Paragleidio

Mwynhewch y golygfeydd godidog o fyny fry

Sir Benfro fel na’i gwelsoch erioed o’r blaen

Paragleidio yn Sir Benfro

Hediad tandem yw’r ffordd hawsaf i fwynhau pleserau paragleidio am y tro cyntaf.

Mae’n arferol troelli mewn thermal gyda Barcud wrth flaen eich adain, a golygfeydd godidog o arfordir Sir Benfro a Bryniau Preseli oddi tanoch.

A phan fyddwch wedi gwirioni, ac mae’n sicr y byddwch, gallwch ddechrau datblygu’ch diddordeb newydd ymhellach. Gallwch ddal i hedfan tandem neu fynd gam ymhellach a dechrau’ch cwrs peilot, gyda’r nod o hedfan ar eich pen eich hun.

Felly pa offer sydd ei angen arnoch? Dim ond pâr cadarn o esgidiau a dillad sy’n addas ar gyfer y mynyddoedd i ddechrau. Mae angen lefel resymol o ffitrwydd, gan fod bryn bach i’w ddringo cyn hedfan fel arfer, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i chi fod yn awchu am antur.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi