48 awr yn Ninbych-y-pysgod

Cymaint i’w weld, i’w wneud a’i fwyta!

Tref glan môr Sioraidd o liwiau’r enfys

48 awr yn.... Ninbych-y-pysgod

Dyma chi wrth eich desg yn breuddwydio, unwaith eto, am wyliau glan môr amser maith yn ôl; yn darllen nofel dros baned ganol bore, yn mynd am dro ar y traeth, yn mwynhau hufen iâ…

…felly trefnwch benwythnos yn un o hoff drefi glan môr Cymru; rydych chi’n haeddu hoe.

Harbwr Dinbych-y-pysgod

Beth am ddechrau’r diwrnod gyda rhywbeth i’ch cynnal – ewch i Caffé Vista am wasanaeth cyfeillgar a golygfa heb ei hail. Mae’r dre’n llawn o fwytai gwych, ac mae Fecci’s yn cynnig pysgod a sglodion traddodiadol mewn cytew heb na glwten na gwenith, wedi’u ffrïo ar wahân i chi.

Bydd y llu o fwytai a chaffis newydd sydd wedi agor erbyn hyn yn ei gwneud yn anos byth penderfynu ble i fwyta ac yfed. Rhowch gynnig ar y Sand Bar oddi ar Upper Frog Street, lle mae bwyd stryd hyfryd, a chwrw crefft y Tenby Brewing Company.

Yn Lower Frog Street, mae The Billy Can, bar bwtîc sy’n gwerthu cwrw a lager crefft yn ogystal â phrydau bistro arloesol. Ger Eglwys y Santes Fair ar y Stryd Fawr, mae The Moorning, sy’n gaffi yn ystod y dydd a bwyty gyda’r nos. Dyma le gwych ar gyfer brecwast, cinio a swper!

Tudor Square, Dinbych-y-pysgod

Ac ar ôl llenwi’ch boliau, byddwch angen mynd am dro ar y traeth! Gallwch ddewis o blith y tri sydd yn y dref ei hun, neu fentro allan ychydig i Faenorbŷr lle mae olion hen gastell, neu i Saundersfoot gerllaw, a thraeth Coppet Hall. Ac wrth gwrs byddai’n syniad da i chi alw yn y pwll gorwel yng ngwesty St. Brides Hotel and Spa.

Ewch i un o’r nifer o orielau i bori dros waith rhai o’r artistiaid lleol ardderchog; mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn ddewis poblogaidd, ac felly hefyd oriel celfyddyd gain Llewellyn’s. Mae Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cuddio i lawr Rhiw’r Cei rhwng bwyty’r Qube a’r Lifeboat Tavern. Rhaid i chi hefyd ymweld hefyd â gorsaf bad achub yr RNLI ar Riw’r Castell.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod uwchben traeth y Castell

Ar unrhyw daith i Ddinbych-y-pysgod rhaid ymweld ag Ynys Bŷr, sydd 20 munud i ffwrdd ar gwch naill ai o’r harbwr neu draeth y Castell, yn dibynnu ar y llanw. Ynys fynachaidd yw hon, ac mae urdd o fynachod Sistersaidd yn byw yn y fynachlog. Yn ogystal ag adeiladau’r ynys, sy’n cynnwys siop, swyddfa bost a goleudy, mae rhwydwaith o lwybrau yn cris-croesi’r ynys, a golygfeydd anhygoel. Cofiwch fynd i draeth y Priordy, gyda’i dywod euraid a’i ddŵr clir fel grisial, dyma’r lle perffaith i gael picnic neu hufen iâ wrth wylio’r cychod yn mynd a dod.

Traeth y Priordy, Ynys Bŷr

Os ydych yn hunanarlwyo, ewch i lawr i’r harbwr i brynu pysgod a chorgimychiaid ffres, neu os oes well gennych chi, prynwch decawe o Barbucci sy’n coginio prydau Eidalaidd o flaen eich llygaid.

Os mai bwytai moethus sydd at eich dant chi, rhowch gynnig ar The Blue Ball, Plantagenet House, neu fwyty Coast gerllaw er mwyn blasu danteithion lleol!

Ar ôl noson dda o gwsg yn unrhyw un o’r gwestai a thai llety niferus, ewch ar drip i rai o’r trysorau cudd o gwmpas Dinbych-y-pysgod. Crwydrwch drwy’r coed cochwydd, ewch i chwilota ym mhyllau’r ddôl yng Ngardd Goedwig Colby neu ewch am dro i’r ardd furiog yng Ngerddi Castell Upton.

Chwilota mewn pwll yng Ngardd Goedwig Colby

Chwiliwch am olion y Goedwig Betraidd ar draeth Amroth gyda hufen iâ yn eich llaw, a chyn troi am adref, gwyliwch fachlud godidog tra’n eistedd ar wal yr harbwr.

Anadlwch yr awyr iach, hallt, a breuddwydiwch…..

Am y tro nesa

Darllenwch am ragor o drefi Sir Benfro yn ein cyfres ’48 awr yn…’.  Arberth, Penfro, Trefdraeth, Abergwaun neu Dyddewi  – mae digon i’ch ysbrydoli.