Tyddewi
Mae Tyddewi wedi’i enwi ar ôl nawdd sant Cymru, Dewi Sant. Hon yw’r ddinas leiaf ym Mhrydain, gyda phoblogaeth o ychydig dros 1600 o bobl. Cafodd statws dinas yn 1995, ond mae wedi bodoli ers y 5ed ganrif, a bu Dewi ei hun yn byw yma. Cafodd Tyddewi ei dynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1972.
Mae rhai o’r golygfeydd arfordirol gorau yn Sir Benfro i’w cael o Benrhyn Dewi. Dyma galon y Parc Cenedlaethol ac mae’n lle gwych i gerdded Llwybr yr Arfordir.
Abergwaun a Hwlffordd yw’r gorsafoedd rheilffordd agosaf. Mae sawl bws yn mynd i Dyddewi bob dydd.
Mae’r Gwibiwr Pâl yn mynd ar hyd arfordir Bae San Ffraid, a Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu sawl man rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Mae’r ddau wasanaeth yn wych ar gyfer y rhai sy’n cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro. Fel rheol, bydd y bysiau’n mynd yn y bore er mwyn eich gollwng ac yna’n dychwelyd i’ch nôl chi yn y prynhawn.
Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn y 12fed Ganrif, er bod sawl eglwys wedi bod ar y safle cyn hynny.
Yn anffodus, gan ei fod wrth y môr, roedd y Llychlynwyr yn dueddol o ymosod ar Dyddewi a dinistriwyd nifer o’r strwythurau hŷn.
Bellach, mae Tyddewi’n ddinas sy’n llawn cymeriad, ac yn agos at galon pawb sy’n adnabod y lle.
Gweithgareddau
Mae TYF Adventure, sy’n cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys arfordira, caiacio môr, dringo, a syrffio, wedi’u lleoli yn eu siop offer awyr agored yn Nhyddewi.
Mae nifer o gwmnïau cychod yn trefnu tripiau i weld bywyd gwyllt ar eu cychod RIB cyflym. Yn yr haf, mae tripiau i wylio dolffiniaid a morfilod yn boblogaidd, yn ogystal â thripiau hirach i weld yr haid enfawr o huganod sy’n nythu ar ynys Gwales. Mae gan Thousand Island Adventures gwch mwy traddodiadol sy’n mynd i’r warchodfa RSPB ar Ynys Dewi.
Mae’r rhan yma o Lwybr Arfordir Sir Benfro yn arbennig o dda ar gyfer cerddwyr. Gallwch gychwyn taith diwrnod hamddenol o Ganolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol. Cerddwch i Fae Caerfai, dilyn Llwybr yr Arfordir i’r gorllewin ac yna i’r gogledd nes cyrraedd St Justinians neu fae Traeth Mawr, cyn troi’ch cefn at y môr a dychwelyd i Dyddewi.
Atyniadau
Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Tyddewi mewn pant islaw’r pentref, gan ddefnyddio’r garreg binc a llwyd leol. Wrth nesáu ati o gyfeiriad y sgwâr, ni fyddwch yn gweld yr eglwys am dipyn, ond caiff ei datgelu yn ei holl ogoniant wrth i chi gamu drwy’r Porthdy.
Y drws nesaf i’r eglwys mae adfeilion Llys yr Esgob, sy’n lle difyr iawn i ymweld ag o. Dirywiodd yn sgil y diwygiad protestanaidd, a CADW sydd bellach yn cynnal yr adeilad. Yn ei anterth, roedd yn gartref caerog a hardd, ac yn un o nifer o balasau mawreddog yn Sir Benfro – megis Llys yr Esgob, Llandyfái, a Chastell Llanhuadain.
Oriel y Parc yw’r sefydliad diweddaraf yma. Cafodd Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol ei hymestyn er mwyn cynnwys oriel gelf i arddangos trysorau cenedlaethol, gan gynnwys gwaith Graham Sutherland a fu’n byw yn Sir Benfro am ran helaeth o’i oes. Mae’r oriel ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae caffi ar y safle, a digonedd o wybodaeth ar gyfer ymwelwyr.
Gwarchodfa natur RSPB yw Ynys Dewi, ac mae’n lle gwych i weld adar môr megis gwylogod a llursod yn nythu. Gallwch ymweld rhwng Ebrill a Hydref.
Mae marchnad leol dymhorol hefyd yn cael ei chynnal ar ddydd Iau o Ebrill i ddiwedd Medi.
Bwyd a Diod
Mae digonedd o ddewis o leoedd i fwyta ac yfed yn Nhyddewi.
Mae caffi a bwyty’r Refectory yn yr eglwys yn cynnig coffi yn ogystal â chinio.
Ymhlith y caffis, tafarndai, a bwytai mae St Davids Kitchen, Bwyty Cwtch, y Farmers Arms, The Bench, The Grove, Pebbles, The Meadow, The Bishops a’r Old Cross.
A pheidiwch ag anghofio Hufen Iâ Gianni’s a’r siop bysgod a sglodion!
Llety
Mae sawl gwesty da iawn yn Nhyddewi a’r cyffiniau, yn ogystal â dewis gwych o dai llety a gwely a brecwast. O ran meysydd gwersylla a meysydd carafanau, mae rhai da o gwmpas Penrhyn Dewi, a sawl un ym Mae Caerfai a Bae Porth Mawr, gan gynnwys safle’r Clwb Carafanio. Mae ambell i barc carafanau statig bychan, yn ogystal â dewis helaeth o fythynnod hunanarlwyo. Chwilio am llety.