Mae noson ar Ynys Sgomer

Yn brofiad bythgofiadwy

Am brofiad i’w gofio

24 Awr ar Ynys Sgomer

Trefnwch wely yn yr hostel 3 seren ar yr ynys a mwynhewch noson i’w chofio yng nghanol 300,000 o adar drycin Manaw.

Palod a llamidyddion welwch chi yn ystod y dydd, ond liw nos, os fyddwch chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi’r dylluan glustiog a haid o adar drycin.       

  • Dale Sailing

Bydd eich antur yn dechrau cyn i chi fyrddio’r cwch hyd yn oed, wrth i chi wylio’r criw yn rhwyfo allan i’r ‘Dale Princess’ – eich cwch i Ynys Sgomer. Gan sefyll mewn rhes, byddwch yn pasio’r bagiau i lawr i’r cwch cyn byrddio ac yna i ffwrdd â chi am yr ynys.

Dim ond chwarter awr yw’r daith o Martin’s Haven i Sgomer ac wrth i chi nesáu at yr ynys cewch eich cipolwg cyntaf ar forlo neu bâl, y cyntaf o lawer!

Chi fydd y cwch cyntaf i lanio ar yr ynys y bore hwnnw a bydd ymwelwyr neithiwr yn sefyll ar y lan yn barod i dderbyn eich bagiau. Yna eich tro chi fydd hi i roi help llaw i lwytho’u bagiau hwythau i’r cwch. Mae’n system wych, felly cofiwch dorchi’ch llewys!

Cwch Ynys Sgomer
  • Llety Hostel 3*        

Bydd wardeniaid yr ynys, Bee ac Ed, yn cwrdd â chi oddi ar y cwch ac yn eich tywys i’r hostel ar droed. Yno, cewch olwg ar eich llety a sgwrs am fywyd gwyllt yr ynys. Cewch wybododaeth am y creaduriaid diweddaraf a welwyd, ac am y lleoedd gorau i weld bywyd gwyllt cyn mynd allan i grwydro am y dydd.

  • Pethau sy’n ‘rhaid’ i chi eu gweld ar yr ynys

Wedi i chi lanio ar yr ynys, edrychwch am griw o forloi llwydion ar y traeth islaw’r swyddfa. Hwn fydd eich blas cyntaf ar fywyd gwyllt yr ynys!

Wrth gerdded tua gogledd yr ynys fe welwch chi wylanod, gylfinirod a thylluan glustiog – os fyddwch chi’n lwcus.

Wrth Garreg Garland, edrychwch am lamhidyddion yn y tonnau ac, wrth gerdded o gwmpas arfordir y gorllewin, efallai y gwelwch chi hebogiaid tramor a brain coesgoch fyny fry.

Pen Sgomer yw’r pwynt gorllewinol, llecyn gwych arall i weld llamhidyddion a morloi, cyn i chi fynd ymlaen dros y Wig i weld y palod wrth gwrs!

Lisa Soar
Un o balod Ynys Sgomer
  • Wedi iddi nosi

Gyda’r nos, mae pawb yn cwrdd yn swyddfa’r Ynys i gofnodi’r adar, y llamhidyddion a’r morloi a welwyd yn ystod y dydd – cyfle gwych i gwrdd â wardeniaid a gwirfoddolwyr yr ynys, a chael mwy o hanesion y lle eithriadol hwn.

Wedi iddi nosi, cofiwch fynd allan i weld Adar Drycin Manaw yn cyrraedd – fe fyddwch chi’n rhyfeddu.

Byddwch yn rhannu’r ynys gyda 50% o boblogaeth y byd o adar drycin Manaw sydd wedi hedfan yr holl ffordd o’r Ariannin i fagu eu cywion yma.

Adar yr awyr yw adar drycin Manaw, sy’n eu gwneud yn ddigon lletchwith ar y ddaear, ac yn ysglyfaeth barod i wylanod cefnddu a’u tebyg. Ond mae’r tywyllwch yn eu diogelu ac mae eu niferoedd yn ffynnu yn y feithrinfa hon.

©hjhettchen
Fferm Sgomer yn y nos
  • Cofiwch bacio…

Mae’r hostel 3 seren yn gyffyrddus iawn, ac mae digonedd o offer coginio, dŵr poeth ac oer, hob nwy ac oergell ar gyfer gwesteion. Mae gobenyddion a duvets ar eich cyfer yn yr ystafelloedd gwely ond bydd angen i chi ddod â dillad gwely.

Pacio’n ysgafn sydd orau: camera, esgidiau cryfion, binocwlars, potel ddŵr, dillad cynnes, tortsh, bwyd a dillad gwely.

Ond y peth pwysicaf yw mwynhau – bydd y profiad hwn yn Sir Benfro yn aros yn eich cof ymhell wedi i’r adar drycin ddychwelyd i’r Ariannin.

Ydy Sgomer wedi’ch ysbrydoli i wneud mwy? Darllenwch ein stori – Haf o adar drycin – am hanes diwrnod y tu ôl i’r llenni gydag ymchwilwyr adar drycin Manaw ar Ynys Sgomer.

Am y newyddion diweddaraf o’r ynys, ewch i Flog Ynys Sgomer, ac i drefnu eich taith dros nos, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi