Amserlen ar gyfer
Ailagor lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru
Dyddiadau pwysig yn ailagor y sectorau lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru
6fedGorffennaf: llaciwyd cyfyngiadau aros yn lleol, sy’n golygu bod pobl yn gallu symud o gwmpas Cymru
9fedGorffennaf: adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau, i gynnwys dewisiadau ar gyfer ailagor llety gwyliau hunangynhwysol.
11fed Gorffennaf: ailagor llety gwyliau hunangynhwysol (yn amodol ar gadarnhad yn adolygiad 9fed Gorffennaf).
Beth yn union yw llety gwyliau hunangynhwysol?
Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n hollol hunangynhwysol, e.e. bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol modern a chartrefi modur a pheth llety glampio gyda’u ceginau ac ystafelloedd ymolchi eu hunain na chânt eu defnyddio gan unrhyw westeion eraill.
Hefyd yn y categori hwn:
Gwestai a llety arall gyda gwasanaeth (e.e. lleoliadau gwely a brecwast, hosteli, ac ati) sydd yn darparu ystafelloedd en suite ac sy’n gallu darparu prydau mewn ystafelloedd.
Meysydd carafanau lle mae llety’n hollol hunangynhwysol – ond bydd cyfleusterau ar y cyd yn yr eiddo’n aros ar gau, fel pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, adeiladau rhannu cawodydd a thoiledau, golchi dillad ar y cyd, ac ati, a mannau cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu deithiol lle mae gan lety unigol ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a chegin yn y cerbyd gyda chymhwyso canllawiau’n llym ar rannu mannu gwared gwastraff a thapiau dŵr.
Bydd holl gyfleusterau ar y cyd, heblaw tapiau dŵr a mannau gwared gwastraff, yn aros ar gau gan gynnwys toiledau, cawodydd, golchdai, tai bwyta, clybiau nos, bariau, caffis, ac ati.
13fed Gorffennaf: Bydd sector croeso Cymru (tafarnau, bariau a thai bwyta – awyr agored yn unig) yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored
20fed Gorffennaf: Fe all buarthau chwarae a champfeydd awyr agored ailagor
25ain Gorffennaf: Safleoedd gwersylla’n cael ailagor yn amodol ar lwyddiant agor llety hunangynhwysol ar 11eg Gorffennaf.
27ain Gorffennaf: Sinemâu, amgueddfeydd ac orielau i ailagor yn amodol ar gadarnhad
3ydd Awst: Tafarnau, bariau, tai bwyta a chaffis dan do cyn belled â bod yr amgylchiadau’n iawn ac yn amodol ar gadarnhad