Ystangbwll

Mae pentref bach tlws Ystangbwll ychydig filltiroedd i’r de o Benfro, rhwng Freshwater East a Bosherston. Er bod bythynnod tlws a thŷ tafarn (y Stackpole Inn) yma, yr hyn sy’n denu pobl yma ar y cyfan yw Ystâd Ystangbwll, Cei Ystangbwll, a thraeth Barafundle.

Mae’r orsaf rheilffordd agosaf ym Mhenfro, sy’n cysylltu gyda gwasanaeth Gwibfws yr Arfordir. Mae’r bws yma’n cysylltu cymaint o fannau ar yr arfordir ag sy’n bosibl, gan gynnwys Ystangbwll a Chei Ystangbwll. Crëwyd y gwasanaeth ar gyfer cerddwyr a syrffwyr, gydag un gwasanaeth yn y bore ac un yn y prynhawn.

Roedd Ystâd Ystangbwll yn un o ystadau gwledig crand y teulu Cawdor, teulu o Gastell Cawdor yn Nairn, yr Alban, yn wreiddiol. Daeth Ystangbwll i’w meddiant pan briododd Syr Alexander Campbell, mab hynaf yr Arglwydd Cawdor, etifedd ystâd Ystangbwll, Elizabeth Lort. Un o’u disgynyddion, yr Arglwydd Cawdor o Gastell Martin, arweiniodd yr ymosodiad ar y llu Ffrengig a laniodd ger Abergwaun yn 1797. Dyma’r ymosodiad diwethaf ar dir Prydain, ac mae tapestri 100 troedfedd o hyd i goffáu’r digwyddiad i’w weld yn Neuadd y Dref, Abergwaun.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddianwyd rhan helaeth o’r ystâd gan y fyddin er mwyn creu maes hyfforddi i filwyr, gan beri i’r teulu benderfynu fod parhau i gynnal yr ystâd yn anymarferol a dychwelyd i’w hystadau yn yr Alban. Yn sgil trethi llym ar y plasty gwag, cafodd ei ddymchwel yn 1963, gan adael ond ychydig adeiladau, y parcdir, a’r pyllau lili ar ôl.

Un agwedd ddifyr o reolaeth teulu Cawdor o’r ystad oedd eu bod yn frwd iawn o blaid sobrwydd ymhlith eu tenantiaid, a hyd at eu hymadawiad yn y 1960au, yr unig fannau ar yr ystad lle gellid cael alcohol oedd mewn tai potes di-drwydded. Wrth gwrs, roedd hyn yn newyddion gwych i’r sefydliadau oedd y tu hwnt i ffiniau’r ystad, gan ei fod yn sicrhau busnes cyson gan yr yfwyr ymysg tenantiaid teulu Cawdor. Dyna un o’r rhesymau fod pedwar tŷ tafarn yn ac o gwmpas pentref Hundleton, i gyd ar dir ystad llai dirwestol ei naws, Orielton. Mae un ohonynt, y Speculation Inn yn Hundleton, yn dal i fod ar agor ac yn dafarn fywiog sy’n gwerthu cwrw Felin-foel.

Rhoddwyd gweddillion yr ystad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac adeiladwyd Canolfan Ystangbwll yno, sy’n cynnwys canolfan astudio ar gyfer ysgolion, byncws newydd, bythynnod hunanarlwyo, a chyfleusterau helaeth ar gyfer grwpiau a chynadleddau, sy’n cael eu haddasu ar gyfer ymwelwyr sydd ag anableddau.

Gweithgareddau

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal gweithgareddau yng Nghei Ystangbwll ac yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Ystangbwll, gan gynnwys arfordira, geogelcio, caiacio, gwylltgrefft, heicio, syrffio, pysgota, ac astudiaethau amgylcheddol. Gallwch fynychu fel grwpiau mawr, fel teulu, neu fel grwpiau corfforaethol.

Atyniadau

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd piau Llynnoedd Bosherston, sy’n hafan i fywyd gwyllt ac yn gynefin i ddyfrgwn, crehyrod, adar dŵr sy’n gaeafu, a mwy nag 20 rhywogaeth o was y neidr. Mae’r clogwyni calchfaen sydd rhwng Cei Ystangbwll a Chapel Sant Gofan yn safle magu pwysig i adar môr ac i’r brain coesgoch sy’n byw yno. Mae dau fae cysgodol sydd â thwyni tywod agored a thwyni coediog, ynghyd â system hŷn o dwyni, Stackpole Warren, sydd ar lwyfandir arfordirol.

Un o uchafbwyntiau di-os y rhan yma o Sir Benfro yw Traeth Barafundle, sydd heb ei ddifetha gan feysydd parcio hyd yn oed. Mae’r maes parcio agosaf i’w gael yng Nghei Ystangbwll.

Bwyd a Diod

Mae’r Stackpole Inn yn dafarn glyd a chroesawgar, fel bwthyn bach yng nghefn gwlad gyda’i erddi a’i leoliad bendigedig. Mae bwyd i’w gael yno amser cinio a chyda’r hwyr, ac mae llety gwely a brecwast 4 seren yno hefyd.

Cystal yw’r bwyd yma nes ei bod wedi’i rhestru mewn sawl llyfryn blaenllaw, gan gynnwys The AA Best Pubs for Food Lovers, The Michelin Guide, Which? Pub Guide, a Country Pubs & Inns of Wales.

Maent yn defnyddio cynnyrch lleol ac yn rhan o’r cynllun Cynnyrch Sir Benfro. Tŷ rhydd yw’r Stackpole Inn, ac maent yn gwerthu Double Dragon a Best Bitter gan fragdy Felin-foel, cwrw Reverend James gan Brains, yn ogystal ag un cwrw gwestai.

Mae caffi’r tŷ cychod yng Nghei Ystangbwll ar agor yn ystod yr haf. Does dim llawer o le y tu mewn, ond mae cwrt bach cysgodol y tu allan. Eu harbenigedd yw bwyd lleol ffres.

Llety

Mae llety gwely a brecwast i’w gael yn y Stackpole Inn, ac mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sawl eiddo hunanarlwyo ger y traeth yng Nghei Ystangbwll. Mae sawl bwthyn hunanarlwyo gerllaw, yn ogystal â llety gwely a brecwast.

Mae Ystâd Ystangbwll, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn nes at Bosherston, ac mae dewis o wahanol lety hunanarlwyo ar gael yno, gan gynnwys byncws ar gyfer grwpiau.

Yn St Petrox mae’r maes gwersylla agosaf, ac mae rhagor yn Freshwater East a Bosherston.