benfro
Mae Alan o dîm Croeso Sir Benfro yn hongian yn rheolaidd ar raff, hanner ffordd i lawr clogwyn, ac mae wrth ei fodd!
Yma mae’n sôn am y pum llwybr sy’n rhaid, yn ei farn ef, eu dringo yn Sir Benfro.
Mae cannoedd o lwybrau clasurol ar glogwyni Sir Benfro felly sut ar y ddaear mae dewis dim ond 5? Man cychyn da yw’r radd. Dim ond ychydig o ddringfeydd gradd E yr ydw i wedi’u gwneud erioed, felly wna i ddim sôn am y rheini. Mae ambell ddringfa weddol dda i’w chael ar radd is, ond mae’n siŵr mai yn y graddau HS (Anodd Difrifol) i HVS (Anodd Difrifol Iawn) y mae’r profiadau mwy diddorol sydd o fewn ein cyrraedd ni, y bobl gyffredin, i’w mwynhau! Felly dyma nhw, fy ffefrynnau personol i.
- Sea Mist yn Saddle Head. HS 4a
Dyma asgell agored fendigedig sy’n ymwthio allan dros y môr. Mae’n gyfle gwych i dynnu lluniau ac, ar wahân i un neu ddau o symudiadau gofalus wrth i chi fentro i’r asgell, mae’n weddol hawdd. Saddle Head yw un o’r wynebau prysuraf ar Range East am fod llawer o ddringfeydd un ddringlen, gradd isel da i ymarfer arnyn nhw, heb fod rhaid i chi abseilio i lawr i’r gwaelod. Felly bydd gennych gynulleidfa yn ôl pob tebyg, a bydd rhaid i chi aros eich tro! Ar ôl gorffen, rhowch gynnig ar Blue Sky gerllaw, dringfa VS 4b gyda dwy ddringlen.
- Threadneedle Street yn Mother Carey’s Kitchen, Lydstep. HS
Cafodd hwn y llysenw Mother Scary’s yn rhannol oherwydd yr abseil MAWR sydd yma, ond mae’n gymaint o hwyl, mae’n werth dioddef y bendro ar y ffordd i mewn. Mae’r gwaelod yn llanwol felly cofiwch edrych ar eich tablau llanw. Mae’r llwybr yn dechrau yng nghefn ogof ac yn dod allan allan i’r wyneb ar graig hyfryd cyn ymuno â’r ‘Cracks’. Mae gwylogod yn nythu yn y craciau yn y graig weithiau, felly gwell peidio â dringo yma rhwng mis Mai a mis Gorffennaf, er nad oes cyfyngiadau oherwydd bod adar yn nythu yma.
- Deidre Sud, Mowing Word. HS 4a
Ar yr olwg gyntaf, mae Mowing Word, rhwng traethau De Aberllydan a Barafundle, yn amhosib o serth a chaled, ond mae un llwybr reit yn y canol sy’n hawdd iawn. Dydy o ddim yn hawdd dod o hyd iddo, ac mae’n cael ei ddefnyddio fel hoff lwybr abseilio i lawr i’r gwaelod, ond o’r holl ddringfeydd gradd E, mae dringo ar yr wyneb hwn yn brofiad gwych i fagu hyder. Dringfa dwy ddringlen yw hon i fyny hafn amlwg.
- Armorican, Craig Caerfai. VS/HVS 4c
Dyma graig ymarfer boblogaidd arall, gyda nifer o ddringfeydd gradd is, un ddringlen o safon, a’r cyfan mewn llecyn hyfryd sy’n wynebu’r de ar y pentir ger traeth Caerfai. Mae rhai’n abseilio i mewn ond mae’n hawdd sgramblo i lawr hefyd. Y ddringfa wirioneddol wych ar y clogwyn hwn yw Armorican ar ben y radd VS. Mae’n dechrau ar ongl hawdd gyda gafaelion da ond yn raddol mae’n mynd yn fwy serth ac mae’r gafaelion yn mynd yn llai ac yn llai. Mae’r ddringfa hon wedi’i chysgodi’n braf ond mae’n fregus iawn ar y top.
- Razzle Dazzle, Crystal Slabs. VS 4c
Dyma slaben hyfryd yn Range East sy’n nes i faes parcio Staciau’r Heligog na Sant Gofan. Gallwch ei chyrraedd drwy sgramblo i lawr yn ddigon rhwydd, sy’n wych os nad ydych yn hoffi abseilio. Does dim problemau llanw yma chwaith. Mae’r slaben ar ongl hawdd i ddechrau ond mae’n bolio tipyn yn y canol, sy’n hwyl fawr wrth i chi geisio tynnu’ch hun drosto. Mae’r rhan fwyaf o’r dwsin o ddringfeydd sydd yma’n debyg i’w gilydd, ond Razzle Dazzle a Gadfly sydd â’r llinellau gorau.