Hwylio cychod hwylio a dingis

Am draethau cudd a phrofiadau bywyd gwyllt anhygoel

Ymweld yn eich cwch eich hun neu’n llogi cwch yn lleol?

Hwylio yn Sir Benfro

Gyda chyfuniad o arfordir garw godidog, traethau tywodlyd eang a sawl harbwr diogel i fwrw angor, mae digon o gyfleoedd yn Sir Benfro.

Mae’r rhan fwyaf o gyfleusterau hwylio Sir Benfro o gwmpas Dyfrffordd y Ddau Gleddau, sy’n harbwr dŵr dwfn naturiol 22 milltir o hyd, sydd wedi’i gysgodi rhag popeth ond y tywydd gwaethaf un. Mae cyfleusterau marina ar gael yn Aberdaugleddau a Neyland, lle gallwch gael y rhan fwyaf o anghenion hwylwyr, o siandleriaid i logi cychod.

Os ydych yn chwilio am rywbeth llai ffurfiol, mae angorfeydd i’w cael yn y rhan fwyaf o harbwrs y sir, gan gynnwys Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot, Solfach a Phorthgain, ond cofiwch fod y rhan fwyaf o’r harbwrs llai o faint yn sych ar lanw isel.

Mae’r Ddyfrffordd ei hun yn amgylchedd perffaith ar gyfer hwylio’n dawel mewn cwch o unrhyw faint, o ddingi i griwser. Mae hefyd yn lle da i ddysgu’r grefft ar un o’r nifer o gyrsiau RYA sydd ar gael.