Parchwch ein tir, ein cymunedau a'n gilydd os gwelwch yn dda

Wrth i'n Llwybr Arfordir a'n traethau ailagor

Rydyn ni’n caru y gallwn ni fynd yn ôl y tu allan i archwilio a phwy sydd ddim yn caru’r arfordir!

Fel cenedl ynys, rydyn ni’n cael ein tynnu ati ond fe all fynd yn brysur.

Am eich mwynhad mwyaf, cofiwch:

Llwybr yr Arfordir.

Mae Llwybr Cenedlaethol Sir Benfro neu Lwybr Arfordir Penfro ar agor. Mae timau cynnal a chadw wedi bod yn gweithio’n galed, ar bellter diogel, i glirio’r llwybr oherwydd bod natur wedi dechrau ei adennill!

Mae Llwybr yr Arfordir yn gul mewn mannau ac fe allai fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol ar adegau. Troediwch yn ofalus wrth symud o’r neilltu a byddwch yn amyneddgar.

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Llwybr yr Arfordir, ymwelwch â: www.arfordirpenfro.cymru/

Traethau

Mae mwy na 50 o draethau yn Sir Benfro; popeth o gildraethau bychan i eangderau tywod; felly, rydych yn sicr o gael hyd i ffefryn. Os yw’n edrych yn brysurach nag yr ydych chi’n gyffyrddus ag ef, defnyddiwch ein canllaw traeth i ddod o hyd i ddewis arall.

Ystyriol o gŵn.

Mae 10 traeth yn Sir Benfro sydd â chyfyngiad llwyr neu rannol ar gŵn sy’n gadael 40 arall i’w harchwilio! Mae manylion traethau cyfyngedig i’w cael yma.

Achubwyr.

Bydd achubwyr RNLI yn cadw golwg ar 9 traeth mwyaf poblogaidd Sir Benfro, bob dydd o 10am i 6pm.

Y rhain yw:

Traeth Poppit, Trefdraeth, Porth Mawr, gogledd Niwgwl, canol Niwgwl, gogledd Aberllydan, De Dinbych-y-pysgod, Castell Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot.

Amserau llanw.

Mae’n hanfodol eich bod yn dod yn ymwybodol o’r llanwau yn Sir Benfro – maent yn FAWR ac mae’n hawdd cael eich dal.

Hefyd, bydd rhai o’n traethau’n diflannu’n llwyr ar benllanw gan adael fawr ddim tywod – yna gall ddod yn anoddach cadw pellter cymdeithasol.

Amserwch eich taith i’r traeth pan fo’r llanw ar ei isaf os gallwch. Lawrlwythwch amserlen y llanw yma.

Sbwriel, barbeciw a thanau.

Ar ôl diwrnod hir yn yr haul (hei lwc) cofiwch adael y traeth fel y cawsoch ef: yn glir o sbwriel.

Ewch â’ch sbwriel adref (bydd y biniau ar y traethau’n llenwi – peidiwch ag ychwanegu atynt rhag creu mwy o berygl i bawb).

Peidiwch chwaith fyth ag adeiladu tân agored yn ein tirwedd neu ar draethau, a meddwl eilwaith cyn defnyddio barbeciw untro – maent yn creu llawer o wres, yn gallu difrodi’r dirwedd a cychwyn tanau gwyllt yn ein Parc Cenedlaethol sy’n anghyfreithlon.

Parchu’r tir. Parchu’r gymuned. Parchu eich gilydd.