Marchogaeth

Reid dros y bryniau neu garlamu ar hyd y traeth?

Gweld pobman o le gwahanol

Marchogaeth yn Sir Benfro

Unwaith y byddwch wedi marchogaeth yn Sir Benfro, fe fyddwch wedi gwirioni.

Mae crwydro’n hamddenol drwy gefn gwlad ar gefn ceffyl yn ffordd ardderchog o weld dros y gwrychoedd – y golygfeydd anhygoel y mae llawer o ymwelwyr yn eu pasio a’r bywyd gwyllt.

Bydd eich gweision stabl cymwysedig a phrofiadol yn eich paru â merlen neu geffyl sy’n addas i chi, yn dibynnu ar eich gallu. Yna byddan nhw’n mynd â chi ar y daith sy’n fwyaf addas ar gyfer eich grŵp chi, ar y rhwydwaith o lonydd a llwybrau ceffyl yn Sir Benfro. Gell ir tywys y rhai sy’n nerfus braidd, neu’n newydd i farchogaeth, ar hyd traciau coedwig hamddenol, ac yna, wrth iddynt fagu hyder, gallant arwain eu ceffyl eu hunain i lawr y lonydd bychain.

Gall marchogion mwy profiadol fynd oddi ar y ffordd i fynyddoedd y Preseli ar hyd hen lwybrau’r porthmyn, gyda’u golygfeydd panoramig, neu i lawr i draeth tywodlyd hyfryd am brofiad bythgofiadwy o garlamu drwy’r tonnau.

Beth bynnag eich gallu, bydd y stablau’n gwneud yn siwr eich bod yn gadael yn wên o glust i glust, gydag atgofion melys iawn o geffylau.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi