Yn cynnwys meysydd parcio, cyfleusterau a bysiau
Awgrymiadau da ar gyfer ymweld
Mae wedi bod yn gyfnod ers i ni gael danteithion gwyliau: mae’n amser gwerthfawr rydyn ni’n ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy nawr.
Er mwyn gwneud y gorau o’ch egwyl ac i osgoi unrhyw siom, mae’n rhaid i chi gynllunio, cynllunio ac efallai cynllunio ychydig mwy! Gobeithio y bydd yr awgrymiadau isod yn helpu’ch taith i redeg yn esmwyth.
Timau Croesawu Ymwelwyr.
Bydd ein timau Croesawu Ymwelwyr wrth law ar draethau ac mewn trefi ledled y sir i roi cyngor a chanllawiau i chi. Popeth o ble mae meysydd parcio a thoiledau i fannau gwahanol i ymweld â hwy os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig distawach. Allwch chi mo’u methu – maent yn y gwasgodau lliw mafon tra amlwg!
Meysydd parcio.
Trefnwch eich diwrnod. Bydd y canllawiau i’n meysydd parcio yn helpu i chi gael hyd i ddewis arall os yw’r un yr ydych yn anelu amdano’n llawn ac mae’n ateb y rhan fwyaf o gwestiynau. Mae’n cynnwys mannau gwefru hefyd.
Bysiau’r arfordir.
Ar hyn o bryd mae Bysiau’r Arfordir ar amserlen gyfyngedig ac, oherwydd eu bod yn fysiau bach, rhaid i chi archebu er mwyn cadw eich sedd. Mae gan bob llwybr ei rif cyswllt ei hun ac, felly, gwelwch yr amserlenni yma. O’r 27ain Gorffennaf bydd angen mwgwd wyneb ar bob trafnidiaeth gyhoeddus; trenau, bysiau a thacsis.
Toiledau.
Mae holl doiledau Sir Benfro ar agor gallwch weld ble maent yma.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi canllawiau ar doiledau cyhoeddus mwy diogel fydd yn rhoi sicrwydd i chi bod eich diogelwch y cael y flaenoriaeth uchaf.
Siopa’n lleol.
Mae Sir Benfro’n orlawn o siopau a gwerthwyr annibynnol. Popeth o orielau’n gwerthu gweithiau celf gogoneddus i gyflenwyr adwy fferm bach yn gwerthu’r cynnyrch mwyaf ffres. Byddem yn caru pe gallech gefnogi’r busnesau lleol hyn.
Gwasanaethau cymorth.
Mae ein fferyllfeydd cymunedol yma i helpu ond fe all fod llai o staff yn rhai ohonynt a byddwch yn gorfod aros.
Cofiwch ddod â digon o foddion gyda chi i Sir Benfro. Bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn treulio amser yn cael hwyl yn hytrach na cheisio gweld fferyllydd!