Cychod modur

Dysgwch sut mae gyrru eich cwch i mewn i faeau bychain cudd

Crwydro’r arfordir garw ar y môr

Cychod modur yn Sir Benfro

Os ydych chi’n ystyried prynu neu logi cwch, mae digon o gyrsiau cychod modur ar gael.

Mae’r rhain ar gael yng nganolfannau gweithgareddau Sir Benfro a chanolfannau achrededig y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, ac yn ymdrin â phopeth ar gyfer pawb, o’r dechreuwr llwyr i’r meistri profiadol.

Ac wrth ddysgu yn Sir Benfro, bydd gennych y fantais o olygfeydd arfordirol trawiadol a dyfrffyrdd mewndirol tawel, sy’n gwneud y profiad dysgu’n fwy cofiadwy byth.

Ar ddiwedd eich hyfforddiant, byddwch yn gallu trin eich cwch yn ddiogel. Beth allai fod well na mynd allan ar y dŵr gyda’ch gwialen bysgota, angori mewn bae bach diarffordd, tywallt paned o de, ac aros i’ch swper fachu?

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi