Trefgarn a Chas-blaidd

Dau bentref bychan tua hanner ffordd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun yw Trefgarn a Chas-blaidd. Yn wahanol i Gas-blaidd, mae Trefgarn ar wasgar braidd, a does dim canol i’r pentref fel y cyfryw. Mae’r pentref yn enwocach am Geunant Trefgarn a’i dyrrau carreg tebyg i rai Dartmoor.

Mae Trefgarn yn nodedig am ei ddyffryn cul a choediog lle mae’r Cleddau Wen yn cydredeg â chledrau’r rheilffordd – rheilffordd a drechodd Brunel yn y pen draw, a’i chost bron â suddo’r Great Western Railway.

Gan fod Trefgarn a Chas-blaidd ar y brif ffordd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, mae digonedd o fysiau. Mae dwy fferi yn hwylio o Abergwaun i Rosslare yn Iwerddon bob dydd.

Dywed rhai mai yn Nhrefgarn y ganwyd Owain Glyndŵr. Ym mhen gogleddol y ceunant, yn agos i’r man lle torrwyd llwybr ar gyfer yr A40, mae Melin Nant y Coy. Does neb yn gwybod faint yw oed y felin, ond cafodd ei hail-godi yn 1844 gan deulu Evans o Blas Trefgarn. Bu’r felin yn rhan o’u hystâd am flynyddoedd nes dod i feddiant teulu’r Higgons o Faenordy Scolton, ac yna i ddwylo preifat nes ymlaen. Bellach, mae hi wedi’i hadnewyddu.

Ychydig i’r de o’r felin mae ffordd fechan yn arwain i fyny’r allt tuag at faes parcio bychan o dan Gaer Trefgarn. Mae’r gaer hon, sydd mewn lleoliad hynod o ddramatig, yn defnyddio ffurfiau naturiol y creigiau fel rhan o’i muriau amddiffynnol.  Mae’r rhagfur mewnol mewn cyflwr da ac yn cyrraedd 4m o uchder mewn rhai mannau.

Mae’n debyg i’r gaer drawiadol hon fod yn ganolbwynt system ehangach o adeiladau yn ystod yr Oes Haearn, gan fod olion cytiau crynion wedi’u canfod gerllaw, yn ogystal ag olion ffermdai caerog bychain o boptu’r ceunant.

Mae enw Cas-blaidd yn cyfeirio at y castell mwnt a beili a adeiladwyd gan y Normaniaid ar ffin y landsger. Cyfres o gaerau o’r Garn, ger Niwgwl, hyd at Amroth oedd y landsger, er mwyn gwahanu’r Normaniaid yn y de a’r Cymry yn y gogledd. Collwyd rhan o’r beili wrth adeiladu’r A40, ond mae’r hyn sydd ar ôl wedi’i glirio a’i agor i’r cyhoedd.

Gweithgareddau

Mae Canolfan Weithgareddau Sealyham ger Cas-blaidd yn cynnig ystod o weithgareddau dydd ynghyd â rhai preswyl, ar dir sych ac ar ddŵr. Bellach, maent yn ddarparwyr gweithgareddau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer rhan ‘alldaith’ Gwobr Dug Caeredin. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli mewn plasty Sioraidd a gall hyd at 120 o ddisgyblion yn ogystal ag arweinwyr aros yno. Mae ystafell deulu hefyd, ac ambell ystafell i ddau berson, i gyd yn en suite.

Yn y ceunant ei hun, mae gan Gymdeithas Pysgotwyr Sir Benfro ganolfan bysgota, gyda phwll ardderchog a llwyfan wedi’i adeiladu’n arbennig ar gyfer pysgotwyr anabl. Mae cyfleusterau picnic yno, ac mae’n hawdd i gerbydau gyrraedd yno.

Atyniadau

Amgueddfa a Pharc Gwledig Maenordy Scolton yw’r atyniad mawr lleol. Plasty Fictoraidd yw hwn, gydag arddangosfeydd yn adrodd hanes y bonheddwyr a’r gweision, gardd furiog sydd wedi’i hadnewyddu, a chanolfan wenyna yn yr hen stablau

Bwyd a Diod

Mae’r Wolfe Inn yn hen dŷ tafarn carreg, llawn cymeriad, neu gallwch roi cynnig ar y bistro modern newydd yng ngwesty’r Wolfscastle.

Yn Nhreletert gerllaw, mae tafarn dda o’r enw’r Harp a bwyty pysgod a sglodion o’r enw Something’s Cooking sydd wedi ennill gwobrau.

Llety

Mae un gwesty moethus iawn yn yr ardal o’r enw’r Wolfscastle Hotel.

Mae’r Wolfe Inn a’r Harp yn Nhreletert yn cynnig llety gwely a brecwast.

Mae sawl bwthyn hunanarlwyo yn y cyffiniau, gan gynnwys Scolton Country Cottages sydd y drws nesaf i Faenordy Scolton.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi