Wiseman’s Bridge a Stepaside
Pentref bychan glan y môr gyda thraeth creigiog, rhwng Saundersfoot ac Amroth, yw Wiseman’s Bridge. Cysylltir y pentref â Saundersfoot gan gyfres o dwneli, olion y rheilffordd gul oedd yn arfer cludo glo o’r pyllau glo lleol i Harbwr Saundersfoot.
Mae’r hen reilffordd neu dramffordd yn arwain i fyny’r dyffryn coediog tuag at adfail hanesyddol Gwaith Haearn Stepaside. Cafodd y dramffordd arwyneb newydd yn ddiweddar, ac mae’n llwybr gwych i blant feicio’r holl ffordd i Saundersfoot heb fynd ar y ffordd fawr – ac mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn hefyd. Mae’r enw Saesneg ar y dyffryn yn agos iawn at y gwir, ‘Pleasant Valley’.
Mae gwasanaeth bws rhif 351 yn cysylltu Amroth, Wiseman’s bridge, Saundersfoot, a Dinbych-y-pysgod. Mae’r orsaf rheilffordd agosaf yn Saundersfoot, ond mae hi’n bell o ganol y pentref a does dim cyfleusterau na thacsis yno. Y syniad gorau yw dod oddi ar y trên yn Ninbych-y-pysgod.
Yr unig le i barcio yw ar ymyl y ffordd uwchben y traeth, a gall fod yn brysur iawn yno yn ystod gwyliau’r haf.
Rhwng y 14eg ganrif a’r 19eg roedd y dyffryn yma’n ferw o ddiwydiant gan ei fod yn rhan bwysig o faes glo Sir Benfro. Mae’n anodd dychmygu’r prysurdeb hwnnw bellach, ond yn ei hanterth roedd 12 glofa yn yr ardal, er nad oes llawer o olion o hynny oni bai am Waith Haearn Stepaside a thwneli’r hen reilffordd erbyn heddiw. Yn Wisemans’s Bridge cynhaliwyd yr ymarferion ar gyfer glaniadau D-Day hefyd, a bu Winston Churchill yno’n goruchwylio.
Wrth ddilyn llwybr yr arfordir o Wisemans Bridge, cyn cyrraedd y twnnel cyntaf byddwch yn gweld sawl ogof gaeedig lle’r gai’r glo ei gloddio o’r clogwyn. Bellach, mae’r ogofâu’n gynefinoedd pwysig i ystlumod. Os edrychwch chi dros y canllaw ar yr ochr arall, fe welwch nodwedd difyr yn y graig ar y traeth – plyg blaendor.
Gweithgareddau
Mae’r hen dramffordd sy’n cysylltu Gwaith Haearn Stepaside â Wiseman’s Bridge a Saundersfoot yn wych ar gyfer beicio oddi ar y ffordd fawr.
Mae llithrfa gyhoeddus ar y traeth os ydych am wneud ychydig o chwaraeon dŵr, ond gall cyrraedd y dŵr dros y blaendraeth creigiog fod yn anodd pan fo’r llanw allan.
Mae digonedd i’w weld i’r ddau gyfeiriad ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, ac mae’r daith ar hyd y dramffordd i fyny’r dyffryn at y Gwaith Haearn werth chweil hefyd.
Atyniadau
Mae’n werth ymweld â Gwaith Haearn Stepaside.
Bwyd a Diod
Mae’r Wiseman’s Bridge Inn uwchben y traeth yn lle gwych i gael pryd o fwyd a mwynhau’r olygfa o’r bwyty sydd mewn ystafell haul. Yng nghefn y dafarn, oddi wrth y traeth, mae bar bach clyd, llawn cymeriad.
Ar yr arfordir rhwng Wiseman’s Bridge a Saundersfoot, mae golygfeydd dihafal o’r môr o fwyty Coast yn Coppet Hall.
Llety
Mae nifer o feysydd carafanau a gwersylla yn Wiseman’s Bridge, yn ogystal ag ychydig o leoedd gwely a brecwast. Gallwch aros yn y Wiseman’s Bridge Inn hefyd, ac mae digon o ddewis o ran llety hunanarlwyo yn yr ardal.