Hanes y Tuduriaid, traethau gwych a the prynhawn
48 awr ym Mhenfro
Ynghudd mewn cornel fach dawel o Sir Benfro mae rhai o’r traethau gorau yn y DU, clogwyni dringo o’r radd flaenaf a thraeth syrffio gorau’r wlad.
Crwydwch drwy gastell Harri Tudur, yfwch de rhydd gydag Aunty Vi, ewch yn sownd yn nhafarn y Point House a darganfyddwch gapel o’r 14eg ganrif sydd wedi’i adeiladu mewn clogwyn.
Dyma’n dewis ni o ugain o bethau i’w gwneud mewn 48 awr ym Mhenfro a’r ardal.
- Cerdded i Fae Barafundle. Dro ar ôl tro, pleidleisiwyd y traeth prydferth hwn yn draeth gorau’r DU. Ewch yno a byddwch yn deall pam.
- Crwydro Castell Penfro, man geni Harri Tudur. Gallwch fynd i mewn i’r castell a cherdded o gwmpas waliau 900 mlwydd oed y dref gan alw yn y Cornstore, uwchben pwll y felin, am baned. Cofiwch ymweld â’r cerflun efydd o Harri VII sydd ar Bont y Felin.
- Prynu cinio ardderchog o gimwch o stondin bwyd stryd gorau’r DU – Café Môr, wrth draeth Freshwater East.
- Cerdded o gwmpas Llynnoedd Lili Bosherston at y bont wyth bwa, a mwynhau paned yng Ngardd Furiog Ystangbwll.
- Mynd i Ye Olde Worlde Cafe yn Bosherston i fwynhau te hufen blasus, hen ffasiwn gyda phaned o de rhydd.
- Crwydro o gwmpas Bae Gorllewin Angle i Point House yn y gobaith o ‘fynd yn sownd’ yno wrth i’r llanw orchuddio’r ffordd am awr – esgus perffaith am rownd arall!
- Gweld Sir Benfro o safbwynt newydd ac ymuno ag un o dywyswyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar daith mewn caiac o Gei Ystangbwll. Allan ar y dŵr, cewch fentro i ogofâu a chwarae yn y tonnau, ac yna aros i fwynhau twyni a thraeth ysblennydd Barafundle cyn padlo am adref. Dathlwch wedyn gyda’r darn mwyaf o gacen a welsoch chi erioed yn y Boathouse Café.
- Mynd ar fws cerddwyr, Gwibfws yr Arfordir a cherdded rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Mae Bosherston – Freshwater East a Freshwater West – Angle yn ddwy ran boblogaidd.
- De Aberllydan yw un o’r lleoedd gorau yn y DU i wylio’r sêr. Yn aml, bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ystangbwll yn cynnal nosweithiau syllu ar y sêr i ddangos rhyfeddodau awyr y nos.
- Traeth Freshwater West yw’r lle i ddechrau syrffio. Mae’r ysgolion syrffio lleol yn cynnig gwersylloedd syrffio; byddwch ar eich traed ac ar frig y don cyn pen dim.
- Os gallwch ymdopi ag uchder, yna Pentir Sant Gofan, ger Bosherston, yw’r lle i ymarfer eich sgiliau dringo.
- Am benwythnos rhamantus, arhoswch yn y Stackpole Inn. Mae’r bwyty tafarn ardderchog hwn yn cynnig ystafelloedd ym mhentref prydferth Ystangbwll. Mae gardd heulog yma ar gyfer diod yn y prynhawn, a bwydlen yn y bwyty sy’n siŵr o’ch temtio!
- Mynd i gwrdd â Jerry a bwyta pastai cwningen yn y Speculation Inn, ger Hundleton.
- Dod o hyd i Gapel Sant Gofan yn swatio mewn hafn yng nghlogwyni Pentir Sant Gofan ger Bosherston.
- Llys Esgob Llandyfái yw’r hyn sydd ar ôl o balas canoloesol crand Esgob Tyddewi. Lle hyfryd i grwydro.
- Staciau’r Heligog a Phont Werdd Cymru yw’r pileri craig a’r bwa craig naturiol dramatig ar Benrhyn Castell Martin. Mae’r ffordd i Staciau’r Heligog yn croesi maes tanio’r fyddin ac ar agor ar benwythnosau. Ffoniwch i holi a yw’r maes tanio ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr wythnos: Maes Tanio Castell Martin – 01646 662367
- Mynd ar daith gerdded dywysedig drwy orllewin maes tanio Castell Martin gydag un o geidwaid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Ym 1940 suddodd ‘cwch hedfan’ Sunderland T9044 oddi ar Ddoc Penfro. Erbyn hyn, mae selogion lleol wedi dod o hyd i’r llongddrylliad ac maent yn ymgymryd â’r prosiect uchelgeisiol o godi’r eicon rhyfel unigryw hwn i’r wyneb. Ewch i Ganolfan y Cychod Hedfan yn Noc Penfro i ddysgu am orsaf cychod hedfan fwyaf y byd yn Noc Penfro, gweld lluniau o’r enwog Sunderland a dysgu mwy am Frwydr yr Iwerydd.
- Dyfrgwn gyda’r wawr – Ymunwch â gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ystangbwll i weld dyfrgwn gyda’r wawr o gwmpas Llynnoedd Lili Bosherston, cyn cael te a brechdanau cig moch.
- Mae’n werth ymweld â chaffi a Gerddi Muriog Ystangbwll unrhyw adeg o’r flwyddyn. Roedd y gerddi’n cynnal tŷ ystâd Ystangbwll yn yr hen ddyddiau ond prosiect Mencap sydd yma bellach, yn cynhyrchu llysiau a blodau i’w gwerthu yn y siop. Mae’r coetir a’r arddangosfa ar safle’r hen dŷ, i gyd o fewn pellter cerdded ac yn werth eu gweld.
Am ysbrydoliaeth ar gyfer gwyliau byr, darllenwch ragor o’n cyfres ‘48 awr…’ am Arberth, Trefdraeth, Tyddewi, Abergwaun, neu Ddinbych-y-pysgod.