Cerddoriaeth, bwyd a goresgyniad olaf Prydain
48 awr yn Abergwaun
Ydych chi awydd ychydig bach o lonnydd? Mynd am dro drwy goedydd hynafol neu gwtsio o flaen y tân gyda pheint o gwrw lleol?
Cyfle efallai i agor y llyfr sydd wedi bod wrth ymyl y gwely ers misoedd? Mae Sir Benfro a thref arfordirol hyfryd Abergwaun yn eich disgwyl chi.
Yn swatio rhwng bryniau’r Preseli a’r arfordir, Abergwaun yw’r ddihangfa berffaith am benwythnos. Yn gyntaf, ewch am dro ym Mhontfaen yng Nghwm Gwaun neu drwy goedydd Pengelli gerllaw; mae’r coetiroedd derw hynafol hyn yn brydferth drwy’r flwyddyn ond yn well fyth wrth i’r dail droi’u lliw yn yr Hydref.
Yn enwog am ei cherddoriaeth, mae’r dref yn cynnal Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Abergwaun, gŵyl ddeng niwrnod sy’n denu artistiaid o bedwar ban byd. Mae nosweithiau canu gwerin Sir Benfro yn y Royal Oak bob nos Fawrth, a chroeso i bawb wrando neu ymuno. Hefyd, cynhelir AberJazz yn Abergwaun, gŵyl jazz a blŵs sy’n denu criw da bobl, sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Am frecwast arbennig, galwch yn Ffwrn ar y prif sgwâr – becws agored prysur, sydd hefyd yn gwneud byrbrydau a chinio ond, yn bwysicaf oll, bara heb ei ail. Ar ôl bore blasus, piciwch i Gwmni Bragu Bluestone neu Fragdy Cwm Gwaun i ddewis potel o gwrw casgen lleol. Gallwch alw hefyd yn y Gourmet Pig ar y sgwâr i brynu tamaid o gaws Cymreig neu graceri wedi’u gwneud yn Sir Benfro. Neu, os nad oes awydd coginio arnoch chi, beth am drefnu bwrdd ym mwyty Peppers yng nghanol y dref a mwynhau cerddoriaeth fyw ar ôl swper?
Mae llawer o fwytai hyfryd yn Nhrefdraeth sydd bum munud i ffwrdd yn y car, neu gallech deithio i fyny’r arfordir i Borthgain a’r Shed sy’n gweini bwyd môr ardderchog ar yr harbwr.
Dechreuwch eich ail ddiwrnod drwy grwydro’r siopau lleol; mae bob amser yn werth pori yn siop lyfrau Seaways, ac mae Canolfan Gelfyddydau Gorllewin Cymru yn llawn o waith celf lleol. Cyn i chi fynd, cofiwch ymweld â’r llyfrgell leol sy’n gartref i Dapestri’r Goresgyniad Olaf, sy’n adrodd hanes goresgyniad olaf Prydain ger Abergwaun ym 1797. Mae’n gampwaith 100 troedfedd o hyd a gymerodd bedair blynedd i’w gwblhau.
Bydd y garddwyr yn eich plith yn mwynhau ymweld â gardd Dyffryn Fernant, dair milltir i’r dwyrain o Abergwaun. Mae’r ardd 6 erw hon, llafur cariad Christina a David Shand, yn bleser ei gweld. Galwch hefyd yng ngardd 3 erw fferm Penlan Uchaf yng Nghwm Gwaun, nid yn unig i weld y planhigion ond hefyd yr ystafell de fendigedig gyda’i golygfeydd ar draws y cwm. Mae’r ffermwr Penlan Uchaf, Robert Vaughen hefyd yn cynhyrchu cig oen ac eidion penigamp ac efallai y gwelwch rai o’i wartheg hirgorn hardd yn crwydro’r llechweddi.
Yn y prynhawn, ewch â phicnic draw i Ben-caer. Er nad yw goleudy Pen-caer ei hun ar agor i’r cyhoedd, saif ar ynys fechan oddi ar yr arfordir ac mae’n dipyn o drysor. Dyma un o’r mannau gorau yn Sir Benfro, ac yn y DU a dweud y gwir, i wylio morloi a llamhidyddion, ac yn ystod y tymor magu mae’r traethau caregog yn frith o forloi bach sy’n hawdd eu gweld o lwybr yr arfordir.
Un awgrym bach lleol yw mynd i wylio’r machlud o’r gaer ychydig y tu draw i Abergwaun, ar y ffordd i Drefdraeth. Mae man parcio bychan oddi ar dro sydyn yn y ffordd ac yna llwybr i lawr at adfeilion y gaer a’r canonau sydd yno hyd heddiw. Cefndir hyfryd i’n machludau arbennig.
Dyna beth yw penwythnos hamddenol braf.
Wedi bod yn Abergwaun? Beth am ddarllen am ragor o’n trefi yn ein cyfres ‘48 awr yn…’. Arberth, Penfro, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod neu Dyddewi efallai? Mae gennym ddigon i’ch ysbrydoli.