Trefdraeth

Trefdraeth

Mae Trefdraeth yn dref fach hyfryd ar arfordir gogleddol Sir Benfro. Mae ganddi ymwelwyr ffyddlon iawn, gyda llawer ohonynt yn treulio hafau cyfan yno bob blwyddyn, ac mae rheswm da am hynny. Mae Trefdraeth yn noddfa hamddenol, heb ei datblygu, sy’n wrthgyferbyniad perffaith i brysurdeb bywyd modern.

Gellir rhannu Trefdraeth yn ddau hanner, y strydoedd o gwmpas Stryd y Farchnad a’r ardal o gwmpas y Parrog. Ar un adeg roedd Stryd y Farchnad yn ddigon llydan i ddal stondinau marchnad ond ers hynny mae wedi ei chulhau yn sgil gosod gerddi ffrynt o flaen nifer o’r tai.

Darllenwch ein syniadau am bethau i’w gwneud pan fyddwch yn aros yn Nhrefdraeth.  – 48 awr yn Nhrefdraeth.

Mae gwasanaeth bysiau arfordirol 405, y Roced Poppit yn cysylltu Trefdraeth ag Aberteifi ac Abergwaun yn ogystal â phentrefi’r ardal.

Sefydlwyd y dref gan y Norman William FitzMartin tua 1197. Sefydlodd William Drefdraeth fel prif dref newydd Arglwyddiaeth Cemais, un o arglwyddiaethau’r Mers, ac roedd yn borthladd prysur yn bennaf yn sgil y fasnach wlân ganoloesol oedd yn prysur dyfu. Er iddo gael ei gipio oddi wrth y Cymry, parhaodd i fod yn eiddo i deulu FitzMartin hyd nes i William, Arglwydd Martin yr 2il, farw heb etifedd gwrywaidd ym 1326.

Adeiladwyd y castell yn y 12fed Ganrif ac mae’n cynnwys porthdy anferth gyda dau dŵr crwn o boptu iddo, tŵr y ddaeargell yn y de orllewin a thŵr yr Heliwr yn y gogledd orllewin. Câi’r ochr dde ddwyreiniol, a oedd yn eithaf agored i ymosodiad, ei gwarchod gan dŵr mawr siâp D.

Gerllaw’r tŵr hwn mae gweddillion rhan o’r capel a chrypt bwaog. Mae daeargell fwaog yn y tŵr de orllewinol hyd heddiw. Mae’r castell yn eiddo preifat.

Y Parrog oedd canolbwynt y gweithgarwch morwrol. Rhwng y 16eg a’r 18fed ganrif penwaig oedd prif ddiwydiant Trefdraeth ac wedi i hwn ddirywio, trodd y porthladd at fasnach arfordirol ac adeiladau llongau, hyd at y 19eg ganrif.

Gallai gêm wyllt y Cnapan fod wedi dechrau yma yn yr Oesoedd Canol fel rhyw fath o ryddhad i’r gwerinwyr lleol oddi wrth eu gwaith undonog. Dywedir mai hon oedd rhagflaenydd rygbi a’i bod yn cael ei chwarae gan drigolion Trefdraeth a thrigolion pentref cyfagos Nanhyfer. Câi ei chwarae ar y tir gwledig rhwng y ddau bentref. Doedd fawr iawn o reolau i arafu’r chwarae. Roedd dau grŵp o chwaraewyr ar bob ochr, rhai’n ymladd am y cnapan neu’r bêl ac eraill yn redwyr cyflym. Roedd symudiadau tebyg i’r sgrym a’r llinell hefyd.

Gweithgareddau

Mae’r Parrog yn Nhrefdraeth yn lle da ar gyfer unrhyw chwaraeon dŵr. Mae’n lle perffaith ar gyfer caiacio i fyny’r afon at Bont Trefdraeth neu i lawr yr afon ac allan i’r môr ac o gwmpas clogwyni ac ogofâu Pen Cemaes.

Mae clwb hwylio yn Nhrefdraeth a chynhelir nifer o ddigwyddiadau yno trwy gydol yr haf, ac mae’r cwrs golff yng Nghlwb Golff Trefdraeth yn un o’r lleoliadau gorau i chwarae golff.

Mae traeth Parrog yn Nhrefdraeth yn lle ardderchog ar gyfer chwilota yn y pyllau glan môr ac mae’r cerrig ger yr hen orsaf bad achub yn berffaith ar gyfer eu sgimio dros wyneb y dŵr.

Atyniadau

Ychydig dros 5 milltir i’r dwyrain o Drefdraeth saif Castell Henllys, bryngaer o’r Oes Efydd sydd, yn ôl yr wybodaeth a gafwyd o’r cloddiadau archeolegol, wedi’i hailgreu â thai crynion ac adeiladau eraill yn union yr un man â’r adeiladau gwreiddiol. Daw’r lle’n fyw yn yr haf pan gaiff y cyfnod ei ail-greu drwy arddangosiadau a gweithgareddau.

Ddwy filltir i’r de mae Pentre Ifan, siambr gladdu Neolithig ar ochr y bryn uwchlaw’r pentref. Mae hwn yn lleoliad anhygoel, gyda Charn Ingli a Bae Trefdraeth yn y cefndir.

Bwyd a diod

Mae nifer o dafarnau da yn Nhrefdraeth gan gynnwys y Castle Inn, y Royal Oak a’r Golden Lion. Mae’r rhain i gyd yn gwneud bwyd amser cinio a chyda’r nos.

Mae dau fwyty ardderchog yn Nhrefdraeth hefyd; Cnapan a Llys Meddyg. Mae’r rhain yn fwytai gydag ystafelloedd gwely felly maent yn cynnig llety arbennig o dda hefyd.

Mae dewis da o gaffis yn y dref ac ar y Parrog.

Llety

Mae gan Drefdraeth ddewis ardderchog o leoedd i aros. Mae gan Gwrs Golff Trefdraeth ystafelloedd gydag un o’r golygfeydd gorau yn Sir Benfro. Hefyd mae tafarnau, lleoedd gwely a brecwast, bwytai gydag ystafelloedd gwely a thai llety yn Nhrefdraeth. Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol yma, gan gynnwys nifer sydd â mynediad uniongyrchol i’r Parrog.

Hefyd mae parc gwyliau gyda chyfleusterau gwersylla ym Maenor Llwyngwair ar y ffordd i Aberteifi. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Sir Benfro gan gynnwys yn Nhrefdraeth ei hun.