Un o’r ffyrdd gorau o grwydro’n glannau
Padlfyrddio yn Sir Benfro
Wrth badlfyrddio gallwch grwydro afonydd, aberoedd ac arfordir Sir Benfro’n dawel bach ond hefyd gallwch ddal y tonnau’n gynnar a chyrraedd tonnau na all syrffwyr eraill eu cyrraedd.
Mae cyrsiau ar gyfer dechreuwyr yn trafod pethau sylfaenol fel y gwahanol fathau o fyrddau a phadls, lle i roi eich traed a diogelwch ar y môr.
Ddim yn siŵr beth yw beth? Gofynnodd Croeso Sir Benfro i bedair merch yn eu harddegau, a brawd, roi cynnig ar badlfyrddio ar eu traed am y tro cyntaf; gallwch ddarllen am eu hanturiaethau yn Beth am…badlfyrddio.
Os ydych eisoes yn syrffio, rhowch gynnig ar gwrs pellach sy’n ymdrin â strociau padlo, troi’n gyflym, dal tonnau a rheoli’r bwrdd mewn dŵr gwyn.