Cadw Sir Benfro a Chymru yn ddiogel.

Dilyn ac Olrhain

Wrth lacio’r cyfyngiadau’n raddol, mae angen i ni oll gymryd camau i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau os ydym i lwyddo i gyfyngu ar ymlediad y clefyd.

Trwy archebu eich llety neu atyniad o flaen llaw bydd yn helpu i ni wybod pwy sy’n ymweld â Sir Benfro ac, os bydd rhywun yn dechrau dangos symptomau, byddwn yn gallu Dilyn ac Olrhain yn gyflym.

Mae olrhain cysylltiadau’n chwarae rhan bwysig wrth helpu i ni ailddechrau gweithgareddau arferol ac mae’n rhan bwysig o’n strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn, fydd yn helpu i ni fyw a gweithio ochr yn ochr â’r feirws tra pery ymchwil i chwilio am driniaethau mwy effeithiol a brechlyn. Cael gwybod mwy am broses Profi, Olrhain, Amddiffyn.

Deunydd darllen pellach

Rheoliadau coronafeirws: Gwyliau yng Nghymru – Cwestiynau cyffredin

Os bydd gennych unrhyw gwestiwn ynghylch y coronafeirws (COVID-19) ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Caiff hysbysrwydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei ddiweddaru’n rheolaidd.