Tre-fin
Mae’r pentref hanesyddol hwn ar arfordir gogleddol Sir Benfro, yn agos i Dyddewi, yn lle braf iawn os ydych am osgoi rhannau mwy twristaidd yr ardal. Bu Cerys Matthews, prif leisydd y grŵp Catatonia, yn byw yma pan yn ifanc.
Mae traeth llanw isel o dywod a cherrig mân islaw’r felin, sy’n lle gwych ar gyfer pyllau glan môr, ond ddim wir ar gyfer nofio.
Mae Gwasanaeth Bws Arfordirol Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu Tre-fin gyda Phorthgain, Tyddewi, Mathri, Pen-caer ac Abergwaun.
Mae pobl wedi byw yn Nhre-fin ers canrifoedd ac roedd y pentref yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth eglwysig Dewi Sant.
Uwchben y traeth mae nifer o hen fythynnod a gallwch weld olion hen felin sy’n dyddio o’r 15fed ganrif. Ysgrifennodd Crwys gerdd enwog, Melin Trefin, am yr ardal. Ganwyd bardd enwog arall, Edgar Phillips, neu Trefin, yma hefyd, a daeth yn Archdderwydd yn 1960. Yn y gorffennol arferai’r trigolion ethol maer ffug bob blwyddyn.
Gweithgareddau
Cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro yw’r prif weithgaredd yma, ac mae’n arbennig o dda i’r ddau gyfeiriad. Cafodd taith dda ei dangos ar gyfres Weatherman Walking y BBC.
Atyniadau
Y traeth a’r felin yw’r prif atyniadau yma, ac mae cylch cerrig modern wedi cael ei osod ar y trwyn uwchlaw’r traeth. Mae cromlech Neolithig Carreg Samson rhwng Tre-fin ac Abercastell.
Bwyd a Diod
Mae Oriel a Chaffi’r Mill a thafarn y Ship Inn ar ochr orllewinol y pentref, ger y traeth. Defnyddir cynnyrch lleol fel cranc a physgod o Borthgain yn y Ship, yn ogystal â selsig Preseli, sydd wedi ennill gwobrau aur, a chawsiau Pant Mawr.
Llety
Mae digonedd o fythynnod hunanarlwyo i’w cael yn ardal Tre-fin. Hefyd, mae hostel dda iawn a llety gwely a brecwast yn yr hen ysgol, yn ogystal â sawl llety gwely a brecwast arall.