Siopau annibynnol a digonedd o fwyd blasus
48 Awr yn.... Arberth
Mae hen brifddinas Sir Benfro yn dipyn o drysor, a’i stryd fawr heb ei hail.
Siopau ac orielau annibynnol, bwtîcs bychain, digonedd o gaffis ardderchog, ac un o leoliadau cerddoriaeth prysuraf y sir.
Pethau i’w gwneud:
Ewch am frecwast yng nghaffi Plum Vanilla cyn crwydro o amgylch emporiwm hen bethau Malthouse, edmygu arddangosiadau’r gwerthwyr blodau, neu mynd i weld gwaith celf lleol yn un o’r orielau. Yna dros ginio a gwydraid o win ym mar tapas Ultracomida, gallwch ddewis a phrynu cawsiau, cigoedd a bara lleol, potelaid neu ddwy o olew olewydd neu biclau a choffi ar gyfer y bore.
Ymhlith y bwytai blasus eraill mae Tooj, sy’n cynnig bwyd cartref Cwrdaidd traddodiadol a ffres, Bistro No. 13 am ddiodydd, cinio neu swper, a Top Joes neu Get Stuffed am bitsa. Mae Peppercorn yn gwneud stêcs a byrgyrs hyfryd, ac mae llond gwlad o siopau coffi i gael paned sydyn, a chacen wrth gwrs! Os ydych yn chwilio am bryd tecawe, gallwch ddewis o blith bwyd Indiaidd, Tsieineaidd neu bitsa.
Yn y prynhawn, beth am alw yn amgueddfa a siop lyfrau Arberth am fymryn o ddiwylliant, cyn mentro i Fire and Ice i flasu’r sorbedau coctel diweddaraf – Prosecco Mafon neu Jin a Thonig efallai? Mae gelato a sorbedau hyfryd ar gael i’r plant hefyd. Neu efallai y gallai hynny aros tan nos yfory, er mwyn gwneud yn siwr bod gennych ddigon o amser i wneud y peth yn iawn!
Os ydych yma am dipyn…
… cofiwch fynd i grwydro’r ardal; mae Arberth mewn lleoliad ardderchog, gyda llawer o’r llwybrau ar hyd Mynyddoedd y Preseli o fewn 20 munud yn y car i un cyfeiriad a llwybr yr arfordir tua’r un pellter i’r cyfeiriad arall. Mae Tyddewi, Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ac Aberteifi i gyd o fewn cyrraedd hawdd ac yn cynnig llu o weithgareddau, o gaiacio i syrffio barcud.
Ar gyfer y teulu:
Ewch i’r Creative Café am sesiwn difyr o beintio ar gyfer bob oedran, a chofiwch gadw golwg am Span Arts sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd i gadw traed a dwylo bychain yn brysur drwy gydol yr haf.
Mae pwll nofio bychan yn Arberth, ond mewn ugain munud, gallwch fod ar y traeth yn nhrefi glan môr Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, neu yn y sinema a’r pwll nofio mawr yn Hwlffordd mewn chwarter awr.
Ar gyfer siopa:
Mae stryd fawr Arberth yn cael ei hystyried ymhlith y goreuon yn y DU. Mae’n ferw o siopau annibynnol chwaethus, siopau hen bethau, orielau, crochenwaith, nwyddau i’r tŷ a gemwaith yn ogystal â delis, siopau cigydd a phoptai. Byddwch yn siŵr o gael rhywbeth unigryw yn Arberth.
Ar gyfer cyplau:
Beth am fynd am dro i gastell Arberth, neu ddysgu am hanes hynod Neuadd y Dref, y man lle carcharwyd yr enwog Ferched Beca. Yn ystod yr haf, cynhelir cerddoriaeth, ffilmiau, arddangosfeydd celf a sioeau comedi yn Neuadd y Frenhines, felly cadwch olwg ar y wefan am y rhaglen ddiweddaraf.
Am ramant:
Beth am fynd am ginio i’r Grove, ar gyrion y dref, sy’n enwog am fwyd gwych wedi’i wneud o gynhwysion lleol ac am ei ystafelloedd ysblennydd. Mae’r perchenogion Neil a Zoe bob amser yn barod am sgwrs.
Darllenwch am ragor o drefi Sir Benfro yn ein cyfres ’48 awr yn…’. Penfro, Trefdraeth, Tyddewi, Abergwaun neu Ddinbych-y-pysgod – mae digon i’ch ysbrydoli.