Syrffio barcud

Camp sy'n mynd â hedfan barcud i'r lefel nesaf!

Cyffro nerth y gwynt

Syrffio barcud yn Sir Benfro

Sir Benfro yw’r lle perffaith i syrffio barcud; gyda’i milltiroedd o draethau tywod euraid, fel Niwgwl, a’r gwyntoedd gorllewinol hollbwysig yn chwythu’n syth o Fôr yr Iwerydd.

Y peth gwych am chwaraeon barcud yw y gallwch ddechrau gyda’r elfen symlaf, pŵer-farcuta. Mae’n addas i bob oedran a gallu, ac mae’n golygu dysgu sut i baratoi’r cyfarpar, lansio, glanio a rheoli pŵer y barcud.

Wedi i chi feistroli pŵer-farcuta, byddwch yn trosglwyddo’r sgiliau newydd hynny i dirfyrddio. Gan ddefnyddio bwrdd sglefrio oddi ar y ffordd, a barcud, gallwch deithio i ble bynnag y mynnwch; yn erbyn y gwynt, gyda’r gwynt neu i’r awyr, a hynny’n wên o glust i glust.

Wrth symud ymlaen i’r dŵr, syrffio barcud yw’r cam nesaf naturiol, a dyna pryd y bydd gwyntoedd yr Iwerydd yn ddefnyddiol. Gallwch ddewis crwydro’r arfordir, reidio tonnau neu ymarfer neidiau enfawr a thriciau cymhleth, gyda’r wefr ychwanegol o fod ar y môr.

Cyflwyniad gwych i’r gamp yw sesiwn flasu gydag un o hyfforddwyr profiadol a  chymwysedig Sir Benfro, a fydd yn darparu’r cyfarpar cywir i gyd i chi; helmed a phadiau pengliniau. Byddan nhw’n dysgu’r holl fanylion diogelwch cywir i chi ac yn eich anfon adref yn awchu am ragor.

Dyma Oli, yr hyfforddwr barcud o The Big Blue Experience yn sôn am chwaraeon barcud ac yn egluro beth yw beth yn ein hesboniad o chwaraeon barcud.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi