Beicio mynydd

Ydych chi’n barod am yr her?

Neidiwch ar gefn beic ac i ffwrdd â chi

Beicio mynydd yn Sir Benfro

Mae’n anodd curo’r teimlad o ryddid, hwyl a gwefr a gewch chi o feicio mynydd yn Sir Benfro, beth bynnag eich hoedran na’ch gallu.

Mae gan Sir Benfro gannoedd o filltiroedd o lefydd hygyrch i reidio oddi ar y ffordd, ar lwybrau ceffyl, llwybrau a thraciau coedwig; dewiswch fap a chynlluniwch eich antur.

Am reid hawdd, ewch am dro o gwmpas Coed Canaston gyda’i lwybrau pwrpasol drwy goetir hynafol, neu am dipyn mwy o her, beth am ddringo’r 536 metr i’r pwynt uchaf ym mynyddoedd y Preseli i gael golygfeydd panoramig ysblennydd o Sir Benfro?

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi