Deifio: riffiau neu longddrylliadau

Mae’n hawdd gweld mewn dŵr sy’n glir fel grisial

Dewch i ganfod byd islaw’r tonnau

Deifio yn Sir Benfro

Mae deifio yn Sir Benfro’n agor trysorfa o gynefinoedd morol ac yn gyfle i chi grwydro byd arall sy’n cuddio islaw’r tonnau.

Mae’n rhaid mai un o drysorau tanddwr Sir Benfro yw’r dyfroedd o gwmpas ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Middleholm, sy’n rhan o Warchodfa Natur Forol Sgomer ac yn un o ddim ond tair gwarchodfa o’r fath yn y DU. Ewch i weld llongddrylliad cyflawn ac adnabyddus y ‘Lucy’, a chrwydrwch y riffiau i weld â’ch llygaid eich hun y fioamrywiaeth sy’n gysylltiedig â gwarchodfeydd morol. Gallwch fod yn siŵr y bydd morloi chwilfrydig a chwareus yn eich gwylio.

Mae deifiadau ar gyfer pob dyfnder a lefel gallu, ac fe welir llamhidyddion, dolffiniaid a morloi’n yn rheolaidd, heb sôn am y rhagor na 350 o longddrylliadau sydd ar hyd a lled y dyfroedd hyn.

Wrth ddeifio allan o Abergwaun, gallwch archwilio ‘Pen-caer‘ a ‘Needle Rock,’ sef dau safle adnabyddus sydd â thopograffeg amrywiol ac sy’n ferw o fywyd gwyllt.

Ger Staciau’r Heligog a Hens and Chicks, ychydig oddi ar Aber Bach, mae rhai o’r mannau gorau o ran gallu gweld o dan y dŵr. Caiff ei amddiffyn rhag y ceryntau ac mae’n 24m o ddyfnder sy’n ei gwneud yn hawdd i ddeifio yno.

A chofiwch hefyd am Aberdaugleddau, gyda’i longddrylliadau niferus, llawer ohonynt yn yr Aber ei hun ac felly wedi’u gwarchod rhag y prif wyntoedd. Mae darganfyddiadau newydd yn digwydd drwy’r amser; yn 2012, daeth deifwyr o hyd i ffrwydryn parasiwt o’r Ail Ryfel Byd, heb ffrwydro, oddi ar Dale.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi