Golff – lincs neu barcdir?

Mae’r golygfeydd rhyfeddol yn ei gwneud yn anodd canolbwyntio ar eich gêm!

Bydd digonedd o ddewis i chi

Golff yn Sir Benfro

Mae gan Sir Benfro wyth o gyrsiau, yn cynnwys cyrsiau lincs a pharcdir.

Mae gan Sir Benfro arfordir eithriadol ac os ydych yn chwilio am gwrs golf lincs mae Dinbych-y-pysgod, clwb cysylltiedig hynaf Cymru, yn gwrs pencampwriaeth; mae Clwb Golff Dinas Tyddewi, sydd fymryn y tu allan i ddinas leiaf y DU, yn edrych dros draeth Porth Mawr; ac mae cwrs Trefdraeth, a estynnwyd i 18 twll yn ddiweddar, uwchlaw bae hyfryd Trefdraeth.

Mae gan gyrsiau parcdir Sir Benfro olygfeydd godidog draw tuag at fynyddoedd y Preseli ac ar draws moryd Aberdaugleddau. Mae Coedwig Priskilly, Trefloyne Manor (ychydig y tu allan i Ddinbych-y-pysgod), Hwlffordd, Aberdaugleddau a De Sir Benfro (ger Penfro) yn rhoi dewis gwych i olffwyr.

Felly gafaelwch yn eich clybiau ac i ffwrdd â chi am y ti cyntaf.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi